Modiwl LCS-3302:
Patagonia Gyfoes
Patagonia Gyfoes 2023-24
LCS-3302
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Sara Borda Green
Overview
Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno prif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia gyfoes i fyfyrwyr israddedig drwy ddeunyddiau llenyddiaeth, ffilm a chyfryngau amrywiol. Edrychir ar gerrig milltir hanes yr ardal mewn perthynas â'r Ariannin ac America Ladin yn gyffredinol er mwyn meithrin dealltwriaeth feirniadol o ddatblygiad Patagonia hyd at y presennol. Trafodir yn y darlithoedd pynciau megis: hanes De America a'r Ariannin - o'r ymerodraeth i'r weriniaeth; 'Darganfod', mapio ac etymoleg; Patagonia a'i thrigolion yn y 19eg ganrif: brodorion, 'Conquista del Desierto', y polisi mewnfudo; Portreadau eiconig yn Saesneg; Portreadau eiconig yn Gymraeg - llenyddiaeth deithio, ffuglen, barddoniaeth, rhaglennu dogfen, ffilmiau; Canmlwyddiant a hanner y Wladfa; Patagonia yn yr 21ain ganrif: brodorion a'r frwydr rhwng 'tir' a 'thiriogaethau'.
Learning Outcomes
- Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylai myfyrwyr allu dangos eu bod nhw wedi datblygu ystod o sgiliau perthnasol sydd yn eu galluogi i ystyried deunyddiau llenyddiaeth a ffilm yn feirniadol ac yn ddadansoddol er mwyn ffurfio barn.
- Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylai myfyrwyr allu dangos eu bod nhw wedi meithrin dealltwriaeth ac yn gallu gwerthuso prif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia, nid yn unig o ran yr ardal ei hun ond hefyd o fewn y cyd-destun ehangach (mewn perthynas â'r Ariannin ac America Ladin yn gyffredinol);
- Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylai myfyrwyr allu dangos eu bod nhw'n gallu dadansoddi elfennau o hanes cyfredol yr ardal a'u cysylltu â digwyddiadau'r gorffennol;
- Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylai myfyrwyr allu dangos eu bod nhw'n yn gyfarwydd â cherrig milltir hanes Patagonia a gallu gwneud cysylltiadau ac adnabod patrymau cyffredinol;
Assessment type
Summative
Weighting
40%
Assessment type
Summative
Weighting
60%