Cefnogi Gofalwyr Ifanc sy'n Fyfyrwyr
Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am ein holl fyfyrwyr a'u cefnogi.
Mae'r Brifysgol yn ymwybodol y gallai gofalu gael goblygiadau ariannol gyda myfyrwyr yn profi costau teithio uwch a/neu'n canfod eu hunain yn llai abl i weithio'n rhan-amser i ategu eu dyfarniadau cyllid myfyrwyr.
I leihau rhai o’r pryderon ariannol hyn mae Prifysgol Bangor yn cynnig Bwrsariaeth o £1,000 o Gronfa Caledi'r Brifysgol i ofalwyr ifanc sy'n oedolion israddedig ac ôl-raddedig a addysgir llawn amser yn y DU.
Gofalwr Ifanc yw rhywun o dan 25 oed, pan ddechreuodd eu cwrs, sy'n gofalu am aelod o'r teulu, partner neu ffrind ag anabledd corfforol neu synhwyraidd, anabledd dysgu, cyflwr meddygol, problemau iechyd meddwl neu rywun sy'n gaeth i gyffuriau, alcohol neu gamblo.
Os ydych chi'n Ofalwr sy'n cael cyflog am eich dyletswyddau gofalu neu'n derbyn Lwfans Gofalwr, nid ydych chi'n gymwys ar gyfer y bwrsari hwn.
Cymhwysedd
I fod yn gymwys rhaid i fyfyrwyr fod:
-
yn fyfyriwr cartref israddedig neu ôl-raddedig llawn amser
- yn fyfyriwr cartref o dan 25 oed pan ddechreuoch chi eich cwrs yn gymwys i gael cyllid fel myfyriwr "cartref" yn y DU a bod yn brif ofalwr di-dâl i aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch neu anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gaethiwed.
Tystiolaeth Angenrheidiol
Bydd angen tystiolaeth arnom i brofi statws eich Gofalwr Ifanc. Dylai'r dystiolaeth hon fanylu ar eich cyfrifoldebau gofalu ac nid pam mae'r person rydych chi'n gofalu amdano angen cymorth.
-
tystiolaeth eich bod chi'n derbyn Lwfans Gofalwyr cyn dechrau eich cwrs presennol
- neu lythyr cefnogaeth ar bapur nodyn pennawd neu e-bost sefydliad gan: weithiwr proffesiynol trydydd parti, e.e. Athro/Athrawes ysgol, Tiwtor Personol, Meddyg Teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol neu grŵp cymorth gofalwyr neu weithiwr cymorth
Dylai'r llythyr neu'r e-bost gynnwys y wybodaeth ganlynol:
-
eich enw,
-
pwy rydych chi'n gofalu amdano - rhiant, ffrind, partner ac ati
-
Cadarnhewch mai chi yw prif ofalwr y person hwn
-
manylwch yn fyr ar y gofal rydych chi'n ei ddarparu
I Wneud Cais
- anfonwch dystiolaeth atom o'ch cyfrifoldebau gofalu di-dâl ar ôl i chi gofrestru'n llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd
- Gallwch anfon y dystiolaeth atom drwy e-bost neu ddod â'r dystiolaeth atom yn bersonol - anfonwch e-bost i drefnu apwyntiad : moneysupport@bangor.ac.uk
Llawlyfr Gofalwyr
Mae Prifysgol Bangor yn cynhyrchu llawlyfr ar gyfer ein myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, sy'n rhoi manylion y gefnogaeth sydd ar gael yn ogystal â rhifau ffôn a manylion cyswllt a allai fod o gymorth mewn unrhyw argyfwng.
Budd-daliadau Lles
Fel rheol nid oes gan fyfyrwyr amser llawn hawl i Lwfansau Gofalwyr ac mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa ddyfarnu i wirio'ch hawl cyn dechrau ar eich astudiaethau. I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd, ewch i’r wefan Gov.uk hon
Gwybodaeth Ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am ein partneriaethau a'r gwaith a wneir yn y Brifysgol i gefnogi Gofalwyr ewch i wefan y Ganolfan Mynediad Ehangu