Newyddion: Awst 2018

Gwneud arolwg o gynefin y salamandr yn Honduras

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor newydd ddychwelyd gartref o daith chwech wythnos i Honduras yng Nghanolbarth America. Mae Molly Mannion, 20, o Fangor, newydd gwblhau ail flwyddyn ei chwrs pedair blynedd MZool Sŵoleg gyda Herpetoleg. Cafodd Molly, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Friars, gyfle i gymryd rhan yn y daith Operation Wallacea fel rhan o fodiwl cwrs maes.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2018

Gall dulliau ymchwil sy'n dod o hyd i droseddwyr cyfresol helpu i arbed teigrod

Gallai offeryn proffilio daearyddol a ddefnyddir i ddal troseddwyr cyfresol helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu gan deigrod, yn ôl gwyddonwyr a fu'n cydweithio ar astudiaeth ymchwil cadwraeth arloesol.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2018

Five ways that natural nanotechnology could inspire human design

Dyma erthygl yn Saesneg gan John Thomas Prabakhar,  Darlithydd mewn Cemeg Ffisegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2018

Dod â bwrlwm Bangor i Brifwyl y Bae

Unwaith eto eleni, bydd staff Prifysgol Bangor yn cyfrannu â’u harbenigeddau at nifer o weithgareddau craidd ac ymylol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal yn ardal Caerdydd rhwng 3 - 11 Awst.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2018

Datgelu bod y Cobra Affricaniadd anferth gyffredin yn bum rhywogaeth wahanol

Mae’r cobraod  ymysg y nadroedd gwenwynig mwyaf adnabyddus.  Eto, mae papur ymchwil newydd (ZOOTAXA 1 Awst 2018  http://dx.doi.org/10.11646/zootaxa.4455.1.3)  wedi dangos bod un rhywogaeth o gobra, sef cobra’r fforest, yn cwmpasu pum rhywogaeth wahanol mewn gwirionedd. Mae dwy o’r rhywogaethau hyn, Cobra Ddu’r Fforest a Chobra Rhesog Gorllewin Affrica, yn hollol newydd i wyddoniaeth ac yn cael eu henwi am y tro cyntaf yn y papur hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2018