Newyddion Ymchwil: Tachwedd 2015

Gwaith ymchwil o'r Brifysgol yn cael ei arddangos mewn digwyddiad i ddathlu'r gwyddorau cymdeithasol mewn cymdeithas

Mae esiamlpau o waith ymchwil o Brifysgol Bangor yn cael eu hamlygu mewn cyhoeddiad newydd sy’n dathlu ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru.  Cyhoeddir 'Dadlau o Blaid y Gwyddorau Cymdeithasol Rhif 10:  Cymru' gan Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a'i Hymgyrch dros Wyddor Gymdeithasol.

Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys 14 o astudiaethau achos o ymchwil a wnaed gan sefydliadau yng Nghymru sydd wedi dylanwadu ar lywodraethau gwladol a rhyngwladol, yn ogystal â thynnu sylw at fanteision gwaith ymchwil i'r gwyddorau cymdeithasol ar gyfer polisi cyhoeddus.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015

Prifysgol Bangor i wobrwyo effaith eithriadol sy’n deillio o weithgareddau ymchwil a menter

Mae deuddeg project o Brifysgol Bangor wedi eu gosod ar y rhestr fer i ennill gwobr yn nhrydedd Noson flynyddol Gwobrau Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor, a noddir gan  Santander Universities.

Mae’r gwobrau pwysig hyn yn cydnabod ac yn dathlu effaith ymchwil, arloesedd a mentergarwch y Brifysgol ar y gymuned a’r economi gyfan. Eleni, mae’r Brifysgol yn cyflwyno categori gwobr newydd, sef, Cyfraniad Eithriadol i Gymru, i gydnabod gweithgareddau sydd wedi cael effaith sylweddol yn genedlaethol yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015

Adroddiad yn annog llywodraethau i adolygu'r ddyletswydd o addoli ar y cyd mewn ysgolion

Yn ôl y gyfraith mae angen i'r mwyafrif llethol o ysgolion gwladol yn y DU gynnal addoliad ar y cyd dyddiol (Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon) neu ddefod grefyddol (Yr Alban) i'w disgyblion.  Rhaid i’r mwyafrif o’r addoliadau hyn yn ystod unrhyw dymor ysgol fod ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf Gristnogol eu natur’, ymwneud â ‘moli neu addoli bod neu rym dwyfol’ a 'rhoi statws arbennig i Iesu Grist'.

Mae tîm ymchwil amlddisgyblaethol dan arweiniad Dr Alison Mawhinney (Ysgol y Gyfraith Bangor) wedi edrych ar y ddyletswydd hon ac, mewn cynhadledd ryngwladol a gynhaliwyd y mis hwn, lansiwyd adroddiad sy'n argymell i lywodraethau'r DU edrych drachefn ar y rheidrwydd hwn rhag blaen.   

Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2015

Canlyniadau cynnar ymchwil yn datgelu barn pobl ifanc am iechyd meddwl

Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc yng Nghymru yn cyrraedd y safonau yn ôl canfyddiadau ymchwil gynnar (17 Tachwedd).

Adroddwyd ar y canfyddiadau yn ystod lansiad Arsyllfa@Bangor, cangen gogledd Cymru Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi ei leoli yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015

Plant Cymru’n cyflwyno’r adroddiad cyntaf gan blant i’r Cenhedloedd Unedig

Gwahoddwyd disgyblion o dair ysgol leol (Ysgol Gynradd Biwmares, Ysgol Gynradd Sowthdown, Bwcle ac Ysgol Hiraddug, Dyserth) i ddigwyddiad a drefnwyd gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor (17 Tachwedd) er mwyn lansio’n ffurfiol adroddiad “Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out”. Dyma’r tro cyntaf erioed i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn dderbyn adroddiad a luniwyd gan blant 7-11 yn seiliedig ar eu hymchwil eu hunain. 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015

Trefnu bod Data ar Gael ar gyfer Ymchwil

SAIL a NWORTH yn Cytuno ar Gydweithrediad Strategol

Mae SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) a NWORTH (Uned Dreialon Cinigol Bangor sydd yn ran o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd) wedi cytuno i gydweithio mewn partneriaeth. Mae SAIL yn adnodd byd-eang yn canolbwyntio ar wella iechyd, lles a gwasanaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2015

Ymchwil gan Brifysgol Bangor i fynediad i feddyginiaethau at glefydau prin

Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor, mae cleifion â chlefydau prin yn aml yn cael profiadau llawn her, sy’n creu anawsterau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cafodd ymchwilwyr yn yGanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau fod cleifion yn aml yn wynebu anawsterau o ran cael diagnosis i’w cyflwr, mynediad at ofal arbenigol, a bod triniaeth effeithiol ar gael.

Er y cynnydd ers 10 mlynedd yn nifer y meddyginiaethau sydd ar gael i drin clefydau prin, mae mynediad at driniaeth yn broblemus, yn bennaf oherwydd eu costau uchel. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2015

How trillions of tiny solar panels could power the internet of things

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jeff Kettle o’r Ysgol Peirianneg Electronig sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015

CERQual: Dull newydd o gefnogi defnyddio tystiolaeth ansoddol wrth wneud penderfyniadau

Mae papur newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn PLOS Medicine yn disgrifio dull gweithredu arloesol ac eglur i asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn darganfyddiadau o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol. 

Bwriad y dull gweithredu newydd, a elwir yn  CERQual (‘Confidence in the Evidence from Reviews of Qualitative research’), yw helpu rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol ar gyfer penderfyniadau a pholisiau’n ymwneud â gofal iechyd a lles cymdeithasol. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2015

Allwn ni ddefnyddio eDNA fel 'chwyddwydr amgylcheddol'?

Mae syniad arloesol a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis fel un o wyth project a ddewiswyd o fewn pedwar maes 'syniad' a gyllidir drwy ffrwd cyllid ymchwil newydd "Highlight Topic" Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Ar sail eu hymchwil, gwahoddwyd y gymuned wyddonol i gyflwyno meysydd project a fyddai'n rhoi lle canolog i wyddor amgylcheddol yn y gwaith o reoli'r blaned yn gynaliadwy.  

Ymysg tua 150 o gyflwyniadau roedd "DNA amgylcheddol: cyfrwng ar gyfer ecoleg yr unfed ganrif ar hugain", sef y syniad newydd a awgrymwyd gan Brifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag academyddion a budd-ddeiliaid eraill.  Bydd y project llwyddiannus yn asesu sut y gallwn ddefnyddio technegau genetig newydd i fesur bioamrywiaeth. 

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2015