Modiwl CXD-1013:
Theatr Ewrop: Athen, Apocalyps a'r Abswrd
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Angharad Price
Amcanion cyffredinol
Datblygiad y theatr yn Ewrop yw pwnc y modiwl hwn, gyda phwyslais arbennig ar y theatr fodern. Byddwn yn edrych ar ddatblygiad y ddrama yn sgil y chwyldro diwydiannol, gan drafod dylanwad gwleidyddiaeth, chwyldro a rhyfel ar ddatblygiad y theatr yn Ewrop.
Cynnwys cwrs
Edrychir ar waith dramodwyr fel Ibsen, Strindberg, Chekhov, Brecht, Beckett ac eraill, a byddwn yn trafod dylanwad gwleidyddiaeth, chwyldro a rhyfel ar ddatblygiad y ddrama yn Ewrop. Trwy astudio cyfieithiadau Cymraeg o rai o ddramâu mawr y byd, dyma fodiwl rhyngwladol sy'n rhoi cefndir gwerthfawr i hanes y ddrama yng Nghymru.
Meini Prawf
ardderchog
A- i A*
Dylai'r traethawd a'r atebion yn yr arholiad ddangos gwybodaeth drylwyr o'r ffynonellau cynradd ac eilradd safonol yn y maes ynghyd â gallu datblygedig i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o rychwant eang o ffynonellau eraill, boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol. Dylai'r farn honno fod yn un annibynnol, aeddfed a threiddgar sy'n dangos gwir allu i ddatblygu dadl glir, estynedig a rhesymegol mewn perthynas a dadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
trothwy
D- i D+
Dylai'r traethawd a'r atebion yn yr arholiad ddangos cynefindra â'r prif ffynonellau gwybodaeth eraill ynghyd â'r gallu i gywain, dadansoddi a mynegi barn bersonol ar ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael ar gystrawen a theithi'r iaith Gymraeg.
da
B- i B+
Dylai'r traethawd a'r atebion yn yr arholiad ddangos gwybodaeth dda o'r ffynonellau cynradd ac eilaidd safonol ynghyd â'r gallu i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o nifer sylweddol o ffynonellau eraill boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol a gallu i ddadansoddi a beirniadu, mewn modd cytbwys a chlir, ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Dangos gwybodaeth am ddamcaniaethau ym maes bioleg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a esgorodd ar naturiolaeth fel mudiad theatraidd.
-
Dangos gwybodaeth am themâu drâmau o eiddo Ibsen a Strindberg.
-
Dadansoddi'r modd y ceisiodd y dramodwyr hyn gyfleu eu themâu mewn termau theatraidd ar lwyfan.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd 1 | 50.00 | ||
Arholiad | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 2 awr darlith x 11 fydd yn sicrhau llwyddiant y deilliannau dysgu |
22 |
Private study | Astudio annibynnol. |
178 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 1 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 1 (BA/WCW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 1 (BA/ABCH)
- 3Q5Q: BA Cymraeg and English Literature year 1 (BA/CEL)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)
- R805: BA Modern Languages & Cymraeg year 1 (BA/MLCYM)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)
- QV51: BA Cymraeg/History year 1 (BA/WH)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 1 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 1 (BA/WS)