Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
Fideo - Dylunio Cynnyrch
O wobrau i leoliadau – dewch i ddarganfod pam y dylech chi astudio Dylunio Cynnyrch yma gyda ni.
Proffil Myfyriwr
Ein Hymchwil o fewn Dylunio Cynnyrch
Wrth astudio Dylunio Cynnyrch byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ymchwil diweddaraf yn eich maes ac yn cael cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri cenedlaethol a rhyngwladol wrth gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.
Mae ein hymchwil ym maes Dylunio Cynnyrch wedi'i gwreiddio'n gyson yn ein briffiau byw ac mae'r canlyniadau'n dod yn rhan annatod o brosesau datblygu cynnyrch ac arloesi newydd o fewn cwmnïau. Mae'r profiadau cymhwysol a byd go iawn hyn wedi arwain at i nifer o'n myfyrwyr gael eu henwi ar batentau gyda'n cwmnïau partner.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.