Modiwl WXC-3400:
Ymarfer Theatr Gyfoes
Contemporary Theatre Practice 2025-26
WXC-3400
2025-26
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Ffion Evans
Overview
Mae Ymarfer Theatr Gyfoes yn fodiwl sy'n archwilio crefft theatr ar lefel uwch. Trwy berfformio, cyfarwyddo a dramatwrgiaeth, anogir myfyrwyr i sefydlu cwmniau a chynhyrchu eu gwaith eu hunain i archwilio polisi artistig ar lwyfannau’r 21ain ganrif. Caiff dealltwriaeth o brosesau ymchwil a datblygu a gwerthoedd cynhyrchu eu rhannu a'u hymarfer drwy drafodaeth a gwaith ymarferol. Bydd y modiwl yn edrych ar strategaethau creadigol, dulliau a materion damcaniaethol sy’n deillio o greu gwaith cyfoes.
Mi fydd y myfyriwr yn ymgymryd â chynhyrchiad theatr (boed yn actor neu yn rhan o'r tîm creadigol), yn archwilio ymchwil drwy ymarfer.
Archwilio dulliau uwch crefft theatr i greu gwaith creadigol gwreiddiol.
Cyflwyno ymchwil ddamcaniaethol ac ymarferol mewn Ymarfer Theatr Gyfoes.
Datblygu deunydd ymchwil a datblygu yn ogystal â chynhyrchiad byr gan gwmni i werthuso ymarfer.
Cynhelir y modiwl bob 2 flynedd gyda myfyrwyr o'r ail a'r drydedd flwyddyn o astudiaethau isradd yn gweithio gyda'i gilydd
Assessment Strategy
Trothwy (D-, D, D+): •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig •Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Sgiliau grŵp gwan •Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da / Boddhaol (C- i C +) •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol •Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da iawn/Da B- i B+ •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol: •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda •Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
Rhagorol (A- hyd A*): •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
Learning Outcomes
- Cynllunio a gwneud ymchwiliad annibynnol digonol, ar sail ymchwil, i oleuo gwaith ysgrifenedig ac ymarferol.
- Cynllunio a chymryd rhan mewn cyfnod estynedig o archwilio ar sail ymarfer i gynorthwyo wrth greu perfformiad gwreiddiol.
- Gallu adnabod a thrafod yn drylwyr y strategaethau damcaniaethol ac ymarferol sy’n amlwg ar hyn o bryd o fewn ymarfer theatr gyfoes.
- Wedi ymgymryd â gwerthuso ar y sgiliau, dulliau gweithio a chamau gweithredu priodol sydd eu hangen wrth wneud gwaith perfformio.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad o broses perfformio Mi fydd gofyn i chi baratoi portffolio yn trafod eich prosesau ymarfer, ac ymchwil drwy ymarfer hyd at y pwynt yma o fewn eich astudiaeth ac ymarferion tuag at gynhyrchiad theatr. Beth yw'r brif fethodoleg perfformio y rydych yn ymgymryd â hwy i gefnogi eich datblygiad proffesiynol o fewn y modiwl.
Weighting
30%
Due date
28/04/2025
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Cynhyrchiad Theatr Fel dosbarth, mi fyddwn yn sefydlu hunaniaeth cwmni a datblygu cynhyrchiad byr sy'n archwilio creu perfformiad ar lwyfan yr 21ain ganrif. Fe'ch anogir i wahodd cynulleidfa gyhoeddus i gymryd rhan yn yr ymchwil â phwyslais ar ymarfer. Rhaid i'ch rhan yn y perfformiad fod yn glir a chyflwynir tudalen o A4 trwy Turnitin ar ôl y cynhyrchiad yn nodi'r hyn y gwnaethoch ei gyfrannu mewn perthynas â'ch rhan. (Boed o'n actio, cynorthwyo gyda'r cyfarwyddo neu reoli llwyfan). Mi fydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio wythnos olaf y tymor gydag ymarferion o flaen llaw.
Weighting
70%
Due date
16/05/2025