Newyddion: Awst 2019

Ymchwilydd PhD yn ennill gwobr mewn Cynhadledd Ryngwladol

Dyfarnwyd gwobr mewn cynhadledd ryngwladol fawreddog i ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, Anita Weissflog, am y cyflwyniad poster gorau.

Mae Anita, sy'n ymchwilio i rôl ffyngau pridd yn aildyfiant coedwigoedd trofannol yn dilyn eu haflonyddu, yn astudio am radd ddoethuriaeth yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor. Mae'n cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol trwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Envision

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2019

Croesawu ymwelydd arbennig - Hector Rowe

Yr wythnos diwethaf fe wnaethom groesawu ymwelydd arbennig iawn, Hector Rowe, 6 oed o Ynys Môn. 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2019

Dewch i rannu Bŵst Brecwast Busnes Cymreig ar gae Sioe Môn.

Mewn digwyddiad Bŵst Brecwast Busnes yn Sioe Môn fore Mercher 14 Awst bydd cyfle i fusnesau ac unigolion sydd yn gweithio ym maes bwyd glywed sut y gall prynu’n lleol fod o fudd i bawb.

Cyflwynir cyfres o sgyrsiau gan Brifysgol Bangor ym Mhabell Menter Môn yn Sioe Môn rhwng 9.00- 11.00 y bore am y cyfleoedd a gynigir gan gadwyni cyflenwi bwyd byr yng Ngogledd Cymru gan fusnesau a datblygwyr y sector fwyd lleol. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2019

Eisteddfod brysur arall i Brifysgol Bangor yn Eisteddfod Llanrwst 2019

Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019