Delwedd agos o lyfrau yn y llyfrgell gydag effaith ddisglair hudolus

Barn ein myfyrwyr

Owain Arwel Hughes

Owain Arwel Hughes
Yn Astudio: Cymraeg  
O: Ynys Môn, Cymru

"Cefais fy magu ar Ynys Môn, ac roedd yn benderfyniad mawr i mi ddewis astudio mewn prifysgol mor agos at fy nghynefin. Roeddwn i wedi clywed am yr ethos croesawgar ym Mhrifysgol Bangor, ac roeddwn yn awyddus i astudio mewn prifysgol lle mae'r gymuned Gymraeg yn gryfach nag unrhyw le arall!  

“Rwy’n astudio’r Gymraeg ym Mangor, ac mi wnes i hefyd elwa o'r bwrsariaethau sydd ar gael i gefnogi’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  

"Rwy’n gynrychiolydd UMCB blwyddyn gyntaf, ac yn ogystal rwyf wedi mwynhau cymryd rhan mewn trefniadau rhyng-golegol, ac wedi cael profiad da yn paratoi ar gyfer teithiau. Rwyf hefyd wedi mwynhau cyfrannu at weithgareddau wythnosol Y Cymric, sef adain gymdeithasol UMCB.   

"Rwy'n byw yn Neuadd JMJ, a dyma un o'r penderfyniadau gorau i mi ei wneud erioed. Dwi wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd yma, ac yn wir yn teimlo fy mod yn rhan o gymuned glos lle mae un peth craidd yn ein cysylltu ni i gyd, sef y Gymraeg. Os yn disgrifio fy amser ym Mhrifysgol Bangor mewn un gair, y gair y byddwn yn ei ddefnyddio fyddai: anhygoel!"

Mi wnes i elwa o'r bwrsariaethau sydd ar gael i gefnogi’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Owain Arwel Hughes

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?