Llyfryn gyda helo mewn gwahanol ieithoedd

Ieithoedd Modern

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

Pam Astudio Ieithoedd Modern?

Ni fu sgiliau ieithoedd modern erioed yn bwysicach wrth i'r byd fynd yn fwyfwy cysylltiedig. Yn ogystal, wrth i'r Deyrnas Unedig sefydlu ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid tramor, mae cyfathrebu amlieithog yn gynyddol ganolog i fasnach a diwylliant. Ym Mangor, byddwch yn gallu datblygu dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill a mireinio eich sgiliau mewn amrywiaeth o ieithoedd a fydd yn eich galluogi i gyfathrebu â siaradwyr ieithoedd eraill ledled y byd. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwybodaeth ryngddiwylliannol a sgiliau amlieithog yn fawr a bydd yr elfennau hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad ryngwladol.

Yn ogystal â gwella eich rhagolygon cyflogaeth, trwy astudio ieithoedd ym Mangor, byddwch yn dod yn rhan o gymuned ddysgu gefnogol lle mae myfyrwyr yn teimlo'n gartrefol yn fuan iawn. Byddwch yn dysgu mewn dosbarthiadau bach, lle byddwch yn dod i adnabod y staff a'ch cyd-fyfyrwyr mewn awyrgylch cyfeillgar. Byddwch yn cael cefnogaeth trwy eich astudiaethau gan grŵp profiadol o staff ymroddedig a chyngor arbenigol mewn perthynas â'r flwyddyn dramor. Mae hefyd digon o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau iaith y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth trwy gymryd rhan yn ein cymdeithas myfyrwyr, LangSoc, cymryd rhan yn ein cynllun Cyfaill Iaith neu wirfoddoli fel Llysgennad Iaith yn un o'n hysgolion partner lleol.

Proffil Myfyriwr Sophie James

Mae Sophie yn astudio Iaith Saesneg a Ffrangeg drwy'r gyfrwng Gymraeg yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Ieithoedd Modern. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ieithoedd Modern llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ieithoedd Modern ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ieithoedd Modern ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Ieithoedd Modern

Mae ein proffil ymchwil rhyngwladol  mewn ieithoedd modern yn deillio o waith deinamig ein staff academaidd ac ymchwil, sydd wedi creu projectau o bwys, yn unigol ac mewn cydweithrediad ag eraill, ym meysydd hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig, Sbaenaidd, Almaeneg ac Eidalaidd, gydag arbenigedd cynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Tsieinëeg.

Rydym yn falch o'n perfformiad cryf yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y Llywodraeth (REF 2014), a farnodd fod 76% o'n hymchwil o safon ryngwladol ragorol neu gyda'r gorau yn y byd, gyda chanlyniadau nodedig iawn o ran effaith ein hymchwil. 

Mae gennym gryfderau ymchwil arbennig yn y meysydd canlynol: safbwyntiau ôl-drefedigaethol at ddiwylliannau Ffrengig a Sbaenaidd, gwleidyddiaeth cofio a choffáu, llên teithio, astudiaethau Catalanaidd a Galisaidd, troseddu trefnedig yn yr Eidal, cyfieithu, grym a disgwrs beirniadol, ffilm a hunaniaeth genedlaethol, diwylliant poblogaidd a chomics, diwylliannau materol a thestunau materol, diwylliannau gweledol a chelf gyfoes.

Mae ein myfyrwyr yn elwa o gymuned ymchwil fywiog a chynhwysol. Mae ein hymchwil yn sail i'n haddysgu ac rydym hefyd yn cynnal Fforwm Ymchwil cyffrous bob tymor, sy'n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys sgyrsiau gan ysgolheigion gwadd a'n staff ymchwil a myfyrwyr ein hunain, cyfarfodydd lansio llyfrau a pherfformiadau celf, cerddoriaeth a barddoniaeth.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?