Astudiaethau Achos REF 2021
Yn arddangos yr ystod o astudiaethau achos effaith a gyflwynwyd gan Goleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor
Themâu Ymchwil
Mae gan y Coleg gryfder lle mae ymchwil yn y cwestiwn o ran Defnydd Cynaliadwy, Cadwraeth ac Ecoleg Adnoddau Naturiol, sy'n rhychwantu amgylcheddau'r môr a'r tir ac sy'n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy morol, pysgodfeydd a dyframaeth, parth yr arfordir, coedwigoedd, y dirwedd amaethyddol, ac ar hyd y gadwyn werth gyfan o ddeunyddiau adnewyddadwy a chynhyrchion cemegol bio-seiliedig.
Sail y thema Defnydd Cynaliadwy, Cadwraeth ac Ecoleg Adnoddau Natur yw rhagoriaeth ymchwil mewn chwe maes gwyddoniaeth a thechnoleg:
Sail y thema Defnydd Cynaliadwy, Cadwraeth ac Ecoleg Adnoddau Natur yw rhagoriaeth ymchwil mewn chwe maes gwyddoniaeth a thechnoleg:
Ffocws penodol o'n hymchwil ryngddisgyblaethol rhwng gwyddorau amgylcheddol a pheirianneg electronig yw datblygu synwyryddion a rhwydweithiau synhwyro (ar dronau, mewn priddoedd a dŵr croyw, ac wedi'u gosod ar dda byw ac infertebratau) ar gyfer cymwysiadau amgylcheddol ac amaethyddol.
Ymchwil gyda'r orau yn y byd
Mae Bangor yn un o'r 25 prifysgol orau yn y Dyernas Unedig ar gyfer cyllid grant ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Barnwyd bod 75% o'r ymchwil a gyflwynwyd i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 gan Goleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hynny'n gosod y Coleg yn yr 25 uchaf ymhlith prifysgolion y Deyrnas Unedig mewn tri maes pwnc: Gwyddorau'r Amgylchedd, Amaethyddiaeth a Pheirianneg Electronig. Mae ymchwil ar gynnydd yn y Coleg. Cynyddodd ei sgôr ansawdd 20% ers yr asesiad ymchwil blaenorol yn 2008, y pumed cynnydd mwyaf o blith holl brifysgolion y Deyrnas Unedig, sy'n rhoi'r Coleg yn safle 16 am ei 'phŵer ymchwil'.
Cafodd effaith ein hymchwil sgôr uchel arbennig REF2014: cawsom sgôr o 90% o leiaf gyda'r gorau yn y byd neu ragorol yn rhyngwladol ar gyfer y mesur hwn yng Ngwyddorau'r Amgylchedd ac Amaethyddiaeth. Hefyd, roedd Prifysgol Bangor yn 7fed yn y Deyrnas Unedig, ac yn 1af yng Nghymru, am yr effaith a gafodd ei chyhoeddiadau ymchwil amaethyddol-dechnolegol mewn arolwg pwysig a gynhaliwyd ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig, "Encouraging a British Invention Revolution: Sir Andrew Witty’s Review of Universities and Growth".
Cafodd ymchwil y Coleg gryn sylw mewn dau Archwiliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg BEIS gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd yn 2019:
- “The North West Nuclear Arc Science and Innovation Audit: A Science and Innovation Audit Report sponsored by the Department for Business, Energy and Industrial Strategy” (ar y cyd â Phrifysgol Manceinion University).
- “North West Coastal Arc: Partnership for Clean and Sustainable Growth: A Science and Innovation Audit Report sponsored by the Department for Business, Energy and Industrial Strategy”o dan arweiniad Prifysgol Lancaster gyda mewnbwn sylweddol gan Brifysgol Bangor. [A/NEU GYSWLLT Â PHRIF WEFAN YR ADRODDIAD: http://www.northwestcoastalarc.net/ ]
Mae gan y Coleg hanes cadarn o gydweithio ar ymchwil yn rhanbarthol â Phrifysgolion eraill Cymru, yn ogystal â'r rhai yng ngogledd-orllewin Lloegr. Arweiniodd Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil Bangor, yr Athro David Thomas, Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru mewn Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd i Lywodraeth Cymru ac, ar ôl dewis cystadleuol, cafodd pump o'r wyth clwstwr ymchwil eu harwain gan academyddion o Fangor. Mae Bangor hefyd yn aelod blaenllaw o Lwyfan Amgylchedd Cymru, a thrwy honno mae'n cydweithio â Llywodraeth Cymru ac Adnoddau Naturiol Cymru, ac Uwchgyfrifiadura Cymru.
Enillodd Canolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON, y mae Bangor yn bartner ynddi gyda Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe, Wobr RegioStars Undeb Ewrop am “Dwf cynaliadwy: Twf gwyrdd a swyddi trwy Fio-economeg".
Gweithio gydag Eraill
Rydym yn aelodau craidd o Envision, Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol NERC, sy'n ymroddedig i ddatblygu arweinwyr y genhedlaeth nesaf yng ngwyddor yr amgylchedd, ynghyd â Phrifysgolion Lancaster a Nottingham a thair canolfan ymchwil annibynnol.
Mae gennym bartneriaethau ymchwil strategol gyda'r canlynol:
- Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig, y mae un o'i bhedair gorsaf ymchwil yn y Coleg ar gampws y Brifysgol yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n un o'r grwpiau mwyaf o ymchwilwyr yng ngwyddor yr amgylchedd yn y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd rydym yn cydweithredu i gyflwyno tystiolaeth ymchwil allweddol i Lywodraeth Cymru i lywio datblygiad eu polisi amgylcheddol.
- y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, yr ydym yn cynnal ymchwil ar y cyd â nhw ers tro byd ym maes eigioneg ffisegol.