Modiwl WXC-1004:
Cyflwyniad i Harmoni a Gwrthbwynt
Cyflwyniad i Harmoni a Gwrthbwynt 2022-23
WXC-1004
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Stephen Rees
Overview
Mae myfyrwyr yn gweithio trwy gwrs o astudiaeth a fydd yn datblygu medrau sain glust, darllen sgorau a medrau dadansoddol, creadigrwydd a dealltwriaeth drwyadl o’r paramedrau ar gyfer creu cerddoriaeth yn ystod y cyfnod dan sylw. Bwriedir WXC-1004 ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd â phrofiad cyfyngedig o egwyddorion harmoni a gwrthbwynt (e.e. y rhai nad ydynt wedi astudio harmoneiddio coralau fel rhan o lefel A neu gymwyster gyffelyb), ynghyd â'r myfyrwyr hynny nad ydynt yn hyderus yn eu sgiliau yn y maes hwn.
Assessment Strategy
-threshold -(D) Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, ond dim ond dealltwriaeth sylfaenol o ymarfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Amgyffrediad sylfaenol o sgiliau allweddol yn ymwneud â'r pwnc, gyda gallu cyfyngedig i roi'r sgiliau hyn ar waith mewn cyd-destunau cerddorol eraill. Arddangos ychydig o greadigrwydd unigol. Cyflwynir gwaith yn drefnus ond gyda dim ond priodoldeb arddulliadol cyfyngedig.
-good -(B) Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, gyda dealltwriaeth dda o ymarfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Amgyffrediad da o sgiliau allweddol yn ymwneud â'r pwnc, gyda'r gallu i roi'r sgiliau hyn ar waith mewn amrywiaeth o gyd-destunau cerddorol eraill. Arddangos creadigrwydd unigol da. Cyflwynir gwaith yn drefnus, a chyda pheth priodoldeb arddulliadol.
-excellent -(A) Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, gyda dealltwriaeth ragorol o ymarfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Amgyffrediad da iawn o sgiliau allweddol yn ymwneud â'r pwnc, gyda'r gallu i roi'r sgiliau hyn ar waith yn yr amrywiaeth lawn o gyd-destunau cerddorol. Arddangos creadigrwydd unigol rhagorol. Cyflwynir gwaith yn drefnus, a chyda phriodoldeb arddulliadol llawn.
Learning Outcomes
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu dangos dealltwriaeth gadarn o egwyddorion cyfansoddi tonyddol a moddol trwy gyfansoddi *pastiche* sylfaenol.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu dangos dealltwriaeth gadarn o nodiant erwydd modern.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu dangos sgiliau mewn dadansoddi cerddoriaeth donyddol / foddol yn ôl egwyddorion sylfaenol.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu dangos sgiliau mewn darllen sgorau.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Gwaith cwrs 1: gwrthbwynt deulais
Weighting
30%
Due date
03/11/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Gwaith cwrs 2: harmoni 4-llais.
Weighting
30%
Due date
08/12/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Prif Aseiniad
Weighting
40%
Due date
09/01/2023