Modiwl CXC-2202:
Athroniaeth a Llenyddiaeth
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credydau neu 10.000 Credyd ECTS
Semester2
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
Bu athronwyr yn ymddiddori mewn llenyddiaeth ers y cyfnodau cynharaf, a buont hefyd yn milwro’n chwyrn yn ei herbyn. Gwelir yn aml, felly, baradocs diddorol. Ar yr un ochr dywed rhai mai celwydd yw pob llenyddiaeth, ond ym marn eraill, y mae gwirioneddau celfyddydol yn bwysicach na dim oll arall. Awgrymir yn aml fod gwaith nifer o’r athronwyr mawr yn ‘llenyddiaeth’ yn bennaf, a’r ‘athroniaeth’ ynddynt yn eilbeth.
Y mae nifer o lenorion mawr y traddodiad Cymraeg yn ymwneud yn echblyg â chwestiynau y gellir eu galw’n ‘athronyddol’ (boed yn foesol, yn ddirfodol neu’n esthetig), ac mae athronwyr Cymraeg megis Dewi Z. Philips a J.R. Jones yn rhoi sylw amlwg i iaith a llên.
Beth, felly, yw’r berthynas rhwng llenyddiaeth ac athroniaeth, ac ymhle y mae’r ffin rhyngddynt (os ffin o gwbl)? Beth sydd gan athroniaeth i’w ddweud wrthym am rym a hudoliaeth llên, ac a yw’n bosibl mai drwy lenyddiaeth y gellir orau archwilio rhai o brif broblemau athroniaeth? Ym mha ffordd y mae’r Mabinogi, neu waith Dafydd ap Gwilym, R.S. Thomas neu Islwyn Ffowc Elis, yn ‘athronyddol’?
Darllenwn ystod o destunau ‘llenyddol’ ac ‘athronyddol’, a chyflwynir cysyniadau sy’n allweddol i athroniaeth llenyddiaeth. Gofynnir nifer o gwestiynau cyffrous, megis: Beth yw ysgrifennu? A yw ffuglen yn gallu bod yn wir? (A yw’n bosibl ‘dweud y gwir’ o gwbl?) A yw’r awdur – cystal â Duw – ‘wedi marw’? Ydy cymeriadau mewn nofelau yn bodoli ‘go iawn’? Beth yw natur iaith lenyddol? Sut mae celfyddyd yn ‘creu byd’? A fedrir byw heb fyw ‘mewn stori’?
Yn y bôn, felly: beth yw llenyddiaeth?
Cynnwys cwrs
Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir (y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth). Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth (e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd). Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
Meini Prawf
rhagorol
Rhagorol A- i A* Mae’r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol; aiff y tu hwnt i’r nodweddion a restrir uchod ab ydd yn ac yn rhagori mewn un neu ragor o'r ffyrdd canlynol: - Mae’n cyflwyno syniadau mewn ffordd wreiddiol, a safbwynt y myfyriwr/wraig ei hun yn gwbl amlwg. - Mae’n dangos tystiolaeth glir o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol. - Cyflwynir dadleuon yn eglur, ar lafar neu mewn cyflwyniadau llafar estynedig, gan resymu fesul cam er mwyn dod i gasgliadau. - Bydd cyfathrebu ar lafar yn rhugl yn gyson, gan arddangos ffocws glir wrth ddatblygu syniadau ac egluro unrhyw ansicrwydd.
trothwy
Trothwy: D- i D+ Mae gwaith llafar ac ysgrifenedig yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o fedrusrwydd fel a ganlyn: - Cywir a rhugl ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac elfennau wedi eu hepgor. - Gwneir haeriadau heb dystiolaeth ategol glir neu heb resymu; ffurfir cwestiynau wrth drafod yn aneglur neu gan ddangos diffyg ffocws. - Mae strwythur i’r gwaith ond mae’n ddiffygiol o ran eglurder ac felly’n dibynnu ar y darllenydd neu’r cyd-drafodwr i wneud cysylltiadau ac i ragdybio. - (Mewn gwaith ysgrifenedig ac mewn cyflwyniadau llafar hirach) Defnyddir ystod cymharol gul o ddeunyddiau.
dda
Da C- i C+ Medrus drwyddi draw: o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Arddangosir nodweddion megis a ganlyn: - Fframwaith da a dadleuon wedi’u datblygu’n rhesymegol. - Bydd yn defnyddio (yn rhannol, o leiaf) ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu a ddefnyddir ac a gyflwynir mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. - Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. - Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol. - (Mewn gwaith ysgrifenedig ac mewn cyflwyniadau llafar hirach) Defnyddir ystod da o ddeunyddiau.
Da iawn B- i B+ Mae’r gwaith a gyflwynir yn fedrus drwyddo draw a gwelir arddull a dull a dewis o ddeunyddiau cefnogol sy'n rhagori. Mae’n dangos: - Fframwaith da iawn a dadleuon sydd wedi eu datblygu’n rhesymegol. - Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol (yn enwedig mewn gwaith ysgrifenedig ond hefyd wrth gyflwyno a thrafod ar lafar), neu a ddefnyddir mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. - Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. - Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
Canlyniad dysgu
-
Cyflwyno barn aeddfed gan ddadlau’n rhesymegol ac yn gywir mewn traethawd.
-
Deall ym mha ffyrdd y mae athroniaeth a llenyddiaeth yn aml yn ymwneud â’r un cysyniadau allweddol. Deall hefyd sut y mynegir yr ystyriaethau hyn.
-
Gwerthuso pwysigrwydd ystod o ddulliau o ymwneud â llenyddiaeth, fel y’u gwelir yng ngweithiau allweddol yn hanes athroniaeth.
-
Medru cymhathu (1) methodoleg athronyddol allweddol a (2) ystod o gysyniadau athronyddol hanfodol i’r gwaith o astudio testunau llenyddol, gan ddeall sut y bydd y rhain yn aml yn cyfateb i fethodoleg a chysyniadau theori lenyddol.
-
Medru trafod y gwahaniaethau a’r gorgyffwrdd a geir rhwng yr hyn a elwir yn iaith ‘athronyddol’ ac iaith ‘lenyddol’.
-
Cyflwyno barn aeddfed gan ddadlau’n rhesymegol ac yn gywir ar lafar.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Plato a Mimesis (500-600 gair) | 0.00 | ||
Diffinio Llenyddiaeth (1500 gair) | 40.00 | ||
1500 gair | 60.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Darllenir yn wythnosol erthyglau / penodau / adrannau dethol o weithiau athronwyr a beirniaid llenyddol o bwys, yn ogystal â darnau o lenyddiaeth. Bydd y rhain ar gael ar fenthyciad byr o’r llyfrgell, ac fe’u dewisir o weithiau megis y canlynol:
Platon, Y Wladwriaeth Aristoteles, Y Farddoneg John a Lopes (gol.), Philosophy of Literature: Contemporary and Classical Readings
Darperir llyfryddiaeth lawn, a fydd yn cynnwys y gweithiau llenyddol a astudir.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- 3Q5Q: BA Cymraeg and English Literature year 2 (BA/CEL)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 3 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 2 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)