Taith Barddoniaeth Botanegol - Synhwyrau Chwyldroadol
Mae'r digwyddiad hwn yn dathlu mis Brumaire, neu niwl. Sut gallwn ni drosi argraffiadau niwlog y synhwyrau yn iaith? Ymunwch â’r bardd Zoë Skoulding am daith gerdded hydrefol yng Ngardd Fotaneg Treborth. Bydd yn cyflwyno taith gerdded ysgrifennu creadigol a gweithdy a ysbrydolwyd gan Galendr Chwyldroadol Ffrengig 1793, lle cafodd yr holl fisoedd eu hail-enwi ar ôl tymhorau, a'r dyddiau'n cael eu henwi ar ôl planhigion, anifeiliaid neu offer amaethyddol.
Wrth ymateb i olwg, sain, cyffyrddiad, blas ac arogl, byddwn yn darganfod sut mae’r broses o enwi a disgrifio yn siapio ein perthynas â phlanhigion. Byddwn yn defnyddio iaith synhwyraidd llysieulyfrau a thestunau botanegol fel ffynhonnell ar gyfer ysgrifennu creadigol, ac ar ymchwil sy’n datgelu sut mae planhigion yn cyfathrebu, yn teithio ac yn siapio’r byd rydyn ni’n byw ynddo. Wrth i ni chwilio am ffyrdd newydd o wneud ystyr yng ngofod gardd, byddwn yn archwilio'r potensial chwyldroadol a allai fod yn gyffredin rhwng pobl a phlanhigion.
Gwybodaeth hygyrchedd Gwybodaeth hygyrchedd
Bydd y digwyddiad yn cynnwys rhywfaint o gerdded hamddenol ar dir gwastad (ond o bosibl yn fwdlyd), gyda sesiwn dan do i ddilyn. Cynghorir dillad ac esgidiau dal dwr. Cysylltwch â'r trefnydd ynglŷn â gofynion mynediad penodol.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Hyb Gŵyl Prifysgol Bangor.