Ystafell reoli ganolog yr orsaf ynni niwclear

Niwclear

 

 

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

cyrsiau*

*cyrsiau sy'n ymwneud â Niwclear

Pam Astudio Pynciau sy'n Ymwneud â'r Maes Niwclear?

  • Rydym yn gweld ein holl fyfyrwyr fel unigolion ac rydym yn deall eu cryfderau. Mae drysau ein swyddfeydd bob amser yn agored i'n holl fyfyrwyr, p'un a ydynt yn dymuno trafod eu gwaith academaidd, eu damcaniaethau ymchwil neu i gael sgwrs am fywyd. Mae unrhyw un sy'n dewis astudio gyda ni yn cael help bob cam o'r ffordd a bydd yn graddio gyda chymhwyster sydd wrth fodd y cyflogwyr yn ogystal ag atgofion a ffrindiau a fydd yn para am oes.
  • Rydym yn gymuned fywiog gyda labordai â chyfarpar da, cyfrifiaduron sydd wedi eu rhwydweithio gan ddefnyddio meddalwedd safonol y diwydiant a'n llyfrgell ein hunain.
  • Mae ein hymchwil a'n cysylltiadau eraill â diwydiant yn sicrhau bod ein cyrsiau'n adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf. Mae'r staff yn ymarferwyr proffesiynol yn y maes sy'n gweithio ar brojectau ar y cyd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr i ddiwydiant.
  • Yn aml, cynhelir y projectau blwyddyn olaf ar y cyd â'r diwydiant ynni - a fydd yn fanteisiol i chi pan ewch chi ati i chwilio am waith.

Yn ogystal â'r cyfleusterau addysgu ac ymchwil rhagorol, cewch hefyd ddefnyddio'r technolegau diweddaraf mewn peirianneg reoli, fel Rheolwyr Rhesymeg Rhaglenadwy (“PLC”) ac offer robotig.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

Ein Ymchwil o fewn Ynni Niwclear

Mae ein hymchwil wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf. Cafodd ein hamgylchedd ymchwil – sydd hefyd o'r pwys mwyaf i fyfyrwyr ôl-radd – sgôr hynod uchel hefyd. 

Trefnir ein gweithgareddau ymchwil mewn tri grŵp ymchwil, sy'n gorgyffwrdd i wneud y gorau o adnoddau a chyfleoedd i gydweithio.

Mae project SEEC, y Ganolfan Ynni Effeithiol a Chlyfar, project ymchwil cydweithredol sy'n werth oddeutu £6M yn cynnwys ymdrechion sylweddol mewn Peirianneg Rheoli ac Offeryniaeth.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.