Sut mae personoliaeth yn effeithio ar gyrhaeddiad athletaidd?

Wrth berfformio ar y lefel uchaf mewn chwaraeon, mae’n bosib fod a wnelo’r  gwahaniaeth rhwng ennill a cholli’n fwy â phersonoliaeth na gallu athletaidd.

Er mwyn ennill 'Aur',  mae’n rhaid i athletwyr fedru perfformio ar lefel uchel  o dan bwysau aruthrol. Mae llwyddiant felly’n ddibynnol ar gyfuniad o'r lefel uchaf o berfformiad athletaidd a'r gallu i berfformio tra bod rhywun hefyd o dan straen personol mawr. Er bod rhai unigolion yn ffynnu o dan bwysau, mae eraill yn 'tagu' ac yn methu â pherfformio cystal ag wrth hyfforddi - pan fo’r straen yn llai.

Gan gydnabod y cyfuniad hwn o athletiaeth a phersonoliaeth, mae ymchwilwyr yn y Sefydliad ar gyfer Seicoleg Perfformiad Elitaidd (IPEP) ym Mhrifysgol Bangor wedi datgelu mwy am y math o bersonoliaeth sy'n perfformio orau o dan straen. Maent hefyd yn ymchwilio i sut y gall strategaethau hyfforddi gwahanol gefnogi a chymell personoliaethau gwahanol.

Mae'r Sefydliad, rhan o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, wedi ehangu’r ddealltwriaeth gyfredol o’r maes hwn, ac wedi canfod bod personoliaethau narsisaidd (pobl sydd â meddwl uchel ohonynt ei hunain a'u galluoedd), sef y mathau o bersonoliaeth sy'n perfformio'n dda o dan bwysau, yn  ymdrechu’n galetach hyd yn oed,  pan fyddant o dan straen. Yr ochr arall i’r geiniog yw nad ydynt yn perfformio cystal mewn sefyllfaoedd  lle nad oes tebygrwydd o ennill clod ac amlygrwydd.

Dr Ross Roberts, Darlithydd ac aelod o'r SefydliadDr Ross Roberts, Darlithydd ac aelod o'r SefydliadMae Dr Ross Roberts, darlithydd ac aelod o’r Sefydliad yn egluro: "Rydym yn credu mai’r rheswm pam fod narsisiaid yn ffynnu yn y sefyllfaoedd hyn yw oherwydd eu bod wrth ragori o dan amgylchiadau felly, yn derbyn yr edmygedd a’r ganmoliaeth maent yn awchu amdanynt: gallech ddweud eu bod yn bersonoliaethau sy'n  cael eu ‘gyrru gan glod ac amlygrwydd’. Mae pobl â’r math yma o bersonoliaeth yn perfformio’n waeth mewn sefyllfaoedd lle nad yw eu dyheadau yn cael eu diwallu - lle nad oes pwysau. Yn achos pobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, gall hyn fod wrth hyfforddi neu pan nad yw hyfforddwyr yn rhoi sylw unigol i'r athletwr yn ystod gweithgareddau 'tîm'. "
 
Mae eu gwaith ymchwil wedi dangos y gall cyflwyno neu gynyddu elfen o gystadleuaeth ryngbersonol a chystadlu gadw diddordeb a safon perfformio’r personoliaethau narsisaidd yn ystod sesiynau hyfforddi neu sefyllfaoedd eraill heb y pwysau neu heriau sydd eu hangen i'w hysbrydoli. Ond mae'r ymchwilwyr hefyd wedi canfod fod cyflwyno'r elfen gystadleuol yn cael effaith negyddol ar yr unigolion hynny nad ydynt yn bersonoliaethau 'narsisaidd'.

Mae Calum Arthur, Cyd Gyfarwyddwr y Sefydliad  yn egluro ymhellach: "O gofio bod rhaid i athletwyr yn y Gemau Olympaidd neu gystadlaethau rhyngwladol eraill, berfformio dan bwysau aruthrol, mae deall sut a pham mae personoliaethau gwahanol yn perfformio’n wahanol o dan bwysau yn hollbwysig. Fel seicolegwyr chwaraeon, rydym yn gallu gweithio gyda hyfforddwyr i deilwra dulliau hyfforddi i ddiwallu anghenion penodol athletwyr unigol. Dylai hyn arwain at hyfforddiant mwy effeithiol a mwy o berfformiadau athletaidd llwyddiannus.
 
Mae Aelodau o IPEP wedi gweithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, lluoedd arfog Prydain ac maent yn cydweithio'n agos â Chwaraeon Cymru.

Mae hon yn un o ddau ddarn ymchwil o Brifysgol Bangor sy'n cael eu hamlygu mewn adroddiad UUK: "Supporting a UK success story: The impact of university research and sport development."

Am ragor o straeon am ymwneud â Phrifysgol Bangor â'r gemau Olympaidd ewch at ein safle: http://www.bangor.ac.uk/uniweek/index.php.cy?

 

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012