Hyfforddi i Addysgu - Seminar Wybodaeth
Dewch i ddysgu mwy am yrfa fel athro ysgol uwchradd yn ein seminar gwybodaeth. Bydd y tîm Hyfforddi Athrawon Uwchradd wrth law i ateb eich cwestiynau. Dewch i gyfarfod â staff Addysg, darganfod mwy am y grantiau hyfforddiant hael (hyd at £20,000) a sut i wneud cais i ddechrau eich cwrs hyfforddi athrawon ym Medi 2015.
2.30-3.30yp, Dydd Mercher, Mawrth 18, 2015
Prif Adeilad, Darlithfa 1, Ffordd y Coleg, Bangor
Archebwch eich lle drwy e-bost-lowrian.williams@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015