Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Medi 2020

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Gwybodaeth Covid-19

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Applicants
  • Current Students
  • Staff
  • Job Vacancies
  • Covid-19
My country:

Search

Close

Breadcrumb

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau

Mae’r ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr ysgolion academaidd unigol. Am wybodaeth ynglŷn â bwrsariaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ôl-raddedigion ewch i’r tab ‘Allanol’ isod.

  • Gwobrau’r Brifysgol
  • Gwobrau Ysgolion
  • Ariannu Strwythurol
  • Allanol

Gwobrau’r Prifysgol

Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan brifysgol sy'n rhoi pwyslais ar gymorth i fyfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr. Dyma'r bwrsariaethau a'r ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Ysgoloriaethau Ôl-raddedig Price Davies

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig ymchwil yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2020.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ffurflen gais.

Thomas Ellis Memorial Fund

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £1,500 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2020.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams yn galluogi ymchwil i Hanes Cymru, gan gynnwys deddfau Cymreig ac agweddau economaidd bywyd Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 7,000 i gefnogi graddedigion Hanes, Cyfraith ac Economeg dalentog sydd â diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2020.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 2,000 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn Newyddiaduraeth neu Faterion Rhyngwladol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2020.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Am fwy o wybodaeth am y cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cliciwch yma.

Disgownt teyrngarwch i raddedigion

Mwy o wybodaeth

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Seicoleg Newid Ymddygiad a Chynllunio Iaith. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Postgrad Solutions

Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un. Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Mynediad ôl-raddedig

Gall myfyrwyr DU (gan eithrio myfyrwyr o Gymru*) fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent yn derbyn un o’r canlynol tra’n fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn academiaeth 2019/20 neu’n ddi-waith cyn cychwyn cwrs ol-radd yn Brifysgol Bangor.

  • Grant Cynhaliaeth
  • Benthyciad Cynhaliaeth
  • Bwrsariaeth Foyer
  • Bwrsariaeth i Bobl sy’n Gadael Gofal
  • Gymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith,/ Credyd Cynhwysol

Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.

Dyfernir bwrsariaeth o £500 i:

  • fyfyrwyr oedd yn derbyn cyllid myfyrwyr mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion yn ystod 2019/20.
  • fyfyrwyr oedd yn ddi-waith yn union cyn cychwyn eu cwrs ôl-radd

Dyfernir bwrsari o £250 i:

  • fyfyrwyr oedd yn israddedigion yn 2019/20 ac yn derbyn cyllid myfyrywyr rhannol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol.

*Mae gan fyfyriwr o Gymru hawl i grant o leiaf £1,000 gan Lywodraeth Cymru

Bwrsariaethau Ehangu Mynediad ôl-radd

Mae’r bwrsariaethau yma wedi eu hanelu’n benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr ôl-radd llawn a rhan-amser. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol yw cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae nifer o ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o rai grwpiau. Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg. 

Beth mae'n ei gynnwys?

Telir ffioedd dysgu am gwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil un flwyddyn neu am ddwy flynedd os yw'n astudio'n rhan amser. 

Gwybodaeth ar sut i wneud cais am yr ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer 2020/21 yma. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â athenaswan@bangor.ac.uk.


Addysgedau AALl

Fel rheol nid yw awdurdodau lleol yn cynnig cefnogaeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, ond mae rhai yn rhoi ystyriaeth i rai cyrsiau penodol, fel cyrsiau TAR.

Mae’n eithaf peth i gysylltu â’ch awdurdod addysg lleol yn gynnar yn y flwyddyn i holi beth a fyddent yn ei gyllido. Byddai gennych fwy o siawns i gael cyllid os yw eich cwrs yn un galwedigaethol ond bydd rhaid i chi gyflwyno achos cryf i gael addysged.

Cysylltiadau Defnyddiol

Efallai y bydd y cysylltiadau yma yn ddefnyddiol i chi ymchwilio sut i gael cyllid ar gyfer eich cwrs:

  • Cyngor i hunan ariannu
  • Dulliau Talu Hyblyg
  • Prospects
  • StudentFunder.com
  • Education UK
  • Arts & Humanities Council
  • Economic & Social Research Council
  • Natural Environment Research Council
  • Biotechnology and Biological Sciences Research Council
  • Engineering and Physical Sciences Research Council
  • NHS Social Work Bursary (English Students)
  • Care Council for Wales
  • Postgrad.com
  • Darganfod Addysgu Cymru

Gwobrau Ysgolion

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau yn ein Hysgolion academaidd

Mae'r ysgolion academaidd canlynol hefyd yn cynnig ysgoloriaeth / bwrsariaethau.

Addysg a Datblygiad Dynol

Cymhellion Hyfforddi Athrawon

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau o hyd at £20K ar gyfer hyfforddiant athrawon mewn rhai meysydd pwnc. Mae cyllid ar gael ar gyfer ôl-raddedigion sy'n dechrau cyrsiau TAR Addysg Cychwynnol Addysg Athrawon (AGA) yn y pynciau a ganlyn:

Hyd at £ 20,000 ar gyfer mathemateg, bioleg, ffiseg, cemeg, y Gymraeg neu wyddorau cyfrifiadurol

Hyd at £ 15,000 ar gyfer ieithoedd tramor modern

£ 3,000 i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf, gradd Meistr neu PhD i ddysgu pob prif bwnc uwchradd a chynradd arall

Ychwanegiad o £ 3,000 ar gyfer graddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf, gradd Meistr neu PhD sy'n ymgymryd ag astudiaethau TAR cynradd gydag arbenigedd pwnc mewn Saesneg, Cymraeg, mathemateg neu wyddoniaeth.

Am fanylion llawn, edrychwch ar dudalennau Darganfod Cymhellion Hyfforddi Athrawon.

Iaith Athrawon Yfory

Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn gymhelliant a delir i bobl gymwys sy'n cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig yng Nghymru sy'n eu galluogi i ddysgu trwy gyfrwng Cymraeg neu ddysgu Cymraeg fel pwnc.

Cyfanswm o £5000 ar gyfer athrawon dan hyfforddiant cymwys mewn dau randaliad:

i. £2,500 i bobl gymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC;

ii. £2,500 i bobl gymwys ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol uwchradd Gymraeg neu ddwyieithog neu ddysgu Cymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd yng Nghymru.

Am fanylion llawn, edrychwch ar dudalennau Darganfod Cymhellion Hyfforddi Athrawon.

 

 

Busnes

Gwybodaeth ddefnyddiol

Am fanylion ffynonellau eraill o gyllid, gweler ein tudalen we amdan Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ôl-radd.

Cerddoriaeth a’r Cyfryngau

Bwrsariaethau i Ôl-raddedigion Cerddoriaeth

Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau nifer gyfyngedig o Fwrsariaethau Cerddoriaeth mewnol, sy'n agored i fyfyrwyr y DU, yr UE a thramor. Mae'r rhain yn amrywio o ran gwerth hyd at uchafswm o £1,000. Mae'r bwrsariaethau hyn ar gael ar sail gystadleuol. I wneud cais am fwrsariaeth, dylech uwchlwytho llythyr gyda'ch cais yn nodi pam yr hoffech gael eich ystyried. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â music.pg@bangor.ac.uk.

Bwrsariaethau Teithio Doethurol/ MPhil gan Ysgol Graddedigion CCD

Gall myfyrwyr ôl-raddedig MPhil a PhD yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau fod â hawl i wneud cais am fwrsariaeth deithio tra byddant yn gofrestredig, er mwyn mynd i gynhadledd academaidd neu ymweld ag archif/ llyfrgell academaidd berthnasol.

Asesir pob cais ar ei deilyngdod ei hun, ac ni fydd cyfanswm y fwrsariaeth/ bwrsariaethau a ddyfernir i unrhyw fyfyriwr ôl-raddedig unigol yn uwch na £150 o fewn unrhyw flwyddyn academaidd. Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau at weinyddwr y Coleg dros faterion ôl-radd.

Mathau eraill o gyllid

Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth hanes gwych o ran cael cyllid ar gyfer myfyrwyr ymchwil. Dros y blynyddoedd, rydym wedi ennill nifer o grantiau ar gyfer projectau ymchwil cydweithredol â phartneriaid allanol (cwmnïau, diwydiannau, cymdeithasau a cherddorfeydd) trwy KTP (Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth) a KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth).
Gall y Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedigion roi gwybodaeth ichi ynglŷn â’r rhain, ac am bosibiliadau eraill o ran cyllido.

Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig

Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor 2019/20

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad gyrfaol merched mewn gwyddoniaeth ac am y rheswm hwn mae Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth y Brifysgol yn cefnogi graddedigion sy'n ferched i barhau gyda'u hastudiaethau. Mwy o wybodaeth ar gael yn fuan.

 

Cymraeg

Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Mae'r Ysgol/Brifysgol yn cynnig y gwobrau canlynol i fyfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio ar unrhyw raglen ôl-radd hyfforddedig:

Ysgoloriaeth Cynhadledd Ymchwil Jeremy Howell

Fel adran ymchwil sydd ymysg y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig, yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol neu gyda'r gorau yn y byd (REF 2014), rydym yn awyddus iawn i wobrwyo rhagoriaeth ymchwil. Rydym yn hynod falch o gynnig gwobr ariannol i un myfyriwr Meistr llwyddiannus tuag at gyflwyno eu project ymchwil/traethawd hir MSc mewn cynhadledd academaidd o'u dewis.

Mae'r wobr yn cynnig hyd at £1000 i'r myfyriwr sy'n graddio o'n rhaglen MSc â'r marciau uchaf am eu project ymchwil/traethawd hir i gyflwyno eu project ymchwil/traethawd hir MSc mewn cynhadledd academaidd o'u dewis. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y wobr, rhaid i'r ymgeiswyr wneud cais yn ystod cyfnod eu hastudiaethau Meistr ym Mangor, trwy gwblhau cais proforma un dudalen yn rhoi manylion am deitl eu project ymchwil/traethawd hir, trosolwg o'r project ymchwil/traethawd hir, a'r gynhadledd yr hoffent gyflwyno ynddi. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 1 Awst yn ystod blwyddyn raddio MSc yr ymgeisydd. Gwneir penderfyniad terfynol am yr ymgeisydd llwyddiannus yn ein byrddau arholi a chyflwynir y wobr i'r myfyriwr llwyddiannus yn ein seremoni raddio Meistr. Yn achos dau farc cyfartal, caiff y wobr ei dyfarnu i'r myfyriwr Meistr sydd â'r marciau gradd uchaf yn gyffredinol. Ni fydd unigolion nad ydynt yn cyflwyno cais yn cael eu hystyried ar gyfer y wobr. Rhaid i'r project/traethawd hir sydd i'w gyflwyno yn y gynhadledd a ddewisir fod wedi'i gwblhau yma yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn ystod blwyddyn astudiaethau Meistr yr ymgeisydd. Mae'r wobr yn cynnwys cefnogaeth ariannol (hyd at uchafswm o £1000) tuag at gofrestru i'r gynhadledd, hedfan, llety a chynhaliaeth.

Cynorthwywyr Graddedig

Gall holl ymgeiswyr ôl-radd hyfforddedig (Cartref/UE/Rhyngwladol, llawn-amser a rhan-amser) wneud cais i ddod yn Gynorthwywyr Graddedig. Mae Cynorthwywyr Graddedig yn gweithio gyda staff academaidd am hyd at 60 awr bob blwyddyn academaidd mewn amrywiaeth o weithgareddau addysgu, dysgu ac asesu i gefnogi dysgu myfyrwyr israddedig.   Telir tâl am y gwaith yn fisol (tua £55 y mis). 

Pam y dylech wneud cais i fod yn Gynorthwywr?  

Mae rhaglenni ôl-radd SHES yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr yn y maes o’u dewis, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy, a dull gweithredu annibynnol sy’n eu paratoi’n dda at yr yrfa o’u dewis. Mae swyddi cynorthwywyr graddedig yn galluogi myfyrwyr i roi eu dysgu ar waith drwy gefnogi gweithgareddau’r ysgol. Mae o gymorth i ddatblygu eu sgiliau cefnogi personol a bydd yn cyfoethogi eu CVs gyda phrofiad uniongyrchol a fydd o fudd iddynt gael swyddi yn y dyfodol. 

Mae Cynorthwywyr Graddedig o’r Ysgol wedi mynd ymlaen i weithio fel darlithwyr a chynorthwywyr ymchwil mewn AB/AU, athrawon, ffisiotherapyddion ac arbenigwyr ymarferion adferiad, hyfforddwyr/tywyswyr awyr agored a pharafeddygon. 

Beth a ddisgwylir gan Gynorthwywr? 

Mae’r gweithgareddau y bydd Cynorthwywyr Graddedig yn ymwneud â hwy yn cynnwys cefnogi darlithoedd, arwain seminarau, rhoi cefnogaeth diwtoraidd, arddangos mewn dosbarthiadau ymarferol, marcio asesiadau israddedigion, goruchwylio mewn arholiadau ailsefyll i israddedigion. 

Disgwylir i Gynorthwywyr Graddedig baratoi at bob sesiwn drwy ymgyfarwyddo â’r gwaith darllen craidd a sicrhau bod ganddynt y gallu i osod y deunydd o fewn cyd-destun ehangach y modiwl yn gyffredinol, a’r ddarlith sy’n gysylltiedig â’r seminar yn neilltuol.  I’r diben hwn gall dod i’r darlithoedd fod yn hynod fuddiol, er na thelir am hynny ac nad yw’n orfodol. 

Proses Ymgeisio – Dylai ymgeiswyr anfon Curriculum Vitae a llythyr eglurhaol, yn nodi eu haddasrwydd i weithredu fel Cynorthwywr, at: Recriwtio a Derbyniadau (Ôl-radd Hyfforddedig) yn a.w.blanchfield@bangor.ac.uk erbyn  y dyddiad cau o 15 Gorffennaf yn y flwyddyn y maent yn dymuno dechrau eu rhaglen ôl-radd hyfforddedig.                                    

Dylai ymgeiswyr hefyd ddarparu dau eirda ysgrifenedig erbyn yr un dyddiad cau.  Lle bo’n berthnasol, dylai un o’r geirdaon fod gan gyflogwr diweddar; yn achos ymgeisydd sydd heb gael unrhyw brofiad gwaith, mae dau eirda academaidd yn dderbyniol.  

Mae’r drefn ddewis yn un gystadleuol a gall gynnwys cyfweliad.  Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus yn ystod Awst y flwyddyn y maent yn dymuno dechrau.

Gwyddorau Naturiol

Gweler y dudalen Saesneg am y wybodaeth diweddaraf ynglyn a'r ysgoloriaethau sydd ar gael yn yr Ysgol.

 

 

 

 

Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas

Nid oes ysgoloriaethau ar gael ar hyn o bryd.

Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth

Seicoleg

Efrydiaeth PhD a ariennir yn llawn: Niwrowyddoniaeth canfyddiad llais

Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ym maes ymchwil niwrowyddoniaeth glywedol a gellir ei deilwra i fuddiannau'r ymgeisydd llwyddiannus a'r tîm goruchwylio. Mae ymchwil Dr Bestelmeyer yn ymwneud yn fras â sut rydym yn tynnu gwybodaeth o sain llais rhywun. Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi'i hariannu'n llawn. Dyddiad cau ceisiadau: 12fed Mawrth 2021. Manylion llawn yma.

Y Gyfraith

Gwobr Teyrngarwch

Bydd graddedigion o Fangor sy'n dechrau cwrs gradd meistr llawn amser ym Mhrifysgol Bangor yn awtomatig yn cael disgownt o £500 oddi ar y ffioedd dysgu.

Ewch i dudalennau Prifysgol Bangor am wybodaeth am ragor o gyfleoedd ariannu Ôl-raddedig.

Ariannu Strwythurol

Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2)

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn darparu cyfleoedd ar gyfer astudiaeth PhD ac Ymchwil Meistr wedi’i gyllido mewn cydweithrediad â busnes neu bartner gwmni gweithredol. Fe’i hariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, a arweinir gan Brifysgol Bangor.

Ysgoloriaethau ar gael yma.

Allanol

Bwrsariaeth newydd ar gyfer Ôl-raddedigion yng Nghymru

 Mae cynllun bwrsariaeth newydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 i gynorthwyo myfyrwyr o Gymru i barhau â'u hastudiaethau ôl-raddedig yng Nghymru.

Nod y Cynllun Bwrsariaeth Cymhelliant Graddau Meistr Ôl-radd a addysgir yw cynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy'n aros yng Nghymru, neu'n dychwelyd i Gymru, i astudio gradd meistr ôl-raddedig yn y pynciau STEMM canlynol:

  • Gwyddoniaeth
  • Technoleg
  • Peirianneg
  • Mathemateg 
  • Meddygaeth

Mae bwrsariaeth ôl-raddedig newydd hefyd ar gael i'r rheini sydd am astudio 40 credyd neu fwy o'u gradd Meistr trwy gyfrwng Cymraeg.

Mae’r bwrsariaeth ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallai myfyrwyr o Gymru dderbyn hyd at £ 17,000 tuag at eu hastudiaethau a’u costau byw, os ydynt yn dewis astudio cwrs Meistr cymwys ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi.

Mae dyfarniad bwrsariaeth STEMM werth £2,000, gyda bwrsariaeth cyfrwng Cymraeg o £1,000 ar gael i'r rheini sy'n astudio 40 credyd neu fwy trwy gyfrwng Cymraeg.

Bydd y Brifysgol yn cysylltu'n uniongyrchol â phob myfyriwr o Gymru a'r UE sy'n gymwys ar gyfer y fwrsariaeth newydd ym mis Medi, gyda'r fwrsariaeth i'w defnyddio fel hepgoriad ffioedd i leihau cost eich ffioedd dysgu yn y rhan fwyaf o achosion.

Bwrsariaeth Newydd ar gyfer Ôl-raddedigion dros 60 oed

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu bwrsariaeth newydd o £4,000 ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig 60+. Mae'r fwrsariaeth ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 i fyfyrwyr Meistr Ôl-radd a Addysgir o Gymru a'r UE, sy'n astudio yn llawn amser.

Bydd y Brifysgol yn cysylltu'n uniongyrchol â phob myfyriwr sy'n gymwys ar gyfer y fwrsariaeth newydd ym mis Medi, gyda'r fwrsariaeth i'w defnyddio fel hepgoriad ffioedd i leihau cost eich ffioedd dysgu yn y rhan fwyaf o achosion.

Bwrsariaeth ‘Leverhulme Trade Charities Trust’

Mwy o wybodaeth ar gael yma

FindaMasters.com Ysgoloriaeth

Mae FindaMasters.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaMasters.com. Cofrestrwch yma.

FindaPhD.com Ysgoloriaeth

Mae FindaPhD.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaPhD.com. Cofrestrwch yma.

Ymholiadau am Astudio Ol-radd ym Mangor

  • Gwybodaeth ar Gyfer Darpar Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd-
  • Cyfarwyddwyr Astudiaethau Ôl-radd yr Ysgolion
  • Cyllid Myfyrwyr
  • Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd
  • Gwasanaethau Myfyrwyr

Cyrsiau Wedi'u Hariannu

Mae nifer o gyfleoedd ariannu ar gael. Cysylltwch â'r ysgol academaidd i wybod mwy am y cyllid sydd ar gael.

Cofiwch bod rhai ysgolion academaidd hefyd yn cynnig ysgloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eu pynciau. Ewch i'r dudalen ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau neu dudalennau'r ysgolion academaidd i gael mwy o wybodaeth.

  • Gwobrau wedi'u ariannu gan ysgolion academaidd

Ysgoloriaethau a Gwaddoliadau

  • Ysgoloriaethau Myfyrwyr Pantyfedwen
  • British Council
  • British Council
  • Chevening Scholarships
  • Commonwealth Scholarship Commission
  • Mantais - Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg.
  • Nuffield Foundation - Undergraduate Research Bursaries
  • PhD Fellowships for eligible registered health professionals.

Benthyciadau

  • Benthyciadau Ôl-radd/Benthyciadau Myfyrwyr

Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd

Mae’r Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd yn ymwneud â ffynonellau amgen o gyllid – yn enwedig elusennau – a all ddyfarnu cyllid (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, beth bynnag a fo ei (d)dinasyddiaeth.

Mae’r Arweiniad Amgen Ar-lein â chronfa ddata enfawr o gyfleoedd i gael cyllid, arweiniad cynhwysfawr ac offer niferus i’ch helpu i baratoi cais sy’n mynd i ennill grant ichi. I gynorthwyo ein myfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi prynu trwydded ar gyfer yr Arweiniad, fel ei fod am ddim i holl fyfyrwyr a staff Bangor ei ddefnyddio! Mewngofnodwch Yn Awr!

Os ydych yn ddarpar-fyfyriwr ac wedi gwneud cais i ddod i Brifysgol Bangor, anfonwch e-bost er mwyn cael PIN mynediad.

PostgraduateStudentships.co.uk

  • Gwefan yw PostgraduateStudentships.co.uk sy'n dod â'r holl wahanol fathau o gyllid sydd ar gael i ddarpar ôlraddedigion at ei gilydd mewn un lle. Felly, gellwch weld beth sydd ar gael o ffynonellau cyffredinol, yn ogystal â chyfleoedd a chyllid o'r brifysgol ei hun.

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Ysgol Gwyddorau Eigion
    • Hafan
    • Ein Staff
    • Mwy am yr Ysgol
      • Beth yw Gwyddorau Eigion?
      • Ein Staff
      • Cyfleusterau
      • Prince Madog
      • Lleoliad
      • Bangor a’r ardal
      • Visitor Accommodation
      • Taith Rhithwir
      • Canolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol
    • Astudiaethau Israddedig
      • Cyflwyniad
      • Archebu Prospectws
      • Diwrnodau Agored
      • Pam dewis astudio ym Mangor?
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Llety
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ffioedd a Chyllid
      • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
      • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Gwneud Cais
      • Diwrnodau Ymweld UCAS
      • Cyfleusterau
      • Proffiliau Myfyrwyr
    • Astudiaethau Ôl-raddedig
      • Cyflwyniad
      • Ein Cyrsiau
      • Modwilau
      • Fframwaith y Cwrs
      • PhD ac MPhil
      • Gofynion Mynediad
      • Cyfleusterau
      • Bywyd Myfyrwyr
      • Archebu Prospectws
      • Sut i wneud cais
    • Ymchwil
      • Cyhoeddiadau Ymchwil
      • Graddau Ymchwil
      • Ein staff
      • Centre for Applied Marine Sciences
    • Centre for Applied Marine Sciences
    • Prince Madog
    • Alumni
    • Newyddion
      • Canolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol
    • Fideos
    • Cysylltwch â ni
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

marchnata@bangor.ac.uk

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor