Athena Swan yn Mangor
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo'n llawn i egwyddorion siarter Athena Swan ac mae'n gweithio i sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn dod yn rhan annatod o bolisïau, arferion, cynlluniau gweithredu a diwylliant y brifysgol.
Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn ddeiliad gwobr efydd Athena Swan ers 2011 (adnewyddwyd yn 2014 ac 2018). Cadeirir Grŵp Athena Swan y Brifysgol gan yr Athro Morag McDonald (Deon y Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg) ac mae'n adrodd i Grŵp Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae'r grŵp yn cynnwys arweinwyr Athena Swan o bob Ysgol, y Rheolwr Athena Swan a’r Concordat Ymchwil, y Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr a chynrychiolydd staff ymchwil ar gontract.
Ar hyn o bryd mae saith Ysgol yn cynnal gwobrau Efydd - yr Ysgol Gwyddorau Eigion, yr Ysgol Seicoleg, Ysgol Busnes Bangor, yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ac yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Ceisiadau a chynlluniau gweithredu Athena Swan Prifysgol Bangor:
- Gwobr efydd y Brifysgol 2018
- Adnewyddu Gwobr efydd y Brifysgol 2014
- Cais y Brifysgol a enillodd Wobr Efydd 2011
Ceisiadau Ysgol
- Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig 2020
- Ysgol Seicoleg Gwobr Efydd 2019
- Ysgol Busnes Bangor Gwobr Efydd 2019
- Ysgol Gwyddorau Eigion Gwobr Efydd 2018
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Athena Swan, cysylltwch â athenaswan@bangor.ac.uk.