Pan fydd gwres yn iachau canser

Offeiriad o'r Eidal oedd Peregrine Laziosi (1265-1345), a ddaeth yn nawddsant cleifion â chanser pan ddiflannodd tiwmor yn ei goes chwith yn wyrthiol ar ôl iddo ddatblygu twymyn.  Er ei bod yn hysbys ers talwm iawn bod gwres uchel yn y corff yn gallu achosi i diwmorau grebachu, mae'r mecanweithiau moleciwlaidd sydd y tu ôl i hyn yn dal yn ddirgelwch i raddau helaeth. 

Yn ddiweddar cyhoeddwyd un o'r adolygiadau cynhwysfawr cyntaf o'r pwnc hwn yn Open Biology, cyfnodolyn y Gymdeithas Frenhinol. Yr awduron yw Thomas Turner, a raddiodd yn ddiweddar mewn Bioleg Canser ym Mhrifysgol Bangor, a Dr Thomas Caspari, ymchwilydd yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Bangor. 

Meddai Dr Thomas Caspari: "Roedd ysgogi twymyn trwy roi pigiad yn cynnwys bacteria anactif i gleifion, dull a alwyd yn Coley's Toxin, yn therapi gwrth-ganser llwyddiannus iawn yn y 19eg ganrif. Bellach mae grym iachusol gwres wedi cael ei ailddarganfod ac yn cael ei ddefnyddio i drin cleifion â chanser y prostad yn effeithiol iawn. Mae'r erthygl adolygu hon yn crynhoi ein dealltwriaeth wyddonol bresennol o sut mae gwres yn lladd celloedd canser. Mae'n wych hefyd gweld gwaith myfyriwr israddedig yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddonol ag enw da iawn yn rhyngwladol.  Mae hon yn enghraifft dda o sut mae Prifysgol Bangor yn ymgorffori ymchwil yn ei dysgu."

Cyhoeddwyd yr erthygl ddydd Mercher 12 Mawrth 2014 ac mae ar gael am ddim ar wefan Open Biology.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014