Modiwl PCC-3000:
Prosiect (Clinigol a Iechyd)
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Human and Behavioural Sciences
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Awel Vaughan-Evans
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw rhoi profiad uniongyrchol o gynnal ymchwil seicolegol i fyfyrwyr. Bydd hyn yn datblygu eu sgiliau o ran casglu ac adolygu llenyddiaeth, dylunio arbrofion, casglu data, a dadansoddi a dehongli data. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cynllunio, eu sgiliau trefnu, a'u gallu i gydweithio gydag eraill.
Cynnwys cwrs
Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â phob agwedd o'r broses ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofion, ystyried materion moesegol, profi cyfranogwyr, dadansoddi data, ac ysgrifennu adroddiadau ymchwil.
Meini Prawf
C- i C+
Boddhaol C- i C+
Dealltwriaeth foddhaol o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes seicoleg iechyd a chlinigol, gyda chyfathrebu weddol glir, ond gydag ambell i wall ffeithiol.
Cyflwyniad boddhaol o wybodaeth am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad da o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau perthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, gydag ambell i gamgymeriad.
Cyflwyniad boddhaol o ddadleuon critigol, ond ni chafwyd cydlyniad rhesymegol. Trafodaeth a gwerthusiad boddhaol o ymchwil perthnasol, gan ddangos peth ddealltwriaeth o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes.
Cyfathrebiad boddhaol o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth o brif elfennau’r pwnc, ond gydag ychydig iawn o feddwl critigol. Amlygwyd rhai o brif bwyntiau’r ymchwil, a dengys y gallu i ateb rhai cwestiynau yn hyderus.
ardderchog
Gwych A- i A**
Dealltwriaeth wych o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil ym y maes seicoleg iechyd a chlinigol, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.
Cyflwyniad gwych o wybodaeth gynhwysfawr am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad gwych o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau perthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, ac wedi eu cyflwyno’n gywir.
Datblygiad gwych a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Trafodaeth a gwerthusiad gwych o ymchwil perthnasol, gan ddangos dealltwriaeth o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes.
Cyfathrebiad gwych o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol. Amlygwyd prif bwyntiau’r papur yn glir a chryno, a dengys y gallu i ateb cwestiynau yn hyderus.
trothwy
Trothwy D- i D+
Dealltwriaeth wael o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes seicoleg iechyd a chlinigol. Llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb.
Ychydig o ddealltwriaeth am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad gwael o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau amherthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, a/neu llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb.
Cyflwynwyd dadleuon wrth ysgrifennu, ond nid oeddent yn llifo, a ni ddengys ddehongliad gwreiddiol na meddwl critigol. Trafodaeth wael o ganfyddiadau ymchwil, gan ddangos dealltwriaeth o’r prif egwyddorion yn unig. Dim gwerthusiad o gymhwysiad theoretig nac ymarferol y maes.
Cyfathrebiad gwan o wybodaeth ar lafar, gan ddangos ychydig o ddealltwriaeth am brif egwyddorion y pwnc. Amlygwyd rhai o bwyntiau’r ymchwil yn glir, ond gyda llawer o wendidau o ran cywirdeb. Dengys y gallu i ateb ychydig o gwestiynau.
da
Da B- i B+
Dealltwriaeth dda o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes seicoleg iechyd a chlinigol, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.
Cyflwyniad da o wybodaeth gref am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad da o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau perthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, gydag ychydig iawn o gamgymeriadau.
Datblygiad da a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Trafodaeth a gwerthusiad da o ymchwil perthnasol, gan ddangos dealltwriaeth o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes.
Cyfathrebiad da o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth weddol gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol. Amlygwyd prif bwyntiau’r papur yn glir a chryno, a dengys y gallu i ateb cwestiynau yn hyderus.
Canlyniad dysgu
-
Adnabod a chwblhau dadansoddiadau data addas.
-
Trafod a gwerthuso canlyniadau astudiaethau o fewn cyd-destun y llenyddiaeth berthnasol.
-
Dangos y gallu i grynhoi, a chyflwyno gwybodaeth am eich ymchwil gwyddonol ar ffurf lafar.
-
Dadansoddi dadleuon yn gritigol a chyfosod ymchwil mewn maes penodol.
-
Disgrifio a chymhwyso dulliau ymchwil sy'n berthnasol i faes penodol.
-
Dangos dealltwriaeth o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil seicolegol ac wrth ysgrifennu am yr ymchwil, a sicrhau fod yr ymchwil yn cyd-fynd â chanllawiau moesegol y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig.
-
Datblygu hyder wrth gyflwyno deunydd seicolegol ar ffurf lafar (POPPS).
-
Dangos y gallu i gyfathrebu ymchwil gwyddonol ar ffurf ysgrifenedig ac ar ffurf lafar (POPPS).
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
DISSERTATION | Traethawd hir / Dissertation | Disgwylir i fyfyrwyr ysgrifennu adroddiad ymchwil sy’n esbonio’r ymchwil a wnaethpwyd fel rhan o’r modiwl. Mi fydd y traethawd hir yn cynnwys elfennau arferol adroddiad ymchwil (crynodeb, rhagarweiniad, dull, canlyniadau, trafodaeth, cyfeirnodau, atodiadau), a dylid ei fformatio’n ôl canllawiau’r APA. Cyn cyflwyno’r traethawd terfynol, caiff fyfyrwyr adborth ysgrifenedig ar ddrafft o’r rhagarweiniad, y dull, a’r canlyniadau. |
90.00 |
LLAFAR | Cyflwyniad llafar / Oral presentation | Mae'r rhan yma o'r prosiect wedi ei rannu fewn i ddwy ran, sef POPPS a'r cyflwyniad llafar terfynol. Mae'r ddau ran werth 5% o'r radd, ond mae POPPS yn cael ei farcio ar sail eithriad. |
10.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd gyda’ch goruchwyliwr yn ystod y modiwl. Dylid defnyddio’r amser a nodir yma fel canllaw, ond disgwylir i fyfyrwyr gyfarfod gyda’u goruchwylwyr unwaith pob pythefnos (o leiaf). |
12 |
Tutorial | Mi fydd trefnydd y modiwl yn cynnal sesiynau galw draw wythnosol dros y ddau dymor. Caiff fyfyrwyr ddod i’r sesiynau hyn heb wneud apwyntiad. Yn ystod y sesiynau, caiff fyfyrwyr ofyn cwestiynau am y modiwl, y broses ymchwil a/neu aseiniadau’r modiwl. Er hyn, ni fydd trefnydd y modiwl yn darllen nac yn rhoi adborth ar ddrafftiau o’r aseiniadau. Dylai’r myfyrwyr gysylltu gyda'u goruchwylwyr unigol er mwyn derbyn adborth ar eu gwaith. |
44 |
Workshop | Psychology Oral Presentation Practice Sessions (POPPS) Yn nhymor 1, mi fydd myfyrwyr yn mynychu sesiynau POPPS wythnosol (1-awr o hyd). Yn y sesiynau hyn, mi fydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, ac yn paratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar terfynol yn nhymor 2. |
11 |
Individual Project | Mae'r modiwl yn fodiwl 40 credyd, ac felly disgwylir i chi wario 400 awr ar y gwaith dros y ddau dymor. Mae cyfarfod gyda’ch goruchwyliwr, mynychu sesiynau galw draw, a mynychu sesiynau POPPS yn cyfrannu at yr oriau hyn, ond dylech ddefnyddio’r oriau sy’n weddill i weithio’n annibynnol ar eich prosiect. Dylech ddefnyddio'r amser yma i*:
*nid yw’r rhestr yma’n gynhwysfawr |
333 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Communicate psychological concepts effectively in oral form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Engage in effective teamwork for the purpose of collaborating on psychological projects.
- Be sensitive and react appropriately to contextual and interpersonal psychological factors.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Understand and investigate the role of brain function in all human behaviour and experience.
- Carry out empirical studies by operationalizing research questions, generating hypotheses, collecting data using a variety of methods, analysing data using quantitative and/or qualitative methods, and present and evaluate research findings (under appropriate supervision).
- Comprehend and use psychological data effectively, demonstrating a systematic knowledge of the application and limitations of various research paradigms and techniques.
- Use a range of statistical methods with confidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
- Use a variety of psychological tools, including specialist software, laboratory equipment and psychometric instruments.
- Be aware of ethical principles and approval procedures.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- C880: BSC Psych with Cl & Hlth Psych year 3 (BSC/PHS)
- C88B: BSc Psychology w Clin & Health Psy (4yr with Incorp Found) year 3 (BSC/PHS1)
- 8X44: BSc Psychology with Clinical & Health Psychology (Int Exp) year 4 (BSC/PHSIE)
- C88P: BSc Psychology with Clinical & Health Psy with Placement Yr year 4 (BSC/PHSP)
- C808: MSci Psychology with Clinical & Health Psychology year 3 (MSCI/PHS)