Newyddion: Hydref 2018

Myfyrwyr yn creu gemwaith coeth

Mae dewis o emwaith coeth, sydd wedi ei ddylunio gan fyfyrwyr dylunio ym Mhrifysgol Bangor, bellach ar gael yn gyfyngedig i MOSTYN yn Llandudno.

Mae’r oriel celfyddyd gyfoes wedi gweithio gyda staff a myfyrwyr y cwrs gradd Dylunio Cynnyrch i greu eitemau o emwaith sydd yn gweddu i siop MOSTYN. 

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2018

Ymchwil Prifysgol Bangor yn llywio polisi cenedlaethol ac yn rhoi sylfaen dystiolaeth i Gynllun Gweithredu Addysg Wledig cyntaf Cymru

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams (heddiw) wedi lansio Cynllun Gweithredu Addysg Wledig newydd Llywodraeth Cymru sy’n cyflwyno nifer o fentrau a mesurau ar gyfer gwella addysg a phrofiadau yn ysgolion gwledig Cymru.

Mae’r cynllun gweithredu’n rhan greiddiol o’r diwygiadau gweddnewidiol sydd wedi eu hamlinellu yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, sy’n nodi beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r gyfundrefn ysgolion erbyn 2021. Mae’r ddogfen yn rhoi manylion am weithgareddau a fydd yn troi polisïau’n ymarfer yn ein hysgolion. Mae’r cynllun gweithredu’n defnyddio tystiolaeth ac argymhellion o adroddiad ymchwil dan arweiniad Gwilym Siôn ap Gruffudd o Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor. Comisiynwyd yr adroddiad: Rethinking Educational Attainment and Poverty- in Rural Wales (REAP) gan Gonsortia Addysg Rhanbarthol ERW a GwE trwy broses dendro gystadleuol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018