Yr Athro Adrian Gepp yn traddodi yng Nghynhadledd y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol (RSS) 2023 yn Harrogate Medi 4 - Medi 7
Bydd yr Athro Adrian Gepp yn traddodi yng Nghynhadledd y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol (RSS) 2023, yn Harrogate rhwng Medi 4 a Medi 7.
Mae ganddo dri o bapurau ymchwil yn y gynhadledd arbennig hon. Bydd ei gydweithwyr ymchwil yn cyflwyno dau o’r rheini: y project dadansoddeg iechyd Automated coding of suicidal ideation in emergency department presentations: balancing interpretability and performance, a'r project cyllid The Quest for Optimal Trade Execution: Bydd Adrian hefyd yn cyflwyno ei bapur awdur unigol yntau Successes, failures and lessons learned from developing Data Analytics programmes within Business Schools in multiple countries, yr enillodd un ohonynt wobr genedlaethol. Bydd y cyflwyniad yn tynnu ar y profiad helaeth hwnnw o ymchwilio ac addysgu dadansoddeg data, a bydd yn rychwantu meysydd cymhwysol megis twyll, cyllid a hysbysebu yn ogystal â thwristiaeth, chwaraeon a risg gweithredol a dadansoddeg ragfynegol arall i fusnesau.
Yn ôl yr Athro Gepp, “mae'r galw am ddadansoddwyr data busnes yn fwy na'r cyflenwad. Fodd bynnag, noda un o adroddiadau’r diwydiant fod llai na thraean o brojectau dadansoddeg yn arwain at ganfyddiadau ymarferol.” Mae’n credu “y gall addysg prifysgol mewn dadansoddeg data chwarae rhan fawr i wella’r ffigur siomedig hwnnw,” a “dylai rhaglenni prifysgol gydbwyso addysgu hyfedredd dadansoddi data technegol, datblygu craffter busnes a’r gallu i gymhwyso dadansoddeg yn y byd go iawn.” Bydd sgwrs Adrian hefyd yn cynnwys sylwadau adfyfyriol ynglŷn ag ystafelloedd dosbarth ben i waered, deunyddiau rhyngweithiol ar-lein, microgymwysterau byr ar raddfa fawr ar lwyfannau allanol/mewnol, meddalwedd poblogaidd a chonlfeini ar ffurf ymgynghoriaeth ac astudiaethau achos cyhoeddedig. Ddechrau 2023, lansiodd Ysgol Busnes Bangor MSc mewn dadansoddeg data busnes yn ddiweddar a bydd BSc yn dilyn yn ddiweddarach yn 2023 a fydd yn cynnwys project gyda’r diwydiant sy’n defnyddio data o’r byd go iawn. Cyn arwain datblygiad rhaglenni blaengar Ysgol Busnes Bangor mewn dadansoddeg data busnes ar sail ymchwil, bu Adrian yn arwain tîm yn ei sefydliad blaenorol i gael eu henwi mewn Gwobr yn Awstralia am Addysgu Prifysgol (AAUT) am Gyfraniadau Eithriadol i Ddysgu Myfyrwyr. Dywedwyd “Am ddylunio rhaglenni dadansoddi data sy'n meithrin profiadau dysgu dilys sy'n canolbwyntio ar ddatrys problemau’r diwydiant i gynhyrchu graddedigion sy’n meddu ar hyfedredd technegol a chraffter busnes ymarferol.” Roedd adborth y cyflogwyr yn cynnwys, “Rwyf wedi gweld yn gyson bod eu rhaglenni dadansoddi data’n creu graddedigion sy’n barod am swydd ac sy’n fedrus yn fasnachol.”