Diwrnod Cynefino Myfyrwyr Cartref
A fyddwch yn byw gartref yn ystod eich astudiaethau?
Os felly ac os ydych eisiau:
- cwrdd â myfyrwyr newydd eraill
- dysgu mwy am beth i’w ddisgwyl fel myfyriwr
- cyfarfod â staff a myfyrwyr
- cael taith o amgylch y brifysgol
Beth am ddod i’n diwrnod cynefino i fyfyrwyr cartref? Mae hon yn rhaglen cyn cyrraedd sy’n arbennig i fyfyrwyr israddedig newydd o ogledd Cymru fydd yn byw gartref yn ystod eu hastudiaethau ac yn teithio i’r brifysgol bob dydd.
Nod y diwrnod yw eich helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth i chi ddechrau ar eich astudiaethau. Mae’n rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol ar ffurf cyflwyniadau staff a myfyrwyr yn ogystal â gweithgareddau grŵp a digon o gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Nid yw’r dyddiad ar gyfer digwyddiad Medi 2020 wedi’i gadarnhau eto. Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i studentsupport@bangor.ac.uk.
Adborth y llynedd:
“Roeddwn i mor nerfus am yr wythnos nesaf, mae’r digwyddiad hwn wedi bod o gymorth mawr”
“Wedi gwneud ffrindiau newydd yn barod”
“Llawn gwybodaeth a defnyddiol”