Delwedd agos o lyfrau yn y llyfrgell gydag effaith ddisglair hudolus

Barn ein myfyrwyr

James Szewczyk

James Szewczyk
Yn Astudio: Sŵoleg gyda Herpetoleg 
O: Llundain, Y Deyrnas Unedig

“Bangor yw’r unig le yn Ewrop lle gall y rhai sy’n gwirioni ar ymlusgiaid ac amffibiaid astudio a dysgu mwy am yr anifeiliaid hynod ddiddorol hynny. Mae sŵoleg gyda herpetoleg yn darparu amrywiaeth eang o fewn y modiwlau, a phob un yn wirioneddol ddiddorol a hwylus. Mae'r cwrs yn fy nghynorthwyo i reoli fy mhroject ynghylch y gwrthdaro rhwng y crocodeil a dyn yn Uganda a deall y camau sy'n ofynnol wrth gynnal ymchwil. 

“Saif Bangor rhwng mynyddoedd syfrdanol Eryri a thraethau tawel Ynys Môn, ac mae’n lle perffaith ar gyfer crwydro’r ardal. Mae'r Gymdeithas Padlfyrddio’n fodd i ymgolli yn yr amgylchedd hwnnw, a mwynhau'r gweithgareddau y maent yn eu cynnig hefyd.

“Nid yw'n syndod bod y Gymdeithas Herpetolegol hefyd wedi gwneud fy mhrofiad ym Mangor yn un arbennig, trwy ddod â siaradwyr arbenigol i mewn i drafod amrywiaeth o bynciau gyda sesiynau holi ac ateb, weithiau dros beint yn y dafarn leol.

“Mae Bangor yn cynnig cymaint, bu’n brofiad anhygoel imi gael byw, astudio a gweithio yma.” 

"Mae Bangor yn cynnig cymaint, bu’n brofiad anhygoel imi gael byw, astudio a gweithio yma.”

James Szewczyk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?