Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Mawrth 2020

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031

"Life as an Attorney General of British Antarctica".

Lleoliad:
Neuadd Mathias, Adeilad Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor, LL572DG
Amser:
Dydd Gwener 13 Mawrth 2020, 16:00–18:00
Cyflwynydd:
Ysgol y Gyfraith
Cyswllt:
Chaynee Hodgetts
Mwy o wybodaeth:
Cofrestrwch yma

"Life as an Attorney General of British Antarctica".

Mr James Maitland Wood QC

Mae Mr James Maitland Wood QC yn Dwrnai Cyffredinol Tiriogaeth Antarctig Prydain a Chwnsler Cyffredinol Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, a benodwyd ym mis Awst 2014.

Cyn hynny roedd yn Dwrnai Cyffredinol Montserrat (2008 - 2011), Twrnai Cyffredinol Anguilla (2011 - 2014) a Chwnsler y Goron yn St Lucia (2007 - 2008).

Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle astudiodd y Gyfraith, cafodd ei alw i'r Bar ym 1989 a'i benodi'n Gwnsler y Frenhines yn 2013. Ers yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn denant yn Cornwall Street Chambers yn Birmingham.

Rhwng 2008 a 2014, roedd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Adolygu'r Gyfraith Ranbarthol yn Anguilla.  Sefydlwyd y Ganolfan yn 2007 gyda chymorth yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (y DU), ac mae bellach yn gweithredu'n llwyddiannus heb gymorth ariannol ac yn darparu gwasanaethau adolygu'r gyfraith ledled y Caribî.

Mae Mr Maitland Wood QC yn gwneud gwaith cyhoeddus a phreifat yn y Caribî, yn cynorthwyo sefydliadau gwarchod yr amgylchedd ac yn rhoi cyflwyniadau mewn gweithdai'r Academi Ddiplomyddol ar gyfer y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.