Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Medi 2020

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Gwybodaeth Covid-19

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Applicants
  • Current Students
  • Staff
  • Job Vacancies
  • Covid-19
My country:

Search

Close

Breadcrumb

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Amser graddio i fyfyrwraig lwyddiannus o Sir y Fflint

Mae tair blynedd wedi hedfan heibio i fyfyrwraig ddiwyd o Brifysgol Bangor sydd yn graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yr wythnos hon.

Mae Katie Marie Hyslop, 22 yn hanu o Fwcle, Sir y Fflint, ac yn gyn-ddisgybl o  Ysgol Uwchradd Elfed. Graddiodd gyda Gradd BSc Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol. Hefyd enillodd un o dair gwobr Dr John Roberts Jones gwerth £800 a ddyfernir bob blwyddyn i'r myfyrwyr gorau ar draws yr holl ddisgyblaethau.  Enillodd Katie ddwy wobr gan yr ysgol hefyd, sef gwobr Sarah Smythe i'r myfyriwr sy'n ennill y marc cyffredinol cyfartalog uchaf yn yr ysgol a'r wobr Project Seicoleg i'r myfyriwr sy'n ennill y marc  uchaf mewn Project Seicoleg/Rheolaeth Echddygol.

Mae Katie'n hapus ac yn llawn cyffro o feddwl am raddio. Dywedodd: "Mi ddois i un o ddiwrnodau agored y brifysgol a disgyn mewn cariad yn syth â'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Roeddwn i'n gwybod yn reddfol mai Bangor fyddai'r lle perffaith i mi. Roeddwn i wedi bod mewn chweched dosbarth bach lle'r oedd yr athrawon i gyd yn eich adnabod a'r amgylchedd yn gyfeillgar ac yn ymlaciol.  Roedd yn beth bwysig i mi wrth fynd ymlaen i addysg uwch fy mod i'n fwy na rhif. 

"Hyd yn oed yn y diwrnodau agored, roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus ac yn gartrefol ym Mangor. Roedd y staff a'r arweinwyr cyfoed mor gyfeillgar a pharod i helpu, ac yn ateb fy holl gwestiynau ac roeddwn i wrth fy modd efo'r darlithfeydd, eu maint a'r awyrgylch cartrefol.  Y prif ffactor arall a'm denodd i Fangor oedd y byddwn i'n cael fy nysgu gan ymchwilwyr sydd yn enwog yn rhyngwladol.  I mi, roedd hyn yn gyffrous iawn ac yn fraint o'r mwyaf.

"Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, cymerais ran mewn cwpl o brojectau ymchwil gwych.  Mewn un project, es i'r ysbyty a chael cast ar fy mraich chwith am 4 diwrnod. Roedd yn brofiad gwych ond gobeithio’n wir na fydda i byth yn torri unrhyw esgyrn oherwydd fyddwn i byth yn gallu ymdopi am fwy na 4 diwrnod! Project ymchwil gwych arall y cefais fod yn rhan ohono oedd gyda'r adran Seicoleg. Cefais gyfle i gael sgan fMRI.  Roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan mewn llawer o brojectau ymchwil dan ofal myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

"Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf mi fûm yn gweithio gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (SVB), ac yn helpu gyda Rhaglen Chwaraeon y Ddraig. Bûm hefyd yn aelod o'r Clwb Hoci Merched. Roedd yn wych bod yn rhan o'r clybiau a'r cymdeithasau. Fe wnes i lawer o ffrindiau da ac roeddwn yn gallu chwarae a hyfforddi yn y gamp rydw i'n ei mwynhau a chystadlu yn erbyn llawer o brifysgolion eraill a thimau ar draws gogledd Cymru hefyd.

"Yn yr ail flwyddyn ymunais â'r cynllun Arweinwyr Cyfoed ac roeddwn i wrth fy modd a dois yn Brif Arweinydd Cyfoed yn yr ysgol yn ystod fy mlwyddyn olaf. Mi ddois yn Arweinydd Cyfoed am fy mod i am roi rhywbeth yn ôl i'r brifysgol yn ogystal â helpu myfyrwyr newydd. Mae wedi bod yn brofiad gwych, o drefnu digwyddiadau i'r ysgol i gyflwyno yn y Diwrnodau Agored.

"Y diwrnod cyn dechrau arholiadau'r ail flwyddyn cafodd fy nhad ei ruthro i'r ysbyty ar ôl dioddef trawiad ar y galon.  Pan ddywedodd fy mam wrtha i, dw i ddim yn meddwl fy mod i wedi sylweddoli'n llwyr pa mor ddifrifol oedd pethau, ac wrth edrych yn ôl credaf fy mod i'n rhedeg ar adrenalin tra oeddwn i'n gwneud arholiadau’r Nadolig. Ychydig o amser wedyn, pan gafodd fy nhad ei lawdriniaeth 'triple bypass' aeth pethau’n anodd wrth i mi ddod i delerau â'r hyn oedd wedi digwydd. Roedd y misoedd hynny'n rhai anodd iawn. Cefais anhawster i ganolbwyntio, roeddwn i'n gofidio'n arw, ac roeddwn i am fod yn gefn i’m mam a 'nhad. Drwy'r cwbl bûm yn cyfarfod â'm tiwtor, Jeanette Thom, a staff cefnogi eraill yr ysgol. Roedden nhw i gyd yn wych.  Rhoeson nhw lawer o gefnogaeth i mi a gwneud trefniadau os oedd angen i helpu gyda fy ngwaith, dyddiadau cyflwyno, ac roedd ganddyn nhw amser o hyd i eistedd a chael sgwrs. Roedd pethau bach fel hyn yn gwneud y byd o wahaniaeth i gyd i mi ac yn fy nghadw i fynd!

"Uchafbwynt fy nghyfnod ym Mangor, heb os nac oni bai, ydi ennill y tair gwobr a graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf. Fyddwn i ddim wedi breuddwydio y byddwn yn derbyn unrhyw wobrau wrth orffen yn y brifysgol ac mae'n anrhydedd ac yn llawenydd mawr i mi dderbyn yr holl wobrau hyn. 

"Ar hyn o bryd rydw i'n gwneud cais i lawer o gynlluniau graddedigion ac yn y dyfodol rydw i'n gobeithio dilyn gyrfa sydd yn fy ngalluogi i barhau i ddysgu ac i ehangu fy ngwybodaeth ac sydd hefyd yn fy herio. Rydw i hefyd yn cadw'r drws yn agored i ragor o addysg uwch."

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
    • Hafan
    • Mwy am yr Ysgol
      • Ein Staff
      • Ein Ymchwilwyr
      • Bangor a’r ardal
      • Athena SWAN
      • Cyfeiriadau Teithio
      • Manylion cyswllt
    • Ein Staff
    • Israddedigion
      • Cyrsiau
      • Modiwlau
      • Gofynion Mynediad
      • Pam Astudio Yma?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Cefnogi eich Astudiaethau
      • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol
      • Arweinwyr Cyfoed
      • Diwrnodau Agored
      • Diwrnod Agored Rhithwir
    • Ôl-raddedigion
      • MSc
      • MRes
      • PhD ac MPhil
      • Cyllid Ôl-radd
      • Pam Astudio Yma?
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Archebu Brosbectws
      • Canllawiau a Chod Ymddygiad ar gyfer hyfforddiant ymchwil
    • Addysg Dwyieithog
      • Cyflwyniad i Addysg Ddwyieithog yng SHES
      • Modiwlau dwyieithog
      • Staff a myfyrwyr ôl-radd
      • Cyllid ar gyfer astudiaethau
      • Adnoddau
    • Gwyliwch ein fideos
      • Ein videos
      • Cyfweliadau gyda ein myfywyr
      • Proffiliau myfyrwyr
      • Fideos myfyrwyr
      • Clipiau a gwefannau allanol
      • Fideos Prifysgol Bangor
    • Bywyd Myfyrwyr
    • Cyfleusterau
      • Rhithdeithiau o'n Labordai
      • Rhithdeithiau o Ganolfan Brailsford
    • Eich Gyrfa
    • Ymchwil
      • Newyddion Ymchwil
      • Rhagoriaeth Ymchwil
      • Moeseg Ymchwil
      • Sefydliad ar gyfer Seicoleg Perfformiad Elit
      • Grŵp Ymchwil Eithafoedd
      • Canolfan PAWB
      • Sefydliad Rhagoriaeth Ymchwil mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff (IRESE)
    • Menter ac Arloesi
      • Ymgynghoriaeth
      • Cefnogaeth i Chwaraeon a Gwyddorau Chwaraeon Rhyngwladol
    • Dysgu trwy Weithio
    • Newyddion
      • Newyddion Ymchwil
    • Diwrnodau Agored
    • Archebwch Brospectws
    • Tudalennau Perthnasol
    • Manylion Cyswllt
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

marchnata@bangor.ac.uk

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor