Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cyfryngau yn gwneud cyfraniad mawr at adlewyrchu, dylanwadu a siapio bywyd modern, a gallent hyd yn oed newid y byd. Mae ein gradd Astudiaethau a Chynhyrchu’r Cyfryngau (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn un gyffrous sy'n rhychwantu ehangder astudiaethau'r cyfryngau, gan gynnwys: teledu a radio, ffilm a fideo, y cyfryngau digidol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus ac ymarfer y cyfryngau. Mae’r sgiliau a’r technegau a ddysgir wrth astudio a chynhyrchu deunydd clyweledol wrth wraidd llawer o'r meysydd allweddol yn y diwydiannau creadigol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn sgiliau technegol ac ymarferol sy'n angenrheidiol i'ch gwneud yn weithiwr proffesiynol llwyddiannus yn y meysydd hyn.
Mae ein cwrs Astudiaethau a Chynhyrchu’r Cyfryngau (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn gwrs pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen integredig sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r radd anrhydedd tair blynedd. Cynlluniwyd y cwrs yn benodol i fyfyrwyr sydd eisiau astudio ar lefel gradd ond nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad neu ddim yn meddu ar gymwysterau traddodiadol.
Mae'r flwyddyn sylfaen (blwyddyn 0) yn rhoi cyfle i chi ehangu a chryfhau eich hyder, sgiliau a gwybodaeth - gan sicrhau eich bod yn barod ac yn gymwys i symud ymlaen i flwyddyn 1 y radd israddedig.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
- Mae ein dull yn unigryw gan ei fod yn cynnwys cyfuniad o ddulliau gweithredu academaidd a theoretig ac ymarfer creadigol. Mae myfyrwyr yn yr ysgol yn cael cyfle ar bob lefel i gyfuno astudiaethau yn eu dewis faes gyda gwaith ymarferol sy'n deillio o hynny megis ysgrifennu, perfformio, a chynhyrchu yn y cyfryngau/cyfryngau digidol.
- Mae gennym gysylltiadau gwych â chwmnïau theatr, papurau newydd a'r diwydiant teledu.
- Yn aml, cynhelir projectau blwyddyn olaf mewn cydweithrediad â chwmni a gallant gynnwys gweithio mewn tîm gyda myfyrwyr o gyrsiau gradd yn y celfyddydau creadigol.
- Mae llawer o aelodau staff yn yr ysgol yn ymarferwyr ac yn ymgynghorwyr yn eu meysydd.
- Mae gan y staff dysgu amrywiaeth o ddiddordebau ymchwil gan gynnwys comics, gemau a bydoedd rhithwir, diwylliant gweledol, teledu byw a hyperdestunau ac maent yn ddiweddar wedi ysgrifennu am bynciau fel ffilm a fideo, amlgyfrwng, systemau cyfryngau byd-eang, tirweddau rhithwir, rhwydweithiau cymdeithasol, teledu rhyngweithiol, a’r cyfryngau a chynrychiolaeth a theledu cwlt.
- Mae gennym ganolfan gyfryngau a'r holl offer priodol, gydag ystafelloedd golygu, stiwdios cynhyrchu, offer cyfryngau a chyfryngau digidol.
- Cynhelir amrywiaeth o gynadleddau, fideo gynadleddau a digwyddiadau'r diwydiannau creadigol ym Mangor.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs Astudiaethau a Chynhyrchu’r Cyfryngau (gyda Blwyddyn Sylfaen), byddwch yn mynd i ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau gwylio, ac yn ymgymryd â thasgau ymarferol a damcaniaethol. Mae modiwlau Ymarfer y Cyfryngau yn canolbwyntio ar dri phrif faes: cynhyrchu ffilm a theledu, cynhyrchu radio a chyfryngau digidol yn fwy cyffredinol. Caiff modiwlau ymarferol eu hasesu ar y cynnyrch ymarferol ac ar allu'r unigolyn i adfyfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer.
Asesir modiwlau ar hanes a dylanwad y cyfryngau, a diwylliant y cyfryngau, drwy arholiadau ac aseiniadau, ond bydd dulliau asesu yn amrywio yn ôl y modiwlau a ddewisir.
Cyfleusterau
- Gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel cyfarpar recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy.
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol.
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition.
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac.
- Awditoria.
- Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi, sy'n cynnwys sinema 200 sedd gyda system sain amgylchynol Dolby.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 88 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Diplomâu a Thystysgrifau BTEC
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch City & Guilds
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbynnir yr Irish Leaving Certificate
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu'r rheini â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o gynhyrchu yn y cyfryngau a'r cyd-destun y tu ôl i hyn, bydd myfyrwyr yn ymarfer nifer o sgiliau trosglwyddadwy dymunol iawn. Felly mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i yrfaoedd mewn meysydd fel y diwydiannau creadigol, a'r cyfryngau creadigol yn benodol, addysg a'r sector cyhoeddus, a marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Mae nifer o raddedigion bob blwyddyn yn mynd ymlaen i ddatblygu eu gwaith ymhellach gyda ni trwy gyfnod o astudiaeth ôl-radd, ac unwaith eto mae’r ysgol yn cynnig cyfuniad o ddulliau beirniadol a chreadigol i astudio ffilm ac ymarfer y cyfryngau.
Mae cyrsiau astudiaethau creadigol a'r cyfryngau wedi arwain graddedigion i weithio yn y byd academaidd a diwydiant, yn cynnwys gwaith yn y meysydd canlynol:
- Ysgrifennu creadigol, ysgrifennu proffesiynol a chyhoeddi
- Perfformio a'r theatr, ar y llwyfan a thu ôl i’r llwyfan
- Newyddiaduraeth brintiedig a/neu ddarlledu
- Actorion, cyflwynwyr ac ym maes cynhyrchu rhaglenni teledu
- Diwydiannau hysbysebu a marchnata
- Radio, fel cyflwynwyr, yn ogystal ag ym maes cynhyrchu rhaglenni
- Cynhyrchu ym maes y cyfryngau ar y we a digidol
- Diwydiannau amlgyfrwng.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.