Delwedd agos o lyfrau yn y llyfrgell gydag effaith ddisglair hudolus

Barn ein myfyrwyr

Amy Stout

Amy Stout
Yn Astudio: Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid 
O: Caerdydd, Cymru

“Bu astudio Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid yn brofiad anhygoel. Mae yma ddarlithwyr ysbrydoledig yn ymchwilio i lawer o bynciau amrywiol, ac o’n cwmpas mae bioamrywiaeth anhygoel Gogledd Cymru. Ym Mangor, bûm yn canolbwyntio ar fy niddordebau trwy wahanol gyfleoedd a modiwlau, a bu’n fodd i sbarduno fy mrwdfrydedd dros yrfa mewn sŵoleg. 

“Un o'r rhesymau mae Bangor mor annwyl imi yw'r dirwedd o amgylch y ddinas a'r cyfleoedd sydd, wrth astudio ac o  ran cael seibiant oddi wrth y llyfrau. Mae Eryri ac Ynys Môn yn cynnig dihangfa berffaith o fywyd prysur y brifysgol, a chymdeithasau fel y Gymdeithas Padlfyrddio, sy’n cynnig ffordd hwyliog o archwilio'r ardaloedd cyfagos gyda chyd-fyfyrwyr.

“Cymuned y myfyrwyr yw’r hyn sy’n gwneud Bangor yn lle arbennig. Mae maint y ddinas a lleoliad y Brifysgol yn berffaith i fyfyrwyr, ac os nad yw elltydd yn eich poeni, mae popeth sydd ei angen arnoch ar stepen y drws! Mae’n hawdd ymgartrefu ym Mangor.” 

Cymuned y myfyrwyr yw’r hyn sy’n gwneud Bangor yn lle arbennig.

Amy Stout

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?