Newyddion: Mawrth 2020
Cyn-fyfyrwyr PhD yn siarad am eu gyrfaoedd y tu allan i'r byd academaidd
Daeth Dr Melanie Davies (PhD Gwyddorau Biolegol 2003, myfyrwraig ôl-ddoethurol gyda'r North West Cancer Research Fund Institute 2004-2008), a Dr Les Pritchard (Cyfrifiadureg PhD 2004) yn eu holau i Brifysgol Bangor brynhawn Mercher i siarad am eu gyrfaoedd y tu allan i'r byd academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2020
Genethod yn STEM: Technocamps yn cynnal digwyddiad i bobl ifanc 11 a 14 oed
Yn ystod hanner tymor y gwanwyn, cynhaliodd y tîm Technocamps yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, ddigwyddiad arbennig i bump ar hugain o ddisgyblion ysgol rhwng 11 a 14 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2020
Cytundeb niwclear rhwng Cymru a Chanada
Mae prifysgolion o Gymru a Chanada wedi ymuno i ddatblygu technolegau niwclear arloesol gyda'i gilydd. Bydd Prifysgol Bangor, yng ngogledd Cymru, a Phrifysgol New Brunswick (UNB), yng Nghanada, yn dechrau cydweithredu ar ffynonellau ynni newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2020