


Cyfleusterau
Gyda rhaglen estyn allan gref, mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn gweithredu nid yn unig o fewn y brifysgol, ond hefyd yn y gymuned ehangach, gan ddefnyddio ystafelloedd seminar a darlithio ar gyfer ein gweithgareddau yn ogystal ag ystafelloedd dosbarth, neuaddau cymunedol a lleoedd yn yr awyr agored. Bwriad cyfleusterau Sefydliad Confucius, sydd ar nawfed llawr 'Tŵr Cemeg' (Adeilad Alun Roberts) Prifysgol Bangor, yw cyflwyno hanes a diwylliant Tsiena a hyrwyddo cyfnewid diwylliant rhwng Tsiena a Chymru.
Mae mannau deongliadol unigryw'r Sefydliad yn tystio i bwysigrwydd y celfyddydau gweledol, gan amlygu agweddau ar ddiwylliant traddodiadol a chyfoes Tsieineaidd a Chymreig, a gweithredu fel cymorth gweledol i feithrin gwell dealltwriaeth rhwng diwylliannau'r ddwy wlad.
Pafiliwn y Ddwy Ddraig

Mae Pafiliwn y Ddwy Ddraig yn lle llawn awyrgylch, gyda murluniau trawiadol wedi'u paentio â llaw sy'n cynrychioli agweddau allweddol ar ddiwylliant a daearyddiaeth Tsieineaidd: Llyn Guilin a Bryniau Karst; Tŷ Te Tsieineaidd traddodiadol; y Wal Fawr a Safle Treftadaeth Byd Pentref Xi Di.
Goruchwyliwyd datblygu'r murluniau yn 2014 gan yr Athro Liying Zhang (cynGyd-gyfarwyddwr y Sefydliad) ac fe'u paentiwyd ganddi hi ynghydâmyfyrwyr o Goleg Menai, StacyStewarta David Carter.
Lolfa'r Ddwy Ddraig
Mae Lolfa'r Ddwy Ddraig yn dathlu ysbryd unigryw Cymru, gyda dau furlun syfrdanol o hardd o dirwedd Cymru gan Raymond Murphy a Sarah Whiteside, dau o raddedigion y cwrs BA Celfyddyd Gain.
Mae'r ddau furlun yn cyfleu grym natur a'n perthynas â hi. Mae dehongliad dramatig o Ynys Lawd ym Môn, a welir o’r môr gyda’i goleudy eiconig, yn atgoffa gwylwyr am fawredd a goruchafiaeth byd natur (Raymond Murphy).
Gyferbyn, mae portread byw o Chwarel y Penrhyn yn y 19eg ganrif yn cyfleu prysurdeb gwyllt yr oesddiwydiannol (Sarah Whiteside); gwaith a ysbrydolwyd gan ddarlun llawer cynharach Henry Hawkins o 1832.
Coridor Llinachau Brenhinol Tsieina
Yn y coridor y tu allan i'r ddwy ystafell ganolog yma ceir siart hanesyddol yn dangos Llinachau Brenhinol Tsiena o Xia (c.2000CC) i Qing (1644-1912AD), ynghyd â map manwl ar ddatblygiad hanesyddol adeiladu'r Wal Fawr yn Tsieina.