Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau

Mae’r ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr ysgolion academaidd unigol.

Efrydiaethau PhD Seicoleg

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Dwyieithrwydd

Math Cymhwyster: PhD

Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: 07 Mehefin 2019

Swm cyllid: Mae’r efrydiaeth yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu ynghyd â thâl cynnal gwerth c.£15,000 y flwyddyn, am dair blynedd yr efrydiaeth.

Dyddiad Dechrau: 01 Hydref 2019

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Dwyieithrwydd. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor. Disgwylir i’r traethawd doethurol gael ei baratoi a’i gyflwyno yn y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth ar gael am gyfnod o dair blynedd ar gyfer ymchwil yn arwain at ddoethuriaeth. Bydd disgwyl i’r myfyriwr llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth fel un o amodau’r Ysgoloriaeth.

Lle gallaf i gael hyd i fwy o wybodaeth?

Am fanylion llawn am yr ysgoloriaeth dilynwch y cyswllt yma

Dylid cyfeirio ymholiadau am y project at: Dr Thora Tenbrink (t.tenbrink@bangor.ac.uk / 01248 382263).

Efrydiaeth DTP ESRC

Mae Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, dan nawdd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (DTP Cymru), yn gwahodd ceisiadau am efrydiaeth PhD, gyda'r posibilrwydd o gael Efrydiaeth  DTP ESRC wedi ei hariannu'n llawn, a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2019.  Disgwyliwn ddyfarnu 2 efrydiaeth ddoethurol ym meysydd:

  1. Seicoleg
  2. Dwyieithrwydd

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr disglair gyda gradd dosbarth cyntaf neu 2:1 da iawn, neu radd Meistr briodol.  Mae'r Brifysgol yn rhoi gwerth ar amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog pobl o bob rhan o'r gymuned i ymgeisio. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n llawn amser ac yn rhan amser, ac mae efrydiaethau ar gael naill ai fel '1+3' (gradd Meistr lawn amser am flwyddyn gyda hyfforddiant ymchwil + astudiaethau doethurol llawn amser am dair blynedd, neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny'n rhan amser), neu '+3' (astudiaethau doethurol llawn amser am dair blynedd, neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan amser), yn dibynnu ar anghenion yr ymgeisydd. Mwy o wybodaeth.

Myfyrwyr Allanol Cartref/UE yn unig

Ysgoloriaethau Cyflawniad Ôl-radd: Mae'r Ysgol yn cynnig grant cyflawniad sef gostyngiad o £1,000 yn y ffioedd i’r 4 ymgeisydd MSc llwyddiannus gorau (pob rhaglen) o’r DU/UE sydd wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf mewn disgyblaeth cysylltiedig â Seicoleg.   Dyfernir y grant i'r 4 myfyriwr gyda gradd dosbarth cyntaf sydd wedi ennill y sgoriau uchaf yn eu traethodau hir trydedd flwyddyn. Nid oes angen cyflwyno cais ychwanegol er y dylai myfyrwyr sicrhau bod yr ysgol yn ymwybodol o'u ddosbarth gradd a'u marciau project cyn gynted ag y bo modd. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer ysgoloriaeth rhaid i chi wneud cais am gwrs meistr erbyn 1 Mai 2019.  Rhaid e-bostio canlyniadau at psychology@bangor.ac.uk. cyn gynted ag y byddwch wedi eu derbyn.
Er mwyn bod yn gymwys i gael ysgoloriaeth rhaid bod myfyrwyr yn astudio'n llawn amser.

Myfyrwyr Mewnol ac Allanol

Ysgoloriaethau MSc Ymchwil Seicoleg, MSc Seicoleg Defnyddwyr ac MSc Niwroddelweddu:’’ Tair Ysgoloriaeth Aur £2.5K ar gyfer ymgeiswyr galluog iawn i'r graddau Meistr hyn. Fe’u dyfernir ar sail cynnig project (uchafswm o 500 o eiriau) a chyflawniad academaidd.  Dylid anfon cynigion ar e-bost at psychology@bangor.ac.uk. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer ysgoloriaeth rhaid i chi wneud cais am gwrs meistr erbyn 1 Mai 2019 a rhaid cyflwyno eich cynnig project erbyn 1 Mehefin 2018.  psychology@bangor.ac.uk

Er mwyn bod yn gymwys i gael yr ysgoloriaethau hyn rhaid bod myfyrwyr yn astudio'n llawn amser.

Myfyrwyr Seicoleg Bangor yn unig (mae myfyrwyr rhyngwladol hefyd yn gymwys ar gyfer y rhain)

Ysgoloriaethau Cyflawniad Ôl-radd: Bydd pob myfyriwr Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi cael gradd dosbarth gyntaf, ac wedi gwneud cais llwyddiannus ar gyfer cwrs MSc (pob rhaglen) yn cael eu ystyried ar gyfer ysgoloriaeth sef gostyngiad o £1000 yn y ffioedd fydd yn cael eu dyfarnu i’r 8 uchaf o raddedigion sydd â’r graddau gorau cyffredinol y flwyddyn honno.  Penderfynir rhwng ceisiadau cyfartal ar sail sgôr y projectau. Rhoddir yr ysgoloriaethau hyn yn ychwanegol at y cynlluniau Ysgoloriaeth Teyrngarwch Bangor (gweler isod) ond nid ar ben unrhyw ysgoloriaethau eraill.  Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer ysgoloriaeth rhaid i chi wneud cais am gwrs meistr erbyn 1 Mehefin 2018.  Rhaid e-bostio canlyniadau at psychology@bangor.ac.uk.cyn gynted ag y byddwch wedi eu derbyn.

Er mwyn bod yn gymwys i gael yr ysgoloriaethau hyn rhaid bod myfyrwyr yn astudio'n llawn amser.

Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol

Cyllidir swyddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau fel seicolegwyr clinigol dan hyfforddiant yn gyflogedig gan Fwrdd Iechyd Conwy a Dinbych a chânt eu talu ar bwyntiau priodol (17-20) ar raddfa gyflog gymeradwy Whitley. Nid yw’r cwrs yn derbyn hyfforddeion sydd wedi ariannu eu hunain.
Edrychwch ar y NWCPP website i gael mwy o wybodaeth.

Hefyd gweler y dudalen Saesneg am y wybodaeth diweddaraf ynglyn a'r ysgoloriaethau sydd ar gael yn yr Ysgol.

Ysgoloriaethau Ôl-raddedig Price Davies

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig ymchwil yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2019.

Sylwer: ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2020 ymlaen, dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 1 Mehefin 2020 fan bellaf.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ffurflen gais.

Thomas Ellis Memorial Fund

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 1,500 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams yn galluogi ymchwil i Hanes Cymru, gan gynnwys deddfau Cymreig ac agweddau economaidd bywyd Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 7,000 i gefnogi graddedigion Hanes, Cyfraith ac Economeg dalentog sydd â diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 2,000 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn Newyddiaduraeth neu Faterion Rhyngwladol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Dwyieithrwydd

Math Cymhwyster: PhD

Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: 07 Mehefin 2019

Swm cyllid: Mae’r efrydiaeth yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu ynghyd â thâl cynnal gwerth c.£15,000 y flwyddyn, am dair blynedd yr efrydiaeth.

Dyddiad Dechrau: 01 Hydref 2019

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Dwyieithrwydd. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor. Disgwylir i’r traethawd doethurol gael ei baratoi a’i gyflwyno yn y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth ar gael am gyfnod o dair blynedd ar gyfer ymchwil yn arwain at ddoethuriaeth. Bydd disgwyl i’r myfyriwr llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth fel un o amodau’r Ysgoloriaeth.

Lle gallaf i gael hyd i fwy o wybodaeth?

Am fanylion llawn am yr ysgoloriaeth dilynwch y cyswllt yma

Dylid cyfeirio ymholiadau am y project at: Dr Thora Tenbrink (t.tenbrink@bangor.ac.uk / 01248 382263).

Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad gyrfaol merched mewn gwyddoniaeth ac am y rheswm hwn mae Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth y Brifysgol yn cefnogi graddedigion sy'n ferched i barhau gyda'u hastudiaethau. Bydd mwy o wybodaeth am yr Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth 19/20 ar gael yn fuan.

Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Am fwy o wybodaeth am y cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cliciwch yma.

Disgownt teyrngarwch i raddedigion

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Seicoleg Newid Ymddygiad a Chynllunio Iaith. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Postgrad Solutions

Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un. Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Mynediad ôl-raddedig

Gall myfyrwyr fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent yn derbyn un o’r canlynol neu’n ddi-waith cyn mynd i’r brifysgol:

  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru / Grant Cynhaliaeth
  • Bwrsariaeth Cyfle
  • Bwrsariaeth Foyer
  • Bwrsariaeth i Bobl sy’n Gadael Gofal
  • Lwfans ceisio gwaith / Cymhorthdal Incwm

Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.

Dyfernir bwrsariaeth o hyd at £500 i fyfyriwr a oedd yn derbyn y grant mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion neu roeddent yn ddi-waith.

Dyfernir £250 os oeddent yn derbyn grant rhannol pan oeddent yn israddedigion.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Cymorth Ariannol.

Bwrsariaethau Ehangu Mynediad ôl-radd

Mae’r bwrsariaethau yma wedi eu hanelu’n benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr ôl-radd llawn a rhan-amser. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Ysgoloriaethau Cydraddoldeb Rhywiol

Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau y Brifysgol yw cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae niferoedd ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o ferched neu ddynion ar lefel ôl-raddedig mewn rhai meysydd. Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg.

Beth mae'n ei gynnwys?

Telir ffioedd dysgu am gwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil un flwyddyn neu am ddwy flynedd os yw'n astudio'n rhan amser.

Ewch i dudalennau Athena Swan am fwy o wybodaeth. Dyddiad cau ceisiadau ydi dydd Gwener 28ain Mehefin 2019. Dylid danfon ceisiadau i sylw Lindsey Graham.

Addysgedau AALl

Fel rheol nid yw awdurdodau lleol yn cynnig cefnogaeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, ond mae rhai yn rhoi ystyriaeth i rai cyrsiau penodol, fel cyrsiau TAR.

Mae’n eithaf peth i gysylltu â’ch awdurdod addysg lleol yn gynnar yn y flwyddyn i holi beth a fyddent yn ei gyllido. Byddai gennych fwy o siawns i gael cyllid os yw eich cwrs yn un galwedigaethol ond bydd rhaid i chi gyflwyno achos cryf i gael addysged.

Cysylltiadau Defnyddiol

Efallai y bydd y cysylltiadau yma yn ddefnyddiol i chi ymchwilio sut i gael cyllid ar gyfer eich cwrs: