Modiwl HTH-2050:
Oes y Jazz
Oes y Jazz: Diwylliant, Sgandal a Thlodi 2025-26
HTH-2050
2025-26
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Mari Wiliam
Overview
Mae'r cyfnod rhwng 1900 a 1939 yn aml yn cael ei ddiffinio gan y negyddol yn nhermau dirwasgiad economaidd, argyfwng a dirywiad. Tra bod yr elfennau hyn yn greiddiol i unrhyw astudiaeth o hanner cyntaf yr 20fed ganrif ym Mhrydain, bydd y modiwl hwn yn ceisio herio’r dehongliad traddodiadol hwn trwy ddefnyddio ffasiymau hanesyddiaethol mwy diweddar i archwilio moderneiddio, diwylliant poblogaidd a sgandal, o’r Cyfnod Edwardaidd hyd at ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Mae’n mynd y tu hwnt i fyd gwleidyddiaeth, gan roi dealltwriaeth i fyfyrwyr o newid cymdeithasol a’i effaith ar hunaniaeth, diwylliant a bywydau bob dydd. Roedd Jazz nid yn unig yn genre cerddorol, ond yn gysyniad oedd yn ymgorffori dadleuon am rywioldeb a moesoldeb, ac yn ffactor yn ymddangosiad ffenomenau cymdeithasol fel y ‘flappers’. Rhoddir pwyslais arbennig ar astudiaethau achos rhanbarthol, yn enwedig yng Nghymru, yn ogystal â rhai cymharol gydag America yn ystod Oes y Jazz, er mwyn gosod y profiad Prydeinig yn ei gyd-destun. Bydd myfyrwyr yn cael eu harwain i archwilio ffynonellau gwreiddiol, gan gynnwys cofiannau, erthyglau, llenyddiaeth, cerddoriaeth boblogaidd, celf a ffilm.
Mae’r pynciau a drafodir ar y modiwl yn cynnwys: - Rhyfel, Ymerodraeth a Moderneiddio - Monarchiaeth, brenhiniaeth a hunaniaeth genedlaethol - Moderneiddio technolegol - Y Great Gatsby? America Oes y Jazz - Prydain a Thlodi - Gamblo, whippets a bwyd: bywydau dosbarth gweithiol - Cenedlaetholdeb a hunaniaeth Gymreig - Oswald Mosley ac Undeb Ffasgwyr Prydain (BUF). - Rolau rhywedd a ffasiwn - Y Bright Young People a Sgandal. - Jazz ac Americaneiddio. - Chwaraeon a chymdeithas.
Learning Outcomes
- Bod yn gyfarwydd ag ystod eang o ffynonellau gwreiddiol a deall eu harwyddocâd hanesyddol.
- Dangos dealltwriaeth fanwl o Brydain 1900-1939.
- Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol a thrafodaethau academaidd ar agweddau penodol o'r cyfnod.
- Datblygu persbectifau cymharol ar y dadleuon hanesyddol yn ymwneud â datblygiadau ym Mhrydain yn ystod y cyfnod hwn.
- Deall a gwerthuso'r modd mae'r cyfnod wedi'i bortreadu mewn ffynonellau eilaidd.
- Mynd i’r afael â chymhlethdod ail-greu’r gorffennol, yn arbennig wrth astudio hanesion cenedlaethol a rhanbarthol.
- Ymwneud yn fanwl â chysyniadau a digwyddiadau penodol o'r cyfnod.
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
Mae'r adroddiad hwn wedi'i gynllunio fel asesiad byd-go-iawn, i gael myfyrwyr i ymgysylltu â sefyllfa byd gwaith. Yn yr achos hwn, bydd yn adroddiad mewn ymateb i'r cyfarwyddyd canlynol: Mae cwmni cyfryngau am ddatblygu rhaglen ddogfen am Brydain yn ystod Oes y Jazz. Cynhyrchwch adroddiad i'r cwmni yn amlinellu eich syniad ar gyfer rhaglen ddogfen o'r fath, gan ei gyfiawnhau yn defnyddio hanesyddiaeth. Gellir cynnwys ffynonellau gwreiddiol a/neu ddelweddau hefyd, ond nid ydynt yn hanfodol. Gall yr awgrym am raglen ddogfen fod yn seiliedig ar ongl o’ch dewis: gallai fod yn berson, yn ddigwyddiad, yn thema a/neu’n cynnwys cymariaethau trawswladol. Dylid cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth (ni fydd y rhain yn cyfrannu at y nifer geiriau). Dylai'r adroddiad ei hun fod c. 2,000 o eiriau gyda c. o ddarn myfyriol 500 gair.
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd y traethawd 2,500 hwn yn seiliedig ar ddadansoddiad o ffynhonnell wreiddiol o'ch dewis. Dylech drafod eich dewis ymlaen llaw gyda chynullydd y modiwl, a all hefyd eich cynorthwyo i ddod o hyd i ffynhonnell addas
Weighting
50%