Cyllid Myfyrwyr
Pan fyddwch yn dod i Brifysgol, mi fydd gennych ddau brif gost, eich ffioedd dysgu a chostau byw.
Ffioedd Dysgu
Ffioedd Dysgu ydi’r hyn y bydd rhaid i chi ei dalu i’r Brifysgol er mwyn astudio eich cwrs. Nid oes rhaid i fyfyrwyr dalu’r ffi hwn o flaen llaw, mae'r taliadau. Y neges yw, astudio yn gyntaf a thalu wedyn. Pan rydych yn ennill dros £26,575 y flwyddyn byddwch yn cychwyn talu eich benthyciad yn ol.
Costau Byw
Mae gan pob myfyriwr costau byw i’w talu. Y prif costau yw llety, rhent, bwyd, dillad, llyfrau, adnoddau, teithio a chymdeithasu.
Help a Chymorth
Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae yna help ar gael i bob myfyriwr i ddelio efo costau prifysgol. Cewch help gan y llywodraeth a gan y Brifysgol.
Ewch i'n tudalennau Cyllid Myfyrwyr am fwy o wybodaeth, neu cysylltwch â’r Uned Cymorth Ariannol am gyngor a chefnogaeth.
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Rydym yn cynnig bwrsariaethau ac ysgoloriaethau gwerth £3.4m i fyfyrwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd. Ar gyfer myfyrwyr newydd, mae hyn yn cynnwys Ysgoloriaethau Teilyngdod gwerth hyd at £3,000. Mae’r bwrsariaethau a gynigwyd yn cynnwys hyd at £1,000 y flwyddyn i rai sydd ar incwm isel a £1,000 i fyfyrwyr o ofal a a myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofal.
Cewch fwy o wybodaeth a manylion ar sut i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau yma.