/sites/default/files/styles/16x9_1920w/public/2024-02/Sport_0.png?h=58e35806&itok=C_O9Sjgk
Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Graddau Israddedig

Bydd y radd gwyddor chwaraeon a ddewiswch yn dibynnu ar eich diddordebau penodol, er enghraifft, bydd gradd mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol yn rhoi sgiliau i chi ymgymryd â TAR i addysgu Addysg Gorfforol ar lefel Safon Uwch. Mae Gwyddorau Chwaraeon Antur yn eich arfogi â sgiliau technegol a'r gallu i addysgu mewn amrywiol ddisgyblaethau ar y dŵr ac yn y mynyddoedd.

Gweld ein Cyrsiau

Graddau Rhyngosodol

Mae’r graddau hyn wedi eu hanelu at fyfyrwyr meddygol sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y nifer gofynnol o flynyddoedd mewn Ysgol Feddygol ac sy’n dymuno cael BSc i arbenigo neu gael profiad mewn gwyddorau chwaraeon neu wyddorau chwaraeon clinigol.

Gweld ein Cyrsiau

Gradd Dilyniant

Mae'r radd chwaraeon hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio gradd sylfaen gysylltiedig mewn gwyddorau chwaraeon.

Gweld ein Cyrsiau

Myfyrwyr yn mesur y defnydd o ocsigen yn ystod ymarfer corff gan ddefnyddio bag Douglas

Pam Astudio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer?

Ym Mhrifysgol Bangor fe gewch brofiad trawsnewidiol a chefnogol. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau 'ymarferol' yn y labordy ac yn yr amgylchedd hyfforddi. Mae gennym 40 mlynedd o brofiad a chwricwlwm dan arweiniad ymchwil, sy'n ymdrin â phynciau craidd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer sef ffisioleg, seicoleg, ymarfer corff, iechyd a meddygaeth, biomecaneg a hyfforddi effeithiol. Mae'r arbenigedd sydd gennym ynghyd ag haddysgu o ansawdd uchel yn golygu y byddwn yn eich helpu i gael y canlyniad gorau posibl yn eich gradd.  

Fideo - astudio Gwyddorau Chwareon ac Ymarfer

Mae'r Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig gradd dwyieithog i fyfyrwyr sy'n awyddus i astudio modiwlau drwy'r Gymraeg.

Darlun 3d o system cyhyrau canŵydd

Cyfleoedd Gyrfa mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Nod ein rhaglenni gradd mewn gwyddorau chwaraeon yw eich gwneud mor gyflogadwy â phosibl trwy eich helpu i fagu profiad ymarferol ochr yn ochr â'r elfen addysgu. Mae'r profiad hwnnw'n cynnwys sesiynau ymarferol yn y labordy, project ymchwil neu draethawd hir ac arddangosiadau, tiwtorialau ac ymchwil. Gallwch gael profiad bywyd go iawn yn gweithio dramor ynghyd  â datblygu cymwysterau proffesiynol ychwanegol mewn nifer o feysydd.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Taith Rithiol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prifysgol Bangor

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Ymchwil ac Effaith yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol

Rhagoriaeth Ymchwil mewn Gwyddorau Chwaraeon:

  • 1af yng Nghymru/5ed yn y Deyrnas Unedig am ymchwil mewn Gwyddorau Chwaraeon; gyda 100% o ymchwil naill ai gyda'r gorau yn y byd neu ar lefel ryngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2021)

Mae pob aelod o staff yn gwneud gwaith ymchwil a hynny sy'n llywio'r addysgu.  Rydym yn rhoi pwyslais ar gymhwyso ymchwil yn ymarferol a byddwch yn cael cyfle i wneud ymchwil dan oruchwyliaeth yn ystod eich gradd. Bydd hyn yn eich helpu i ddilyn gyrfa lwyddiannus fel gweithiwr proffesiynol ym maes Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer gan fod cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar allu nodi cwestiynau ymchwil perthnasol a meddu ar y sgiliau i wneud ymchwil i ateb y cwestiynau hynny. Bydd y profiad a gewch o wneud ymchwil dan oruchwyliaeth yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ac yn caniatáu i chi gael eich mentora (mewn maes o'ch dewis) gan ymchwilydd profiadol, sydd â phrofiad o wneud ymchwil sy'n galluogi sefydliadau blaenllaw i barhau ar frig eu 'gêm' (e.e. UK Sport, y GIG, a'r Weinyddiaeth Amddiffyn). 

Mae gennym arbenigedd yn y meysydd canlynol:

  • Seicoleg Perfformiad Elît
  • Amgylcheddau Eithafol
  • Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles

Yn ystod eich cwrs gradd byddwch yn arddangos canlyniadau eich profiad ymchwil mewn Cynhadledd Myfyrwyr, sy'n cael ei chydnabod gan fyfyrwyr ac arholwyr allanol fel un o nodweddion unigryw yn ein rhaglenni gradd.  Bydd gweithio gyda'n staff academaidd a chyflwyno eich ymchwil fel hyn yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr iawn i chi megis bod yn drefnus, rheoli amser yn effeithiol, datrys problemau, sgiliau rhyngbersonol cadarnhaol, sgiliau dadansoddi a meddwl yn feirniadol.

Cyfleusterau Chwaraeon Bangor

Mae Bangor yn cynnig cyfleusterau dan do ac awyr agored ar gyfer ystod eang o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd, gan gynnwys hyfforddiant pwysau, dosbarthiadau aerobig, athletau, dringo dan do, criced dan do, tenis, sboncen, trampolinio, pêl-droed, rygbi, hoci a llawer mwy.

 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?