Achrediad gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI)
Mae’r rhaglenni canlynol a gynigir gan Ysgol Busnes Bangor yn cael eu hachredu'n ddeuol gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI):
- MA Business and Marketing
- MA Business with Consumer Psychology
- MSc Business with Consumer Psychology
- MBA Environmental Management
- MBA Information Management
- MBA International Business
- MBA International Marketing
- MBA Law and Management
- MBA Management
- MA Management and Finance
- MSc Management and Finance
Drwy astudio un o'r rhaglenni achrededig hyn, byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Dau am un – wrth raddio, cewch gymhwyster CMI ochr yn ochr â'ch gradd Meistr Prifysgol Bangor.
- Rhoi theori ar waith – caiff cymwysterau CMI eu parchu'n fawr gan gyflogwyr, a dangosant y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gyflawni tasgau yn y gweithle.
- Sêl cymeradwyaeth – mae cymwysterau CMI yn gysylltiedig â'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) a'r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd, felly gellwch fod yn sicr bod y cymhwyster yr ydych yn ei derbyn o'r safon uchaf.
Yn ogystal â chymhwyster ychwanegol, mae bod yn aelod o'r CMI yn rhoi cyfoeth o adnoddau rheoli i chi a chefnogaeth fel mentora a chyfleoedd rhwydweithio, mynediad at y gwasanaeth dod o hyd i swydd a'r llyfrgell rheolaeth. Edrychwch ar y rhestr lawn o fanteision i aelodau yma.
Ni fydd tâl ychwanegol ar gyfer eich cymhwyster CMI - bydd yn cael ei gynnwys yn eich ffioedd hyfforddi Prifysgol Bangor.
FIDEO: Yr Athro Gareth Griffiths yn esbonio manteision astudio cymhwyster ddeuol yn Ysgol Busnes Bangor.
Ynghylch y CMI
Y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) yw’r unig gorff proffesiynol siartredig ym Mhrydain sydd wedi ymrwymo i hybu'r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth. Dyma'r unig sefydliad sy'n dyfarnu statws Rheolwr Siartredig, dilysnod unrhyw reolwr proffesiynol, ac mae'n cynnwys mwy na 100,000 o aelodau.
Cymhwyster deuol
Ar ôl graddio o un o'r rhaglenni canlynol, byddwch chi hefyd yn cael y cymhwyster CMI cyfatebol:
Rhaglen |
Cymhwyster CMI |
MA Business and Marketing |
Diploma Lefel 7 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol |
MA/MSc Business with Consumer Psychology |
Tystysgrif Lefel 7 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol |
MBA Environmental Management |
Tystysgrif Lefel 7 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol |
MBA Information Management |
Diploma Lefel 7 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol |
MBA International Business |
Diploma Lefel 7 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol |
MBA International Marketing |
Diploma Lefel 7 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol |
MBA Law and Management |
Cymhwyster Lefel 7 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol |
MBA Management |
Diploma Lefel 7 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol |
MA/MSc Management and Finance |
Tystysgrif Lefel 7 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol |
Ffioedd
Cynigir yr achrediad deuol CMI am ddim cost ychwanegol ar ben ffioedd hyfforddi Prifysgol Bangor.
Ewch i’n gwefan ffioedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd hyfforddi.