Logo 1884 ar gefndir gwyn

M-SParc

Cydweithio â diwydiant

Parc gwyddoniaeth penodol cyntaf Cymru 

Mae Parc Gwyddoniaeth Menai, neu M-SParc i roi ei enw mynwesol arno, yn rhan o Brifysgol Bangor. Dyma lle mae cwmnïau cyffrous a blaengar yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg - yn enwedig y sectorau carbon isel, digidol a gwyddor bywyd - yn ymgartrefu ac yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu eu busnesau. 

Mae M-SParc yn galluogi Prifysgol Bangor i fod ar flaen y gad o ran effaith ymchwil a chydweithio â’r byd diwydiant wrth ddarparu cyfleoedd i raddedigion, pobl sydd wedi'u tangyflogi neu sy'n dymuno uwchsgilio, a'r rhai sydd eisiau newid gyrfa. Mae'r Academi Sgiliau yn M-Sparc wedi'i sefydlu i bontio'r bwlch sgiliau yng Ngogledd Cymru, yn enwedig ym maes digidol, gwyddoniaeth a thechnoleg a'r meysydd creadigol, gan ddarparu cyfleoedd gan gynnwys prentisiaethau gradd, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gyrfa. 

M-SParc yw'r ecosystem sy'n dod â'r byd academaidd, busnes, diwydiant a menter ynghyd. Rydym yn annog myfyrwyr Prifysgol Bangor i fynd ar leoliadau gwaith ac interniaethau gyda'n tenantiaid - gyda dros 70% o interniaethau yn dod yn yrfaoedd yma yn M-SParc! Mae Academi M-SParc yn darparu cyfleoedd pellach i raddedigion gael cyfleoedd gwaith ystyrlon.

Pryderi Ap Rhisiart,  Rheolwr Gyfarwyddwr, M-SParc

M-SParc yw'r ecosystem sy'n dod â'r byd academaidd, busnes, diwydiant a menter ynghyd. Rydym yn annog myfyrwyr Prifysgol Bangor i fynd ar leoliadau gwaith ac interniaethau gyda'n tenantiaid - gyda dros 70% o interniaethau yn dod yn yrfaoedd yma yn M-SParc! Mae Academi M-SParc yn darparu cyfleoedd pellach i raddedigion gael cyfleoedd gwaith ystyrlon.

Kieron Hughes,  Cyn-fyfyriwr Cyfrifiadureg, Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?