Modiwl PCC-3009:
Niwroestheteg: Cyfuno'r gwyddorau a'r celfyddydau
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Human and Behavioural Sciences
20.000 Credydau neu 10.000 Credyd ECTS
Amcanion cyffredinol
Mi fydd y modiwl yma yn cyflwyno’r maes ymchwil o ‘niwroestheteg’ i fyfyrwyr. Mi fydd y modiwl yn canolbwyntio ar bedwar prif bwnc (Celf, Cerddoriaeth, Dawns, a Llenyddiaeth), ac yn eu cyflwyno o safbwynt niwrowyddoniaeth gwybyddol, a safbwynt gymhwysol. Caiff pob pwnc ei drafod am ddwy wythnos: Mi fydd yr wythnos gyntaf yn canolbwyntio ar ymchwil sy’n ymdrin ag effaith celf/cerddoriaeth/dawns/llenyddiaeth ar y boblogaeth gyffredinol, ac yn cyflwyno dulliau casglu data ar-lein megis EEG, fMRI a thracio llygaid. Mi fydd yr ail wythnos yn canolbwyntio ar ymchwil cymhwysol, ac yn amlinellu therapïau gwahanol a ddefnyddir gyda phoblogaethau penodol. Nod y darlithoedd yma yw cyflwyno dulliau ymchwil a safbwyntiau gwahanol i fyfyrwyr, ac i amlygu rhai o’r prif fanteision ac anfanteision o gynnal ymchwil groes-ddisgyblaethol.
Yn ogystal â’r darlithoedd, a fydd yn darparu trosolwg bras o bob pwnc, ac yn cyflwyno dulliau casglu data gwahanol, mi fydd myfyrwyr yn mynychu seminarau yn wythnosol. Yn ystod y seminarau yma, mi fydd myfyrwyr yn trafod a gwerthuso papurau ymchwil yn gritigol. Nod y seminarau yma yw datblygu sgiliau cyfathrebu myfyrwyr, ac i annog myfyrwyr i werthuso a gwerthfawrogi dulliau ymchwil a safbwyntiau gwahanol.
Cynnwys cwrs
- Dulliau casglu data megis EEG, fMRI, a thracio llygaid
- Ystyriaethau cynllunio ymchwil
- Tystiolaeth empirig sy'n ymchwilio i sut gaiff celf, cerddoriaeth, dawns, a llenyddiaeth eu canfod a'u prosesu
- Tystiolaeth empirig sy'n ymchwilio i fanteision ac anfanteision therapïau sy'n cymhwyso elfennau o gelf, cerddoriaeth, dawns, a llenyddiaeth
Meini Prawf
trothwy
Trothwy D- i D+
Cyflwynwyd gwybodaeth am brif egwyddorion niwroestheteg yn unig. Llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb.
Ychydig o ddealltwriaeth am y manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig ag ymchwil groes-ddisgyblaethol. Defnyddiwyd ychydig o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyfathrebiad gwan o wybodaeth ar lafar, gan ddangos ychydig dealltwriaeth am brif egwyddorion y pwnc. Amlygwyd rhai o bwyntiau’r papur yn glir, ond gyda llawer o wendidau o ran cywirdeb. Dengys y gallu i ateb ychydig o gwestiynau.
Cyflwynwyd dadleuon wrth ysgrifennu, ond nid oeddent yn llifo, a ni ddengys ddehongliad gwreiddiol na meddwl critigol. Defnydd prin a thystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd, a thystiolaeth gyfyngedig o ddarllen ychwanegol.
Cyflwynwyd cwestiynau ymchwil weddol ddiddorol a pherthnasol, ond ni ddengys dealltwriaeth gadarn o niwroestheteg, a ni chafwyd gwerthusiad o gymhwysiad theoretig nac ymarferol y maes.
dda
Da B- i B+
Cyflwyniad da o wybodaeth gref am niwroestheteg, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.
Dealltwriaeth weddol gadarn o’r manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig ag ymchwil groes-ddisgyblaethol. Defnydd da o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyfathrebiad da o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth weddol gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol. Amlygwyd prif bwyntiau’r papur yn glir a chryno, a dengys y gallu i ateb cwestiynau yn hyderus.
Datblygiad da a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Defnydd da o bapurau a roddwyd yn y seminarau, a phapurau ychwanegol i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyflwyniad da o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos dealltwriaeth o niwroestheteg yn ogystal â gwerthusiad da o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes.
C- i C+
Boddhaol C- i C+
Cyflwyniad boddhaol o wybodaeth am egwyddorion niwroestheteg, gyda chyfathrebu gweddol glir, ond gydag ambell i wall ffeithiol.
Dealltwriaeth foddhaol o’r manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig ag ymchwil groes-ddisgyblaethol. Defnydd boddhaol o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyfathrebiad boddhaol o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth o brif elfennau’r pwnc, ond gydag ychydig iawn o feddwl critigol. Amlygwyd rhai o brif bwyntiau’r papur, a dengys y gallu i ateb rhai cwestiynau yn hyderus.
Cyflwyniad boddhaol o ddadleuon critigol, ond ni chafwyd cydlyniad rhesymegol. Defnydd boddhaol o bapurau a roddwyd yn y seminarau i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd, a dengys ychydig iawn o ddarllen cefndirol ychwanegol.
Cyflwyniad boddhaol o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos ychydig o ddealltwriaeth o niwroestheteg yn ogystal â gwerthusiad boddhaol o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes.
rhagorol
Gwych A- i A**
Cyflwyniad gwych o wybodaeth gynhwysfawr am niwroestheteg, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.
Dealltwriaeth gadarn o’r manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig ag ymchwil groes-ddisgyblaethol. Defnydd gwych o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyfathrebiad gwych o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol. Amlygwyd prif bwyntiau’r papur yn glir a chryno, a dengys y gallu i ateb cwestiynau yn hyderus.
Datblygiad gwych a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Defnydd gwych o astudiaethau a roddwyd yn y seminarau, ac astudiaethau ychwanegol i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyflwyniad gwych o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos gwir ddealltwriaeth o niwroestheteg yn ogystal â gwerthusiad gwych o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes.
Canlyniad dysgu
-
Gwahaniaethu rhwng, a dallt gwerth, arwyddocád ystadegol a chlinigol
-
Dallt rhai o fanteision ac anfanteision ymchwil groes-ddisgybliadol
-
Cyfathrebu prif bwyntiau papur ymchwil mewn ffordd effeithiol
-
Gwerthuso ymchwil diweddar y maes mewn ffordd gritigol
-
Cynnig cwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | Mi fydd y myfyrwyr yn trafod mewn grwpiau bach, ac mi fydd trefnydd y modiwl yn hwyluso'r drafodaeth. Mi fydd y seminar yn para am 2 awr bob wythnos. Ni fydd seminar yn wythnos 11, oherwydd bydd myfyrwyr yn cwblhau eu cyflwyniadau llafar yn ystod yr wythnos hon. Yn ogystal, ni fydd seminar yn wythnos 1 na 12. Bydd trefnydd y modiwl yn cynnal sesiynau galw-heibio yn ystod amser arferol y seminarau yn lle. |
16 |
Private study | Mae'r modiwl yma yn fodiwl 20 credyd, a disgwylir i fyfyrwyr wario 200 o oriau ar y modiwl. Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r amser yma (155 awr) i weithio'n annibynnol. Dylech ddefnyddio'r amser yma i wneud y canlynol (ac eraill):
|
157 |
Seminar | Ni fydd darlith na seminar yn wythnos 11, oherwydd bydd myfyrwyr yn cwblhau eu cyflwyniadau llafar. Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno eu papurau ymchwil a chyfrannu at gyflwyniadau eraill drwy fod yn aelod o'r gynulleidfa. |
1 |
Lecture | Mi fydd trefnydd y modiwl yn cyflwyno darlith i'r myfyrwyr. Dylai'r ddarlith gael ei gynnal mewn ystafell ddarlith, ac mi fydd yn para awr pob wythnos. Ni fydd darlith yn wythnos 11 oherwydd bydd y myfyrwyr yn cwblhau eu cyflwyniadau yn ystod yr wythnos. |
10 |
Tutorial | Mi fydd trefnydd y modiwl yn cynnal sesiynau galw-draw yn wythnosol. Bydd sesiynau galw-heibio ychwanegol yn cael eu cynnal yn wythnos 1 a 12, yn lle'r seminarau arferol. |
16 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
Sgiliau pwnc penodol
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Communicate psychological concepts effectively in oral form.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Comprehend and use psychological data effectively, demonstrating a systematic knowledge of the application and limitations of various research paradigms and techniques.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim
Rhestr ddarllen
Cyflwynir rhestr ddarllen ar Talis ar ddechrau'r term, Nid oes llyfr penodol y dylid ei brynu ar gyfer y modiwl yma. Hyd yma, dydi'r rhestr ddarllen ddim ar gael. Fodd bynnag, un papur y gall myfyrwyr ddarllen yw:
Obermeier, C., Menninghaus, W., von Koppenfels, M., Raettig, T., Schmidt-Kassow, M., Otterbein, S., & Kotz, A.S. (2013). Aesthetic and emotional effects of meter and rhyme in poetry. Frontiers in Psychology, 4, DOI: 10.3389/fpsyg.2013.00010
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- C880: BSC Psych with Cl & Hlth Psych year 3 (BSC/PHS)
- C88B: BSc Psychology w Clin & Health Psy (4yr with Incorp Found) year 3 (BSC/PHS1)
- 8X44: BSc Psychology with Clinical & Health Psychology (Int Exp) year 4 (BSC/PHSIE)
- C88P: BSc Psychology with Clinical & Health Psy with Placement Yr year 4 (BSC/PHSP)
- C801: BSC Psychol w Neuropsychol year 3 (BSC/PSYN)
- C83B: BSc Psychology with Neuropsychology (4yr with Incorp Found) year 3 (BSC/PSYN1)
- C809: BSc Psychology with Neuropsy (with International Experience) year 4 (BSC/PSYNIE)
- C84P: BSc Psychology with Neuropsychology with Placement Year year 4 (BSC/PSYNP)
- C808: MSci Psychology with Clinical & Health Psychology year 3 (MSCI/PHS)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 3 (BA/APIS)
- X319: BA Childhood and Youth Studies and Psychology year 3 (BA/CYP)
- R181: BA French with Psychology (with International Experience) year 4 (BA/FPIE)
- R2C8: BA German with Psychology year 3 (BA/GPSY)
- Q1C8: BA Linguistics and Psychology year 3 (BA/LP)
- N5C8: BSc Marketing with Psychology year 3 (BSC/MP)
- 6S26: BSc Neuropsychology year 3 (BSC/NI)
- C804: BSc Psychology (with International Experience) year 4 (BSC/PIE)
- C800: BSC Psychology year 3 (BSC/PS)
- C81B: BSc Psychology (4 year with Incorporated Foundation) year 3 (BSC/PS1)
- C80F: BSc Psychology year 3 (BSC/PSF)
- C80P: BSc Psychology with Placement Year year 4 (BSC/PSP)
- C813: BSc Psychology with Forensic Psychology year 3 (BSC/PSYFP)
- C84B: BSc Psychology with Forensic Psych (4 yr with Incorp Foundn) year 3 (BSC/PSYFP1)
- C81P: BSc Psychology with Forensic Psychology with Placement Year year 4 (BSC/PSYFPP)
- C681: BSc Sport & Exercise Psychology w International Experience year 4 (BSC/SEPIE)
- C680: BSc Sport and Exercise Psychology year 3 (BSC/SEXP)
- C68P: BSc Sport and Exercise Psychology with Placement Year year 4 (BSC/SEXPP)
- C807: MSci Psychology year 3 (MSCI/PS)