Cipolwg ar y gorffennol i dwristiaid o Ewrop

 Dyfrliw o Bont Pont Rhiwaedog ym mhentref bach Rhos y Gwaliau  ger Y Bala, a baentwyd gan Mary Ann Malkin, 1846.: Hawlfraint y Goron RCAHWM 2017 Dyfrliw o Bont Pont Rhiwaedog ym mhentref bach Rhos y Gwaliau ger Y Bala, a baentwyd gan Mary Ann Malkin, 1846.: Hawlfraint y Goron RCAHWM 2017Bydd cofnodion hanesyddol gan ymwelwyr o Ewrop i Gymru’r gorffennol ar gael i ymwelwyr Ewropeaidd y dyfodol, drwy wefan newydd sydd i’w chwblhau'r flwyddyn nesaf.

Bydd arian dilynol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn galluogi i ymchwilwyr sy’n gweithio ar broject llwyddiannus ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru’ rannu peth o’r ysgrifau taith hanesyddol y maent wedi eu darganfod gyda thwristiaid i Gymru’r oes hon. Gwneir y gwaith dan arweinyddiaeth Prifysgol Bangor, gyda Phrifysgol Abertawe a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac mewn cydweithrediad â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Visit Wales. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd ymwelwyr i Gymru yn medru dilyn ôl traed ymwelwyr o’r gorffennol gan ddilyn teithiau awgrymedig, gan ddarllen eu geiriau a hefyd gweld darluniau hanesyddol o gasgliad Y Comisiwn Brenhinol a chasgliadau eraill.

Bu i’r project gwreiddiol gan yr arbenigwyr ieithoedd modern ddarganfod dros 400 cofnod o ymweliadau â Chymru gan deithwyr o Ewrop rhwng 1750 a 2010,  pedair gwaith yn fwy na’r disgwyl.

“Rydym wedi darganfod cofnodion nad astudiwyd o’r blaen, yn disgrifio sut y mae eraill wedi edrych ar Gymru,” meddai’r Athro Carol Tully o’r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, sy’n arwain y project:

“Mae rhai o’r ysgrifau mewn dyddiaduron a llythyrau, ac mae’n debyg na fwriadwyd cyhoeddi’r rhan fwyaf. Mae ystod y pynciau sy’n cael eu trafod yn dangos diddordeb parhaus yng Nghymru. Nid twristiaid yn yr ystyr modern oedd pawb a fu’n teithio. Roedd ffoaduriaid yn eu plith ynghyd â phobol ar fusnes, ond maent i gyd yn rhoi golwg ar Gymru gan bobol o wledydd Ewrop,” meddai.

 Un o'r Teithiau sy'n cael eu cynllunio yw Taith Telford. Dyma lun o Draphont Pontcysyllte Telford a ddefnyddiwyd mewn sawl llyfr.: Hawlfraint y Goron Un o'r Teithiau sy'n cael eu cynllunio yw Taith Telford. Dyma lun o Draphont Pontcysyllte Telford a ddefnyddiwyd mewn sawl llyfr.: Hawlfraint y GoronGyda thwristiaeth o Brydain ac Ewrop yn cyfrannu £5.1 biliwn y flwyddyn at economi Cymru, ffigwr y mae disgwyl iddo dyfu, bydd y wefan yn adnodd gwerthfawr i Visit Wales wrth hybu tirwedd, hanes a diwylliant Cymru.

Y dyddiau hyn mae’r rhan fwyaf o bobol yn chwilio am wybodaeth am eu cyrchfan teithio ar-lein, a bydd yr adnodd digidol newydd hwn, a fydd ar gael mewn dewis o ieithoedd, ac ar gael drwy wefan Visit Wales, yn darparu teithlen gyda thema, gan ddefnyddio’r testun hanesyddol. Mae mwyafrif y testunau mewn Ffrangeg neu Almaeneg, ac felly’n naturiol yn apelio at y marchnadoedd poblogaidd hyn, er bod cofnodion eraill mewn ieithoedd lleiafrifol fel Llydaweg, a chan deithwyr o Wlad Pŵyl, Hwngari, Sgandinafia a’r Weriniaeth Tsiec.

Yn ôl Rita Singer, swyddog ymchwil y project:

“Mae un o’r teithiau awgrymiadol yr ydym yn ei hadeiladu yn dilyn ôl troed Thomas Telford. Ar ôl eu cwblhau bron i 200 mlynedd yn ôl, roedd ymwelwyr o’r cyfandir yn ystyried traphont ddŵr Pontcysyllte a’r ddwy bont grog ar draws afonydd Conwy a Menai i fod yn rhyfeddodau technoleg a phensaernïaeth fodern. Mae’n ymddangos o’r cofnodion yr ydym wedi eu darganfod, bod y pontydd a’r draphont ymysg yr ugain safle mwyaf poblogaidd i ymweld â hwy drwy Gymru. Bydd ‘Llwybr Telford’ drwy ogledd Cymru yn cynnig i’r ymwelydd cyfoes, ffenestr i orffennol pensaernïol cyffrous, oherwydd bydd y wefan yn cynnwys disgrifiadau o hanes ynghyd â delweddau ac ail-gread rhithwir. Dyma un enghraifft yn unig o’r hyn yr ydym yn ei gynllunio.”

Ychwanegodd yr Athro Tully:  

“Mae’r deunydd yn adlewyrchu cyfnod o newid mawr yn nhirwedd, diwylliant a threftadaeth Cymru, a bydd ymwelwyr cyfoes yn cael y cyfle i ‘brofi’’r newidiadau hynny drwy lygaid eu rhagflaenwyr teithiol, gan ddadorchuddio golwg unigryw o Gymru i genhedlaeth newydd o ymwelwyr o Ewrop, ond hefyd, a fydd yn rhoi gogwydd newydd ar y ffordd y mae Cymru’n cael ei hystyried dros amser gan ymwelwyr o Brydain a thu hwnt.”

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2017