Gweithgareddau Arloesol Diweddar

Cydweithio ar ddyluniad yn trawsffurfio’r broses sganio fasgwlar

Datblygwyd stand clamp pwrpasol o ganlyniad i gydweithio llwyddiannus rhwng technegwyr ac academyddion yn Arloesi Pontio. Defnyddir y stand clamp yn awr yn y labordy ffisioleg gardiofasgwlaidd yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor.

Mae dyluniad penodol y stand clamp yn galluogi ymchwilwyr i sefydlogi’r trawsddygiadur uwchsain wrth wneud gwaith sganio fasgwlaidd. Mae’n helpu i wella cywirdeb y data a gynhyrchir yn sylweddol iawn.

Mae argraffu 3D yn cadw SEACAMS ar y blaen ym maes ymchwil a chynllunio offer môr.

Mae SEACAMS, cangen o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn cynhyrchu offer ar gyfer y môr yn llwyddiannus am lawer o flynyddoedd. Mae eu cydweithio diweddar gydag Arloesi Pontio wedi eu galluogi i brototeipio eu cynnyrch gan ddefnyddio argraffu 3D am y tro cyntaf.

Eu her oedd dylunio ffrâm i ddal offer casglu data acwstig ar uchder priodol uwchlaw gwely’r môr. I ddechrau defnyddiodd tîm SEACAMS feddalwedd CAD 3D nerthol i fodelu’r ffrâm, ac yna gofyn i Arloesi Pontio gynhyrchu prototeip ar raddfa gan ddefnyddio argraffu 3D. Roedd yn golygu y gallai tîm SEACAMS ystyried ac yna adolygu eu cynllun cyn gweithgynhyrchu.

Bydd cydweithio parhaus gydag Arloesi Pontio yn helpu i sicrhau bod SEACAMS a Phrifysgol Bangor yn parhau ar y blaen ym maes ymchwil a chynllunio offer môr.

Hwb busnes i fusnes newydd meddygol ym Mangor

Mae UW Designs sydd wedi eu lleoli yng ngogledd Cymru yn datblygu cynnyrch a dulliau arloesol meddygol. Diolch i Arloesi Pontio maent wedi gallu gwneud ymchwil a gwaith dylunio a oedd yn llwyr y tu hwnt i’w cyllideb o’r blaen.

Bu Pontio yn helpu UW Designs i gynllunio, profi a phrototeipio dyfais endosgopi ar gyfer CREO Medical, am gyfran fechan o’r gost oedd yn eu hwynebu yn flaenorol. Mae UW Designs yn awr mewn sefyllfa i ddatblygu cynnyrch masnachol hyfyw eraill a chynyddu eu busnes.

Meddalwedd yn gwneud tripiau ysgol yn llawer haws

Mae Arloesi Pontio wedi cefnogi Semantise Ltd. yng ngogledd Cymru i ddatblygu meddalwedd a fydd yn helpu ysgolion i wella eu ffyrdd o reoli data yn aruthrol.

Bwriad yr ap eezeTrip App yw lleihau’n aruthrol y cyfathrebu ar bapur rhwng yr ysgolion a rhieni, gan arbed arian ac amser gwerthfawr. Tyfodd Semantise, sydd wedi’i leoli ym Mrynrefail, o’r Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?