Beth yw Gwyddorau Eigion?

Mae wyneb y Ddaear wedi’i ddominyddu gan fôr cysylltiedig eang: dechreuodd fywyd dan ddŵr ac mae’r Ddaear, ei môr, ei hinsawdd a’i horganebau wedi rhyngweithio ac esblygu gyda’i gilydd dros yr oesoedd. Mae’r môr wedi dylanwadu’n ddwfn ar ddynolryw. Mae ei ddyfroedd a’i lawr yn llawn adnoddau ffisegol a biolegol. Mae’n darparu cyflogaeth i filiynau o bobl, yn gweithredu fel llwybr cludiant i lawer o fasnach y byd, ac yn derbyn symiau helaeth o wastraff. Yn fwy na dim o bosibl, mae’n ysbrydoli ein hymdeimlad o antur a dychymyg. Mae morwyr, deifwyr, syrffwyr, unrhyw un sydd wedi syllu allan i’r môr a rhyfeddu, yn gwybod yr ymdeimlad arbennig o syfrdandod y gall y môr ei achosi.

Astudiaeth o amgylchedd môr y byd

Gwyddor eigion yw’r astudiaeth o amgylchedd môr y byd, o eangderau rhewllyd moroedd y pegynau i lagwnau tawel ynysoedd cwrel: o ddyfnderoedd glas llonydd y Môr Tawel i ddyfrffordd brysur a llygredig moryd drefol. Mae gwyddorau eigion yn cyfuno arsylwi’r amgylchedd hwn yn uniongyrchol gyda chwilio systematig am ddealltwriaeth o’r prosesau sy’n ei reoli. Felly mae gwyddonwyr eigion yn archwilwyr yn ogystal â gwyddonwyr, ac mae llawer o gefnfor y byd heb ei archwilio eto.

Anghenion gybodaeth wyddonol

Oherwydd amrywiaeth y wybodaeth wyddonol sydd ei hangen i ddeall yr holl brosesau dan sylw, mae gwyddorau eigion fel rheol wedi’i rannu’n amrywiaeth o ddisgyblaethau. Mewn gwirionedd, mae llawer iawn o orgyffwrdd rhwng y disgyblaethau, oherwydd dylanwadir ar lawer o agweddau o amgylchedd y môr gan brosesau ffisegol, cemegol a biolegol rhyngweithiol. Y cymysgedd hwn o ddisgyblaethau sy’n gwneud gwyddorau eigion mor gyffrous. Mae mordeithiau ymchwil a theithiau maes ar hyd glannau yn aml yn cynnwys gwyddonwyr o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd gwyddonol yn cydweithio i ddatrys cwestiynau allweddol ynghylch ffenomena amgylchedd y môr. Mae llwyddiant yn dibynnu ar y tywydd ac ar offeryniaeth soffistigedig ac anwadal weithiau. Mae teithiau o’r fath yn waith caled ac yn aml yn ofnadwy o anghyfforddus, ond yn gyffrous iawn a gwerth chweil hefyd.

Gellir rhannu’r disgyblaethau’n eigioneg ffisegol (neu ffiseg y môr), eigioneg ddaearegol (neu ddaeareg y môr), eigioneg gemegol (neu gemeg y môr) a bioleg y môr.

Gyfreithiau ffisegol ac eigioneg ffisegol sylfaenol

Mae’r môr yn ufuddhau i gyfreithiau ffisegol ac eigioneg ffisegol sylfaenol yn ymwneud â fformwleiddiadau mathemategol y cyfreithiau hyn i ddisgrifio ffenomena yn y môr a rhagfynegi sut bydd y môr yn ymateb i newid yn y dyfodol. Caiff y môr ei yrru gan lanwau a gwyntoedd i system ddeinamig o lifau aflonydd: caiff ei gynhesu gan yr haul a’i gymysgu gyda dŵr croyw o afonydd, glaw a dŵr tawdd. Mae eigionegwyr ffisegol eisiau deall pam, i ble a sut mae’r môr yn symud. Ar raddfa leol, mae hyn yn arwain at well dealltwriaeth o donnau a llanwau a’u dylanwad ar, dyweder, erydiad arfordirol, neu ar wasgaru difwynwyr o foryd lygredig. Ar raddfa fwy, mae hyn yn gwella dealltwriaeth o’r rhyngweithio rhwng cerhyntau’r môr a hinsawdd y byd ac felly’n gwella ein rhagfynegiadau o, dyweder, effaith cynhesu byd-eang ar gynnydd yn lefel y môr. Mae eigioneg ffisegol yn sail i’r holl ddisgyblaethau eraill, felly dylai pob gwyddonydd eigion fod â pheth gwybodaeth o eigioneg ffisegol.

Eigioneg gemegol

Nod eigioneg gemegol yw deall y prosesau sy’n rheoli crynodiad a dosbarthiad elfennau a’u cyfansoddion yn y môr. Oherwydd bod y môr yn ‘gawl’ cemegol cymhleth, rhaid defnyddio amrywiaeth o dechnegau soffistigedig i ddiffinio’i gyfansoddiad. Y prif gyfansoddyn cemegol yw dŵr, ond mae nifer o gemegau eraill yn bresennol hefyd. Mae rhai cemegau dŵr môr yn bresennol mewn crynodiadau mor isel, nes ei bod yn her nodi eu presenoldeb yn unig, heb sôn am fesur eu crynodiad. Mae eigionegwyr cemegol yn ceisio darganfod pa gemegau sy'n llesol i fywyd planhigion y môr, a yw organebau’r môr yn cynhyrchu cemegau naturiol a all fod o fudd i wareiddiad modern, a sut mae cemegau o bryder i’r amgylchedd, megis plaleiddiaid, petrocemegion, metelau a difwynwyr ymbelydrol yn ymddwyn yn y môr. Mae eigioneg gemegol yn sail i fiocemeg organebau’r môr a geocemeg prosesau gwaddodol y môr.

Eigioneg ddaearegol

Mae eigioneg ddaearegol yn ymwneud â gwaddodion y môr. Mae hyn yn cynnwys deall y prosesau sy’n rheoli tarddiad, erydiad, cludiant a dyddodion yn y môr. Mae gwaddodion yn arsugno difwynwyr a gludir drwy ddŵr, yn darparu cynefin ar gyfer organebau’r môr, ac yn dylanwadu ar lefelau golau dan ddŵr, felly dylanwadir yn gryf ar wasgariad llygryddion a chynhyrchiad biolegol gan eu hymddygiad. Mae eigioneg ddaearegol yn ymwneud hefyd â dyddodion, a all gronni dros filiynau o flynyddoedd ar waelod y môr. Mae’r rhain yn darparu cofnod o ddigwyddiadau’r gorffennol (megis newid mewn hinsawdd a lefel y môr) sy’n helpu â rhagfynegi effeithiau gweithgarwch dynol ar yr amgylchedd. Mae rhinweddau ffisegol y dyddodion hyn yn pennu eu gallu i gludo llwythi ar gyfer gosodiadau o’r lan megis rigiau a leiniau peipiau. Mae daeareg y môr yn ymwneud â’r prosesau sy’n siapio basnau cefnforoedd, yn pennu strwythur a chyfansoddiad cramen y Ddaear ac yn rheoli nodweddion y glandiroedd cyfandirol. Mae daearegwyr y môr ac eigionegwyr daearegol yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau geoffisegol a stratigraffig i archwilio cyfrinachau’r dyddodion a’r creigiau cramennol gwaelodol.

Bioleg y Môr

Mae bioleg y môr yn cwmpasu llawer o ddisgyblaethau biolegol, gan ymdrin ag amrywiaeth o organebau y ceir hyd iddynt o firysau i forfilod gleision: mae microbiolegwyr yn astudio’r bacteria a’r ffyngau; mae botanegwyr yn edrych ar blanhigion y môr o algâu un gell i wymon anferth, ac mae sŵolegwyr yn edrych ar bopeth o filionos i gramenogion, molysgiaid, pysgod a mamaliaid y môr. Mae’n bosibl canolbwyntio ar grŵp o organebau, neu edrych ar ecosystemau’n gyffredinol, gan astudio’r rhyngweithio rhwng grwpiau o organebau a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar newidiadau tymor byr a hir mewn cymunedau. Mae biolegwyr y môr yn dibynnu’n gynyddol ar dechnoleg fwyfwy soffistigedig, yn cynnwys technegau moleciwlaidd a biocemegol, dadansoddwyr cemegol a microsgopeg golau ac electronau. Mae cemeg a ffiseg y môr yn dylanwadu’n gryf ar brosesau biolegol: yn ei dro, mae bioleg yn effeithio ar brosesau cemegol a gwaddodol. Gallai adnoddau biolegol y môr helpu i ddatrys problem bwydo poblogaeth y byd sy’n cynyddu’n gyson, tra gall algâu’r môr helpu i frwydro yn erbyn y cynhesu byd-eang sy’n cael ei achosi gan lefelau cynyddol o garbon deuocsid yn yr atmosffer.

Cyfoeth a diogelwch Prydain

Cydnabyddir ar lefel genedlaethol y bydd cyfoeth a diogelwch Prydain yn parhau i ddibynnu ar y môr i mewn i’r mileniwm nesaf. Mae echdynnu olew a nwy, masnach arforol, dyframaeth a physgodfeydd, amddiffyniad strategol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a chael gwared ar wastraff i gyd yn weithgareddau pwysig y mae gwyddorau eigion yn sail iddynt. Mae pwyslais cynyddol ar y rhain a materion amgylcheddol eraill yn arwain at fwy a mwy o gyfleoedd i raddedigion sydd wedi’u hyfforddi mewn gwyddorau eigion, i weithio naill ai ar lefel leol, e.e. ar asesu effaith amgylcheddol ar y môr a’r arfordir, neu ar raddfa fyd-eang, e.e. i gynyddu cronfeydd bwyd y môr neu i bennu swyddogaeth y cefnforoedd mewn newid hinsawdd. Bydd angen arbenigwyr disgyblaeth sengl a graddedigion gydag amrywiaeth eang o wybodaeth i ryngweithio ar lefel fasnachol a’r llywodraeth i ddarparu strategaeth resymol i sicrhau bod y môr yn parhau’n adnodd cyfoethog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cyrsiau Gradd Ysgol Gwyddorau Eigion

Oherwydd natur ryngddisgyblaethol y pwnc yn ei hanfod, mae pob cwrs gradd a ddysgir gan  yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn cynnwys cyrsiau craidd a fydd yn rhoi’r hanfodion mewn eigioneg ffisegol, cemegol, daearegol a biolegol. Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau gradd hyn wedyn yn mynd ymlaen i arbennig mewn un o’r disgyblaethau hyn. Gall myfyrwyr sydd eisoes wedi datblygu diddordeb arbennig mewn bioleg, cemeg, daeareg neu ffiseg ddewis Bioleg y Môr neu Fioleg Gymhwysol y Môr, Cemeg y Môr, Eigioneg Ddaearegol neu Eigioneg Ffisegol / Mathemateg, yn y drefn honno. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai myfyrwyr yn dymuno dilyn cyrsiau gradd ehangach sy’n ymdrin ag un neu ragor o’r disgyblaethau sengl, neu os ydynt yn ansicr pa bwnc y dymunant arbenigo ynddo ar y cam hwn. Gall myfyrwyr sydd â diddordeb cryf mewn bioleg gyfuno hyn gydag eigioneg gemegol neu ffisegol mewn Bioleg y Môr/Eigioneg, tra gall y rhai sydd â mwy o ddiddordeb mewn gwyddorau ffisegol ddewis Gwyddorau Eigion, sy’n cynnig dewis eang o ddewisiadau cyrsiau ar draws amrediad llawn y disgyblaethau.