Fy ngwlad:

Israddedigion Newydd ar gyfer mynediad yn 2025 a 2026

Fel myfyriwr israddedig llawn-amser, bydd gennych ddau brif gost:

  • Eich ffioedd dysgu
  • Eich costau byw

Y newydd da ydi y gellwch chi gael cymorth ar gyfer y ddwy gost yma gan fod amrywiaeth eang o gymorth ariannol ar gael.

Y ffi dysgu dros dro ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn o'r DU sy'n dechrau ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi 2026 yw £9,535.*

Efallai bydd y Brifysgol yn cynyddu'r ffioedd ar gyfer pob blwyddyn astudio ddilynol am y swm a ganiateir gan Lywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at Gynllun Ffioedd a Mynediad y Brifysgol a'r Polisi Ffioedd Dysgu. 

Y peth pwysig i'w gofio am y ffioedd dysgu yw nad oes raid i fyfyrwyr y DU dalu’r ffi ddysgu ymlaen llaw – rydych chi'n astudio yn gyntaf ac yn talu’n ôl pan fyddwch chi'n ennill cyflog. Nid oes rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu ymlaen llaw neu tra’ch bod chi’n astudio (er y gallwch chi wneud hynny os ydych chi eisiau). Gohirir y taliad tan ar ôl i chi raddio a byddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad o’r Ebrill ar ôl i chi raddio. Dim ond pan fyddwch yn ennill cyflog dros y trothwy ad-dalu y byddwch yn dechrau ad-dalu.

Nodir: Bydd y cap ar ffioedd dysgu (uchafswm y ffioedd dysgu y gall darparwyr rheoleiddiedig eu codi ar rai myfyrwyr ar gyrsiau israddedig llawn amser) yn amodol ar newidiadau yn y rheoliadau gan Lywodraeth Cymru. Caiff ffioedd dysgu 2026/27 a'r blynyddoedd dilynol eu cadarnhau cyn gynted ag y bydd y wybodaeth honno ar gael.

Add a new accordion called: Israddedigion newydd ar gyfer 2025

Content for accordion:

Fel myfyriwr israddedig llawn-amser, bydd gennych ddau brif gost:

  • Eich ffioedd dysgu
  • Eich costau byw

Y newydd da ydi y gellwch chi gael cymorth ar gyfer y ddwy gost yma gan fod amrywiaeth eang o gymorth ariannol ar gael.

Bydd Prifysgol Bangor yn codi ffi dysgu o £9,535 ar fyfyrwyr israddedig amser llawn newydd o’r DU sy’n dechrau ym mis Medi 2025.

Y peth pwysig i'w gofio am y ffioedd dysgu yw nad oes raid i fyfyrwyr y DU dalu’r ffi ddysgu ymlaen llaw – rydych chi'n astudio yn gyntaf ac yn talu’n ôl pan fyddwch chi'n ennill cyflog. Nid oes rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu ymlaen llaw neu tra’ch bod chi’n astudio (er y gallwch chi wneud hynny os ydych chi eisiau). Gohirir y taliad tan ar ôl i chi raddio a byddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad o’r Ebrill ar ôl i chi raddio. Dim ond pan fyddwch yn ennill cyflog dros y trothwy ad-dalu y byddwch yn dechrau ad-dalu.

Dewiswch o'r opsiynau isod i gael gwybodaeth fanylach am y cyllid sydd ar gael i chi.

Gwybodaeth am gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr israddedig llawn-amser o Gymru ar gael yma.

Gwybodaeth am gefnogaeth ariannol i Gyrsiau wedi'u cyllido gan y GIG  ar gael yma.

Gwybodaeth am gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr rhan-amser ar gael yma.

Bydd pob myfyriwr cymwys o Gymru yn derbyn Grant Cynhaliaeth o £1,000 y flwyddyn. Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys am Grant Cynhaliaeth ychwanegol ar sail prawf modd. Bydd y swm yn dibynnu ar incwm yr aelwyd, gyda mwy o gymorth i’r bobl sydd ei angen fwyaf.

Ym Mangor gallwch hefyd wneud cais am ysgoloriaethau amrywiol a allai helpu gyda'ch costau byw.

Os byddwch chi'n chwilio am waith rhan-amser yn ystod y gwyliau ac/neu yn ystod y tymor i helpu gyda'ch costau, gall CyswlltGyrfa Bangor eich helpu i gael hyd i waith rhan-amser. Mae yna hefyd cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael drwy’r Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd fydd yn cyfoethogi eich CV a’ch helpu i gael swydd ar ôl i chi raddio. Gallai cymryd rhan yng nghynllun Gwobr Cyflogadwyedd Bangor hefyd wneud gwahaniaeth i'ch rhagolygon am swydd ar ôl graddio.

Myfyrwyr yn astudio a chymdeithasu yn y Ganolfan Rheolaeth

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Gwybodaeth am ysgoloriaethau a bwrsariaethau.