Delwedd agos o lyfrau yn y llyfrgell gydag effaith ddisglair hudolus

Barn ein myfyrwyr

Siriol Hughes

Siriol Hughes
Yn Astudio: Y Gyfraith 
O: Bangor, Cymru

"Rydw i’n wreiddiol o Fangor ac felly roeddwn wedi clywed cymaint o bethau da am y Brifysgol, a chwaraeodd hyn ran fawr yn fy mhenderfyniad i astudio fy ngradd yma. 

"Mae ochr gymdeithasol fy mhrofiad ym Mangor wedi bod yn wych, mae cymaint o weithgareddau yn cael eu trefnu gan UMCB, ac rydych chi bob amser yn teimlo eich bod yn rhan o rywbeth arbennig. 

"Rwy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau chwaraeon y Cymric, ac mae hwn wedi bod yn brofiad gwych, nid yn unig yn gymdeithasol, ond hefyd oherwydd ei fod yn fy helpu i gadw’n heini.

"Rwy’n astudio’r Gyfraith, ac yn astudio pob modiwl y gallaf drwy gyfrwng y Gymraeg; mae fy holl diwtorialau yn Gymraeg ac mae’r darlithwyr mor gefnogol. Mae hyn wir wedi gwneud gwahaniaeth i fy mhrofiad dysgu."

Rwy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau chwaraeon y Cymric, ac mae hwn wedi bod yn brofiad gwych.

Siriol Hughes

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?