Modiwl HXC-1011:
Ewrop yn y Canol Oesoedd Uchel
Ewrop yn y Canol Oesoedd Uchel 2022-23
HXC-1011
2022-23
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Modiwl - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Mark Hagger
Overview
Mae’r modiwl yn rhoi trosolwg o nifer o bynciau allweddol, gan adeiladu darlun o ddatblygiadau yn Ewrop Ladin yn ei chyfanrwydd ar draws y cyfnod a astudiwyd. Bydd darlithoedd a seminarau’n canolbwyntio ar: 1. Economi a chymdeithas yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif; 2. Y babaeth ddiwygiadol ac Ymryson yr Arwisgo; 3. Mynachaeth a'r urddau crefyddol newydd; 4. Crefydd boblogaidd a heresi; 5. Ffrainc Gapetaidd; 6. Yr Almaen a'r Ymerodraeth; 7. Dysg a bywyd deallusol; 8. Ehangiad Ewrop Ladin; 9. Y Croesgadau; 10. Ailoresgyniad Sbaen. Bydd myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs yn astudio’r pynciau hyn gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol wedi’u cyfieithu (megis The Deeds of Louis the Fat, Gesta Francorum, a History of my Calamities gan Peter Abelard) a’r hanesyddiaeth fodern am bob un o’r pynciau hyn.
Bydd y modiwl yn rhoi trosolwg o nifer o bynciau allweddol, gan adeiladu darlun o ddatblygiadau yn Ewrop Ladin yn ei chyfanrwydd ar draws y cyfnod a astudir. Bydd darlithoedd a seminarau’n canolbwyntio ar: 1. Economi a chymdeithas yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif; 2. Y babaeth ddiwygiadol ac Ymryson yr Arwisgo; 3. Mynachaeth a'r urddau crefyddol newydd; 4. Crefydd boblogaidd a heresi; 5. Ffrainc Gapetaidd; 6. Yr Almaen a'r Ymerodraeth; 7. Dysg a bywyd deallusol; 8. Ehangiad Ewrop Ladin; 9. Y Croesgadau; 10. Ailoresgyniad Sbaen. Bydd myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs yn astudio’r pynciau hyn gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol wedi’u cyfieithu (megis The Deeds of Louis the Fat, Gesta Francorum, a History of my Calamities gan Peter Abelard) a’r hanesyddiaeth fodern am bob un o’r pynciau hyn.
Assessment Strategy
-trothwy -Mae tair gradd ar gyfer perfformiad trydydd dosbarth: D+ (48%)Rhoddir marc D+ i waith os yw: yn dangos tystiolaeth o waith darllen derbyniol, ond nid yw'n mynd lawer y tu hwnt i'r hyn y cyfeiriwyd ato mewn nodiadau darlith a/neu werslyfr sylfaenol; yn ymdrin â llawer o'r hyn sydd ei angen ond yn methu â thrafod un neu rai agweddau hanfodol ar y pwnc; yn defnyddio deunydd perthnasol ond yn methu yn rhannol â'i gyfuno'n gyfanwaith clir, neu'n cynnal dadl glir am ddim ond y rhan helaethaf o'r darn; yn defnyddio rhywfaint o dystiolaeth i gefnogi pwyntiau unigol, ond weithiau’n methu â gwneud hynny, neu’n dangos anhawster wrth bwyso a mesur tystiolaeth, neu’n dewis tystiolaeth annibynadwy; yn dangos ymwybyddiaeth y gellir dehongli'r gorffennol mewn gwahanol ffyrdd ond heb drafod hynny’n mewn unrhyw ddyfnder; wedi’i gyflwyno’n gywir ar y cyfan ond yn cynnwys rhannau lle mae problemau difrifol o ran cyflwyniad, arddull, sillafu, gramadeg neu lunio paragraffau (ond gweler yr adran am ddyslecsia isod); yn defnyddio cyfeiriadau a llyfryddiaeth lle mae angen hynny, ond weithiau’n camddeall sut i'w defnyddio'n briodol; neu'n gwneud camgymeriadau wrth eu cyflwyno. D (45%) Rhoddir marc D i waith os yw: yn dangos tystiolaeth o isafswm darllen derbyniol, yn seiliedig yn rhannol ar nodiadau darlith a/neu werslyfr sylfaenol; yn ymdrin ag ychydig o'r hyn sydd ei angen ond yn methu â thrafod rhai agweddau mawr a hanfodol ar y pwnc; yn defnyddio peth deunydd perthnasol ond yn methu’n rhannol â'i gyfuno'n gyfanwaith clir, neu'n cynnal dadl glir am ddim ond rhai rhannau o'r darn; yn defnyddio rhywfaint o dystiolaeth i gefnogi pwyntiau unigol, ond yn aml yn methu â gwneud hynny, neu’n dangos anhawster wrth bwyso a mesur tystiolaeth, neu’n dewis tystiolaeth annibynadwy, annodweddiadol neu amhriodol; yn dangos peth ymwybyddiaeth y gellir dehongli'r gorffennol mewn gwahanol ffyrdd, ond nid yw’r gwahaniaethau hynny’n cael eu trafod na’u dadansoddi mewn unrhyw ddyfnder; yn aml wedi’i gyflwyno’n gywir ond yn cynnwys rhannau lle mae problemau difrifol o ran cyflwyniad, arddull, sillafu, gramadeg neu lunio paragraffau (ond gweler yr adran am ddyslecsia isod); yn defnyddio cyfeiriadau a llyfryddiaeth lle mae angen hynny, ond weithiau mae'r ymgeisydd yn camddeall sut i'w defnyddio'n briodol; neu'n gwneud camgymeriadau difrifol wrth eu cyflwyno. D- (42%) Rhoddir marc D- i waith os yw: yn dangos tystiolaeth o isafswm darllen derbyniol, yn seiliedig yn bennaf ar nodiadau darlith a/neu werslyfr sylfaenol; yn ymdrin â rhannau o’r hyn sydd ei angen ond yn methu â thrafod rhai agweddau mawr a hanfodol ar y pwnc; yn defnyddio peth deunydd sydd efallai’n berthnasol ond yn methu â'i gyfuno'n gyfanwaith clir, neu'n cynnal dadl glir am ddim ond rhai rhannau o'r darn; yn defnyddio tystiolaeth i gefnogi pwyntiau unigol o bryd i’w gilydd, ond yn aml yn methu â gwneud hynny, neu’n dangos anhawster wrth bwyso a mesur tystiolaeth, neu’n dewis tystiolaeth annibynadwy, annodweddiadol neu amhriodol; efallai’n dangos peth ymwybyddiaeth y gellir dehongli'r gorffennol mewn gwahanol ffyrdd, ond nid yw’r gwahaniaethau hynny’n cael eu trafod na’u dadansoddi mewn unrhyw ddyfnder; wedi’i gyflwyno’n gywir yn rhannol ond yn cynnwys rhannau lle mae problemau difrifol o ran cyflwyniad, arddull, sillafu, gramadeg neu lunio paragraffau (ond gweler yr adran am ddyslecsia isod); yn defnyddio cyfeiriadau a llyfryddiaeth lle mae angen hynny, ond weithiau mae'r ymgeisydd yn camddeall sut i'w defnyddio'n briodol neu'n gwneud camgymeriadau difrifol wrth eu cyflwyno. Yn ogystal, ar gyfer gwaith sy'n methu â chyrraedd y safon ar gyfer anrhydedd: E+ (38%)Darllen: Gall gwaith ddangos tystiolaeth o ddarllen - ond arwynebol yw hyn i raddau helaethCynnwys: Mae'r gwaith yn trafod nifer gyfyngedig o'r agweddau sylfaenol ar destun, ond yn gadael llawer allan; neu'n dangos gwybodaeth gyfyngedig i raddau helaeth o'r rhai a drafodir ynddo; neu mae'n rhy fyr; neu'n cynnwys gwallau mawr ynghylch patrwm digwyddiadau.Dadl: Mae'r gwaith wedi ei drefnu'n wael gan fwyaf; neu mae'n cynnwys dadl sy'n aneglur gan fwyaf; neu mae'n cyflwyno dadl sy'n bur amherthnasol i'r dasg dan sylw.Dadansoddiad: Mae'r gwaith yn defnyddio dim ond swm cyfyngedig o dystiolaeth ac yn tueddu mwy i fynegi barn heb lawer o gefnogaeth o ffeithiau hanesyddol (neu dystiolaeth archaeolegol); neu'n camddefnyddio tystiolaeth; neu'n dangos dim ond ymwybyddiaeth gyfyngedig y gellir dehongli tystiolaeth mewn gwahanol ffyrdd.Cyflwyniad: Mae'r gwaith yn cynnwys rhai camgymeriadau difrifol mewn cyflwyniad neu arddull ysgrifennu neu o ran cysondeb; neu'n gwneud rhai camgymeriadau difrifol mewn gramadeg, sillafu a llunio paragraffau (ond gweler canllawiau ar ddyslecsia isod).Cyfarpar ysgolheigaidd: Mae’r gwaith yn dueddol o gamddefnyddio cyfeiriadau a llyfryddiaeth, neu'n anghyson o ran cydnabod pan fydd y rhain yn hanfodol.
-da -Mae tair gradd ar gyfer perfformiad ail ddosbarth uwch: B+ (68%)Rhoddir marc B+ i waith os yw'n gyson gryf o ran: ymdrin â'r hyn sydd ei angen mewn dyfnder ac yn fanwl; hyrwyddo dadl strwythuredig, berthnasol, â ffocws da; dadansoddi a defnyddio ystod briodol o dystiolaeth hanesyddol a/neu archaeolegol ac ystyried gwahaniaethau dehongli posibl; ac wedi’i gyflwyno’n gywir gyda chyfeiriadau a llyfryddiaeth lle bo hynny'n briodol.B (65%) Rhoddir marc B i waith os yw: yn amlwg ei fod wedi'i seilio ar ddarllen sylweddol; yn ymdrin â'r hyn sydd ei angen mewn dyfnder ac yn fanwl; yn datblygu dadl berthnasol, â ffocws, wedi'i strwythuro'n dda; yn dadansoddi a defnyddio ystod briodol o dystiolaeth hanesyddol a/neu archaeolegol ac ystyried gwahaniaethau dehongli posibl; ac wedi’i gyflwyno’n gywir gyda chyfeiriadau a llyfryddiaeth lle bo hynny'n briodol.B- (62%) Rhoddir marc B- i waith os yw: yn amlwg wedi'i seilio ar ddarllen sylweddol; yn ymdrin â'r hyn sydd ei angen mewn peth dyfnder ac yn fanwl; yn datblygu dadl berthnasol, â ffocws, wedi'i strwythuro'n briodol; yn dadansoddi a defnyddio ystod briodol o dystiolaeth hanesyddol a/neu archaeolegol ac ystyried gwahaniaethau dehongli posibl; ac wedi’i gyflwyno’n gywir gyda chyfeiriadau a llyfryddiaeth lle bo hynny'n briodol.
-rhagorol -Mae pedair gradd ar gyfer gwaith dosbarth cyntaf: A* (95%) Ar y lefel hon, mae gwaith dosbarth cyntaf yn ennill ei farc trwy ddangos gwreiddioldeb dilys. Gall hyrwyddo dadl newydd neu ymdrin â thystiolaeth na chafodd ei hystyried o'r blaen. Ceir gwreiddioldeb syniadau neu dystiolaeth o'r fath ynghyd â’r safonau o ran cynnwys, dadl a dadansoddiad a ddisgwylir o waith dosbarth cyntaf sy’n cael marc A neu A+. Ar y lefel hon, mae'r gwaith yn disbyddu deunydd eilaidd perthnasol, yn cynnwys mewn traethawd hir dystiolaeth wreiddiol helaeth ac yn aml heb ei rhagweld, ac nid yw'n dangos unrhyw anghywirdeb ffeithiol na deongliadol. Gall hefyd ddangos meistrolaeth o theori a defnyddio damcaniaethau'n graff ac yn llawn dychymyg. Yn achos traethodau a thraethodau hir, bydd gwaith o'r safon hon wedi'i gyflwyno'n gaboledig, a bydd modd ei gyhoeddi.A+ (87%) Ar y lefel hon, bydd manylder perthnasol a chyfoeth trawiadol yn cefnogi dadl gwaith dosbarth cyntaf, ond bydd yn defnyddio'r dystiolaeth ymhellach yn gyson gywir ac yn rhoi arwyddion o ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd annisgwyl. Bydd yn dangos ymwybyddiaeth arbennig o graff a beirniadol o'r hanesyddiaeth a/neu'r ddadl archaeolegol yn gyson, gan gynnwys dulliau cysyniadol, ac yn rhoi disgrifiad arbennig o drawiadol o pam mae'r casgliadau y daethpwyd iddynt yn bwysig mewn dadl hanesyddol neu archaeolegol benodol. Bydd yn dangos dull nodedig o soffistigedig o ymdrin â gwrthwynebiadau posibl, gan gymedroli'r ddadl yng ngoleuni gwrth-enghreifftiau, neu gynhyrchu cyfuniad diddorol o safbwyntiau cyferbyniol. Bydd yn waith gwreiddiol. Bydd safonau’r cynnwys, y ddadl a'r dadansoddiad a ddisgwylir yn waith o'r radd flaenaf yn gyson. Mewn traethodau a thraethodau hir, bydd safonau cyflwyno yn uchel iawn.A (80%) Ar y lefel hon, bydd cyfoeth o fanylion perthnasol a thrawiadol yn cefnogi dadl gwaith dosbarth cyntaf. Bydd fel rheol hefyd yn dangos ymwybyddiaeth graff o'r hanesyddiaeth a/neu'r ddadl archaeolegol, ac yn rhoi disgrifiad arbennig o drawiadol o pam mae'r casgliadau y daethpwyd iddynt yn bwysig mewn dadl hanesyddol neu archaeolegol benodol. Bydd yn dangos dull nodedig o gynnil o ymdrin â gwrthwynebiadau posibl, gan liwio'u dadl yng ngolau gwrth-enghreifftiau, neu gynhyrchu cyfuniad diddorol o safbwyntiau cyferbyniol. Yn gyffredinol, bydd safonau'r cynnwys, y ddadl a'r dadansoddi a ddisgwylir yn gyson well na gwaith ail ddosbarth uwch da. Mewn traethodau a thraethodau hir, bydd safonau cyflwyno yn uchel.A- (74%) Yn aml, rhoddir marc dosbarth cyntaf ar y lefel hon dim ond trwy arddangos un neu fwy o nodweddion traethawd ail ddosbarth uwch da i raddau neilltuol, er enghraifft cyflwyno dadl â threfn arbennig o gryf, ffocws cryf, ystod eang o ddarllen, ymgysylltu â'r hanesyddiaeth a/neu'r ddadl archaeolegol, dyfnder y ddealltwriaeth, arddull di-fai, a chyflwyniad cryf.
-lefel arallMae tair gradd ar gyfer perfformiad ail ddosbarth is:C+ (58%) Rhoddir marc C+ i waith os yw: yn dangos tystiolaeth o ddarllen sylweddol, ond yn parhau i fod yn rhannol arwynebol; yn ymdrin ag agweddau pwysig y maes perthnasol, ond mewn rhai mannau nid oes iddo ddyfnder; yn datblygu dadl gydlynol a pherthnasol; yn defnyddio rhywfaint o dystiolaeth i gefnogi ei bwyntiau; ac wedi’i gyflwyno’n weddol dda gyda dim ond ychydig iawn o gamgymeriadau, neu ddim o gwbl. Bydd hefyd yn cynnwys cyfeiriadau a llyfryddiaeth briodol, fodd bynnag gall y rhain fod ychydig yn anwadal a/neu'n rhannol annigonol. C (55%) Rhoddir marc C i waith os yw: yn dangos tystiolaeth o ddarllen sylweddol, ond yn parhau i fod yn arwynebol; yn ymdrin â'r rhan fwyaf o agweddau pwysig y maes perthnasol, ond nid oes iddo ddyfnder; yn datblygu dadl gydlynol a pherthnasol gan mwyaf; yn defnyddio rhywfaint o dystiolaeth gyfyngedig i gefnogi ei bwyntiau; ac wedi’i gyflwyno’n weddol dda gyda dim ond camgymeriadau cyfyngedig. Bydd hefyd yn cynnwys cyfeiriadau a llyfryddiaeth briodol, fodd bynnag gall y rhain gynnwys rhai camgymeriadau neu fod ychydig yn anwadal a/neu'n rhannol annigonol. C- (52%) Rhoddir marc C- i waith os yw: yn dangos tystiolaeth o ddarllen sylweddol, ond ychydig o wybodaeth am astudiaethau manwl (ar gyfer gwaith blwyddyn gyntaf efallai na fydd y myfyriwr wedi darllen mwy nag ychydig o weithiau safonol; yn yr ail neu'r drydedd flwyddyn efallai na fydd y myfyriwr wedi darllen detholiad da o erthyglau cyfnodolion a monograffau arbenigol); yn ymdrin â rhan fwyaf o elfennau pwysig y maes perthnasol, ond mae'n brin o ddyfnder neu'n methu maes sylweddol (ar gyfer gwaith yr ail a'r drydedd flwyddyn gall hyn olygu ei fod yn methu â defnyddio'r manylion hanesyddol a geir mewn llenyddiaeth arbenigol); yn datblygu dadl gydlynol a pherthnasol weithiau, ond mae'n crwydro oddi wrth fynd i'r afael â'r dasg dan sylw (er enghraifft, trwy osod y ddadl mewn ffordd afresymegol, cynnwys deunydd amherthnasol, neu tueddir i gyflwyno naratif sy'n rhannol berthnasol yn unig); fel rheol yn defnyddio tystiolaeth i gefnogi pwyntiau, ond weithiau yn methu â gwneud hynny neu’n defnyddio ystod annigonol; yn dangos ymwybyddiaeth y gellir dehongli'r gorffennol mewn gwahanol ffyrdd, ond efallai y bydd yn methu â chyrraedd calon y ddadl ysgolheigaidd ganolog, neu ddeall pwynt allweddol yn llawn (yng ngwaith yr ail a'r drydedd flwyddyn, gall hyn ymestyn i fethiant i drafod cynildeb neu amwysedd pwysig yn y dystiolaeth, neu ddiffyg ymwybyddiaeth o gyflwr presennol dadl hanesyddol neu archaeolegol); wedi’i gyflwyno’n eithaf da ac mae’n cynnwys cyfeiriadau a llyfryddiaeth briodol, ond yn cynnwys rhai camgymeriadau o ran cyflwyno, neu ddefnydd priodol.
Learning Outcomes
- Cyfleu syniadau’n glir ac yn eglur.
- Cyflwyno dadleuon hanesyddol manwl am agweddau penodol o’r cyfnod a’r pwnc.
- Cyfuno dadleuon hanesyddol am ddatblygiadau hirdymor yn ystod y cyfnod.
- Dangos gallu i ddefnyddio cyfeiriadau a dyfyniadau yn unol ag ymarfer academaidd
- Dangos gwybodaeth eang o hanes Ewrop yn ystod canol yr oesoedd canol.
- Dangos gwybodaeth fanwl o agweddau penodol o'r cyfnod a'r pwnc
- Dangos ymwybyddiaeth o'r gwahanol fathau o dystiolaeth hanesyddol y mae haneswyr canoloesol yn eu defnyddio ac o'r problemau posibl gyda'r dystiolaeth honno.
- Gosod a ffurfio barn o blith y dehongliadau hanesyddol amgen o'r cyfnod, gan gynnwys safbwyntiau hanesyddiaeth gyfredol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Essay
Weighting
50%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Exam
Weighting
50%