Croeso i Fwyty 1884
Dewch i ddarganfod blasau gogledd Cymru, lle mae pob pryd wedi ei wreiddio mewn traddodiad ac wedi ei greu gyda'r cynhwysion lleol mwyaf ffres. O'r môr ac o'r pridd, mae ein bwydlen yn deffro'r synhwyrau – arogleuon cyfoethog, gweadau beiddgar a blasau sy'n adrodd stori.
Dyma fwyd moethus. Dyma 1884.
I Ddechrau
Cawl cartref y dydd gyda bara cartref a menyn Cymreig (*f) £5.95
Pâté macrell mwg a tsili gyda croutes a salad bach £6.95
Ffriterau india corn a chnau menyn gyda hwmws ac olew cyri (f) £6.95
Salad cnau menyn a thatws melys wedi eu rhostio'n araf, cwinoa coch a gwyn a dresin cyri (f) £6.95
Adenydd cyw iâr BBQ gludiog £6.95
Prif Gwrs
Cawl bwyd môr cymysg gyda môr-lawes, corgimychiaid, cregyn gleision a hadog mwg wedi'i weini gyda bara crystiog a menyn o Gymru £18.95
Salad cnau menyn a thatws melys wedi eu rhostio'n araf, cwinoa coch a gwyn a dresin cyri (f) £15.95
Hadog mwg rhosbren wedi'i goginio mewn cytew lemonêd cartref wedi'i weini â sglodion wedi’u coginio deirgwaith, saws tartar cartref a phys £17.95
Korma blodfresych a ffa menyn wedi eu rhostio gyda reis, bhaji pannas, siytni mango (L) £14.95 Ychwanegwch gyw iâr am £3.00
Byrgyr cig eidion 6 owns Edwards o Gonwy, gyda chaws cheddar Cymreig, jam tsili melys, tomato mawr, letys crensiog, colslo a sglodion wedi eu coginio deirgwaith £17.95
Byrgyr cyw iâr wedi ei ffrio yn null y de, gyda chaws cheddar mwg, jam tsili melys, tomato mawr, letys crensiog, colslo a sglodion tew £17.95
Byrgyr mynydd fegan, caws fegan Applewood, jam tsili melys, tomato mawr, letys crensiog, colslo a sglodion tew (f) £17.95
Stecen syrlwyn 8 owns, cylchoedd nionod, tomatos bach wedi eu crasu a madarch gyda salad bach a sglodion tew wedi eu coginio deirgwaith £22.95
Ychwanegwch fenyn garlleg a phersli neu saws pupurennau gwyrdd am £2.50
Supreme cyw iâr wedi ei rostio, tatws newydd, moron gyda sglein masarn, brocoli ifanc a saws madarch a tharragon £19.95
Pitsa
Pitsa 12.5” ffres wedi ei hymestyn â llaw, gyda saws tomato cyfoethog, mozzarella, a’ch dewis o dopins blasus.
Ham, pîn-afal a madarch £13.95
Cyw iâr wedi ei grilio, bacwn rhesog a roced ffres £13.95
Gwledd o gig - cyw iâr wedi ei grilio, pepperoni a chig eidion sbeislyd £13.95
Margarita (ll) (*f) £12.95
Ar yr Ochr
Salad bach £3.50
Cylchoedd nionod £3.50
Sglodion £3.50
Menyn garlleg a phersli £2.50
Saws pupurennau gwyrdd £2.50
Pwdin
Pwdin taffi gludiog gyda saws taffi cynnes cartref a hufen iâ fanila £6.95
Aeron cymysg wedi eu socian mewn jin riwbob Aber Falls gyda sorbet mafon (ll) £6.95
Posset lemwn cartref gyda chompot llus a meringue
ll - llysieuol f - fegan *f - opsiwn fegan ar gael
Mae’r holl fwyd yn cael ei baratoi yn ein cegin lle mae cnau, glwten ac alergenau eraill yn bresennol. Mae prosesau a hyfforddiant yn eu lle mewn perthynas ag ymwybyddiaeth alergenau.
OS OES GENNYCH ALERGEDD BWYD RHOWCH WYBOD I NI CYN ARCHEBU.
Nid yw’r disgrifiadau ar y fwydlen yn cynnwys yr holl gynhwysion. Mae gwybodaeth lawn am alergenau ar gael ar gais.
Archebwch eich bwrdd ym Mwyty 1884
Mwynhewch wir flas Gogledd Cymru – lle mae pob pryd yn ffres, yn lleol, ac yn angoes.
archebwch eich bwrdd ar-lein a gadewch i'ch synhwyrau wledda