Fy ngwlad:

Defnydd Cynaliadwy, Cadwraeth ac Ecoleg Adnoddau Naturiol

Ymchwil ac Iddo Effaith

Mae gan y Coleg hanes hir a llwyddiannus o hybu ymchwil ac iddo effaith ar y byd y tu hwnt i'r Brifysgol. Un nodwedd o'n hymchwil yw'r dull rhyngddisgyblaethol o weithredu sy'n hollbwysig i fynd i'r afael â'r heriau cynyddol a chymhleth sy'n wynebu pobl y byd, gan gynnwys newid amgylcheddol byd-eang, colli bioamrywiaeth, dirywiad y pridd a defnydd anghynaliadwy ar adnoddau naturiol, cysylltiadau, cynhyrchu pŵer a glanhau cemegol. Mae effaith lefel uchel i'n hymchwil.

Meintioli effeithiau pysgota ar yr ecosystem fel sail i bolisïau ac arferion llywodraethau, diwydiant a mân-werthwyr mewn perthynas â physgodfeydd cynaliadwy

Ers 1998, bu Ymchwil Bangor yn arloesi, a hynny trwy astudiaethau arbrofol, astudiaethau cymharol, modelu a chydweithio gyda diwydiant, ym maes meintioli effeithiau pysgota ar yr ecosystem ehangach, a chynefinoedd gwely'r môr yn benodol.

Darllen Mwy

Cadwraeth ac adfer mawndir yn rhyngwladol a gwella ansawdd dŵr yfed trwy ymchwilio i atafaelu carbon mawndir

Mae ein hymchwil wedi effeithio ar bolisi'r Deyrnas Unedig a pholisi rhyngwladol o ran cadwraeth mawndiroedd/gwlyptiroedd ac adfer ar gyfer lliniaru'r newid yn yr hinsawdd a phuro dŵr, trwy ddangos sut mae mawndiroedd yn gweithredu fel sinc carbon byd-eang  hollbwysig a'u bod yn rheoleiddio'r hinsawdd ac ansawdd y dŵr.

Darllen Mwy

Cynhyrchodd bridio genetig newydd gyda chymorth marciwr hybrid miled perlog a dyfwyd ar 700,000 ha o ardaloedd sy'n dueddol o brofi sychder yng Ngogledd India gan wella diogelwch bwyd tair miliwn o bobl

Bu'r ymchwil a ddefnyddiai'r technegau newydd o ddethol gyda chymorth marciwr genetig yn fodd i ddatblygu hybridau miled perlog newydd uchel eu cynnyrch, sy'n gallu gwrthsefyll afiechydon a sychder, y a chafoddHHB67-Improvedei ryddhau ledled India.

Darllen Mwy

Mae mathau newydd o reis yn gwella bywoliaeth miliynau o aelwydydd yn India a Nepal

Defnyddiodd yr ymchwil a wnaed o dan arweiniad yr Athro John Witcombe yn BEAA ddetholiad amrywogaethol cyfranogol newydd (PVS) i wella mabwysiadu yr amrywiad reis poblogaidd BG1442 yn Nepal a datblygwyd 10 math newydd o reis trwy ddefnyddio ei ddull newydd, arloesol o fridio sy'n canolbwyntio ar y cleient (COB) yn India a Nepal.

Darllen Mwy

Mae amrywiad india corn GM-6 yn dod â £55 miliwn o fuddion i fwy na 300,000 o ffermwyr prin eu hadnoddau yng Ngorllewin India

Rhyddhawyd GM-6, amrywiad newydd ar india corn a ddatblygwyd trwy'r ymchwil arloesol  a wnaeth Bangor ar fridio cnydau (gan arloesi â defnydd o fridio planhigion cyfranogol) mewn tair talaith yng Ngorllewin India rhwng 2002 a 2005.

Darllen Mwy

Defnyddiau newydd ar gyfer ffracsiynu biomas planhigion yn y diwydiant cynhwysion bwyd

Cynyddu cynnyrch cydrannau ffibr biomas gwerthfawr a'u defnydd yn y diwydiant bwyd i'r eithaf trwy ddulliau echdynnu ffibr planhigion newydd, cost-effeithiol ac ecogyfeillgar a ddatblygwyd gan BEAA.

Darllen Mwy

Gwella ôl traed carbon cynhyrchion bwyd

Mae ymchwil Bangor wedi effeithio'n ddirfawr ar bolisïau cyrchu a dosbarthu llysiau ac arfer cynhyrchwyr bwyd ffres mawrion ac archfarchnadoedd y Deyrnas Unedig.

Darllen Mwy

Y Ganolfan BioGyfansoddion

Mae'r Ganolfan BioGyfansoddion yn chwarae rhan flaenllaw yn y bioeconomi trwy arloesi mewn bioddeunyddiau i ddiwydiant megis deunydd pecynnu bwyd cynaliadwy yn lle plastigau. Bu'r Ganolfan yn arwain ar adroddiad allweddol ar gyfer Canolfan Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig:
Spear, M., Hill, C., Norton, A., Price, C., Ormondroyd, G. (2019). Wood in Construction in the UK: An Analysis of Carbon Abatement Potential. Extended Summary. Fe'i cyhoeddwyd fel atodiad i adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd "Biomass in a low-carbon economy". Adroddiad i'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd.