Adolygiad Blynyddol a Chynlluniau Datblygu
Diweddariad ar gymmeradwyo ac adolygu rhaglenni Haf 2022
Hwylusir sicrhau a gwella ansawdd gan arolwg blynyddol a chynlluniau datblygu, yn deillio o fodiwlau unigol, cyrsiau ac adrannau.
Mae hunan-fonitro a monitro tîm wedi eu seilio ar sylwadau gwerthusol gan arholwyr allanol, cyrff asesu a phroffesiynol, myfyrwyr a chyfoedion.
Dylid dychwelyd y Cynllun Adolygu a Datblygu Blynyddol (QA1) i'r Uned Sicrhau Ansawdd a Dilysu, wedi iddo gael ei gymeradwyo gan Gyfarwyddwr Addysgu a Dysgu'r Coleg, erbyn 15 Awst 2022 yn achos rhaglenni y mae eu Byrddau Arholi yn cyfarfod yn yr haf, neu cyn pen mis yn dilyn cyfarfod y Bwrdd yr Arholwyr ar adegau eraill o'r flwyddyn. Uwchlwythwch y ffurflen wedi'i chwblhau i bob cofnod rhaglen ar Worktribe.
Ystyriwch y ddogfen Darpariaeth Academaidd 22/23 yn eich ffurflen QA1.
Mae'r canlynol ar gael i'w llwytho i lawr:
- Ffurflen QA1- Raglenni Israddedig
- Ffurflen QA1- Raglenni Ôl-radd Hyfforddedig
- Ffurflen QA1- Raglenni â ddilysir yn allanol
Mae'r ffurflen QA2, adolygiad blynyddol o fodiwlau, bellach ar gael trwy FyMangor