Newyddion Diweddaraf
Allech chi amddiffyn eich hun ar blaned arall?
Mae darlithydd ac arbenigwr mewn rhithrealiti ac animeiddio o Brifysgol Bangor wedi datblygu un o’r gemau penset rhithrealiti ddiweddaraf i gael ei rhyddhau.
Mae Crashland newydd ei rhyddhau ar Oculus Quest ac mae’n amserol iawn yn dilyn derbyn y lluniau cyntaf o gerbyd Perseverance ar blaned Mawrth yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2021
Teyrnged i Ray Davies
Mae Ray Davies, Cyfarwyddwr Academi Ffotoneg Cymru Bangor (PAWB) wedi marw.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2021
Academyddion yn cyfrannu at drefnu'r gynhadledd Computer Graphics and Visual Computing (CGVC) 2020
Bu academyddion o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cyfrannu at drefnu'r gynhadledd Computer Graphics and Visual Computing (CGVC) 2020, a gynhaliwyd ddydd Iau 10 a dydd Gwener 11 Medi 2020 ar Zoom. Rita Borgo ac Alfie Abdul-Rahman (King’s College Llundain) oedd yn cynnal y gynhadledd a hon oedd y 38ain gynhadledd graffeg cyfrifiadurol, delweddu a chyfrifiadureg gweledol flynyddol a drefnwyd gan yr Eurographics UK Chapter.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2020
Grantiau ôl-radd i fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Mae grantiau ar gael i fyfyrwyr o Gymru astudio graddau ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020
Uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn cael eu trafod gan academyddion mewn seminar cyhoeddus
Mae uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn ddau bwnc ymysg y nifer fydd cael eu trafod gan academyddion o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Bangor mewn seminar cyhoeddus a gynhelir cyn hir.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2020