Dilysu
Cod Ymarfer ar gyfer Cymeradwyo, Monitro ac Adolygu Rhaglenni
Y broses gymeradwyo ar gyfer rhaglenni newydd
Yr amserlen i ddilysu rhaglenni, ac eithrio rhaglenni llwybr cyflym, yw dwy flwynedd ar ôl cael ymeradwyaeth gan y Grŵp Strategaeth Academaidd. Yn unol â hynny, rhaid cyflwyno rhaglenni i'w cymeradwyo'n academaidd ar 1af Rhagfyr er mwyn i'r dysgu ddechrau ym mis Medi, 17 mis yn ddiweddarach.
Rhaid cwblhau asesiad effaith Safonau'r Iaith Gymraeg ar unrhyw ddatblygiadau newydd i raglenni ac unrhyw fodiwlau unigol
- Gweithdrefn i Ohirio neu Derfynu Rhaglenni
- Cais Am Ohirio / Dileu Cynllun Astudiaeth
- Cais i newid enw cynllun astudio
Modiwlau Newydd
Er mwyn gwella'r cysylltiad rhwng modiwlau â deilliannau dysgu rhaglenni a sicrhau bod newidiadau i raglenni yn seiliedig ar dystiolaeth, o fis Hydref 2020 ymlaen, ni fyddwn yn derbyn modiwlau annibynnol os nad ydynt wedi eu cymeradwyo gan y Grŵp Gwella fel rhan o adolygiad blynyddol ar lefel rhaglen, os ydynt yn ofynnol gan gyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol ac, mewn achosion prin, os ydynt yn angenrheidiol i ymdopi â newidiadau ymhlith y staff. Gweler Cod Ymarfer 08 am ragor o fanylion.
Y dyddiad cau i fodiwlau newydd ar gyfer 2021/22 yw Dydd Llun, 1af Chwefror 2021.
- Canllawiau ar gyfer cymeradwyo modiwlau
- Ffurflen Modiwl Newydd/Adolygu
- Catalog Modiwl Prifysgol Bangor (PIP)
- Deilliannau Dysgu