Modiwl SCL-1115:
Y Gyfraith yn Gymraeg
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Ms Sarah Thomas Morgan
Amcanion cyffredinol
Mae’r Gyfraith yn Gymraeg yn fodiwl dewisol yn y rhaglen LLB. Nod y modiwl hwn yw cyflwyno sgiliau cyfreithiol sylfaenol yn unol ag egwyddorion gloywi iaith. Y bwriad felly yw cyflwyno sgiliau cyfreithiol sylfaenol i’r myfyrwyr, megis ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu nodiadau achos, drafftio deddfwriaethau ac ysgrifennu gohebiaeth gyfreithiol. Wrth wneud hynny, rhoddir cefnogaeth ac arweiniad am yr ystyriaethau iaith perthnasol yn unol ag anghenion yr unigolyn, gan roi pwyslais arbennig ar bwysigrwydd defnyddio’r cywair priodol mewn gwahanol gyd-destunau. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin cyfrifoldeb am eu cywirdeb gramadegol, a chywirdeb eu Cymraeg gyfreithiol yn benodol, gan ddatblygu sgiliau gloywi iaith eu hunain. Yn fwy cyffredinol, bwriad y modiwl yw cynyddu hyder y myfyrwyr i drafod y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ac i’w paratoi i weithio mewn lleoliadau dwyieithog.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn cynnwys elfen gref o ddatblygu sgiliau ymchwil gyfreithiol er mwyn cyflawni tasgau megis drafftio llythyrau cyfreithiol, llunio nodiadau achos, drafftio deddfwriaethau ac yn y blaen. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb gramadegol y tasgau hyn, a rhoddir arweiniad ar ysgrifennu Cymraeg gyfreithiol raenus a chywir. Bydd pwyslais hefyd ar drafodaethau llafar cyfreithiol, a rhoddir arweiniad ar iaith lafar gywir sy’n briodol i’r cyd-destun. Bydd cyfle i ymarfer sgiliau a fydd yn cyflawnil i’r myfyrwyr wrth iddynt ddilyn eu cwrs gradd yn y Gyfraith (e.e. ysgrifennu nodiadau cydlynol, crynhoi, trosi o un iaith i’r llall). Rhan bwysig o’r modiwl fydd paratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar lle bydd cyfle i’r myfyrwyr gyflwyno elfen benodol o’r gyfraith o flaen cynulleidfa o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi’r myfyrwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau ymchwil cyfreithiol a’u sgiliau iaith trwy gyfrwng ymarferion ar safle Blackboard y modiwl.
Meini Prawf
trothwy
Peth ymchwil gyfreithiol effeithiol yn arwain at atebion sydd yn gywir gan fwyaf yn eu cyflwyniad o'r pwnc, ond ychydig yn ddiffygiol o ran cynnwys ac yn eithaf annibynadwy ar adegau. Peth meistrolaeth ar gywirdeb wrth siarad ac ysgrifennu y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith. Peth meistrolaeth ar gyweiriau llafar ac ysgrifenedig y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith. Peth dealltwriaeth o rai dulliau o loywi iaith gan gynnwys offer cyfrifiadurol. Peth meistrolaeth ar sgiliau ysgrifennu nodiadau cydlynus, crynhoi, trawsieithu, drafftio, ysgrifennu nodau achos, a chyfieithu deunydd cyfreithiol. Peth adnabyddiaeth o wahanol gyweiriau'r Gymraeg.
da
Tystiolaeth o gryn ymchwil gyfreithiol effeithiol yn arwain at atebion sydd yn gywir yn eu cyflwyniad o'r pwnc, yn gywir o ran cynnwys, ond yn cynnwys elfennau amherthnasol ac yn brin o ddadansoddi. Meistrolaeth dda ar gywirdeb wrth siarad ac ysgrifennu y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith. Meistrolaeth dda ar gyweiriau llafar ac ysgrifenedig y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith. Dealltwriaeth dda o rai dulliau o loywi iaith gan gynnwys offer cyfrifiadurol. Meistrolaeth dda ar sgiliau ysgrifennu nodiadau cydlynus, crynhoi, trawsieithu, drafftio, ysgrifennu nodau achos, a chyfieithu deunydd cyfreithiol. Adnabyddiaeth dda o wahanol gyweiriau'r Gymraeg.
ardderchog
Tystiolaeth o lawer o ymchwil gyfreithiol effeithiol yn arwain at atebion sydd yn rhagorol yn eu cyflwyniad o'r pwnc, yn rhagorol o ran cynnwys a dadansoddiad, ac yn cynnwys dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r ateb. Meistrolaeth ardderchog ar gywirdeb wrth siarad ac ysgrifennu y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith.
Canlyniad dysgu
-
Canfod, adnabod a defnyddio ffynonellau perthnasol ar gyfer ymchwil gyfreithiol.
-
Cymryd cyfrifoldeb cynyddol am sicrhau cywirdeb gramadegol eu hiaith a gwybod sut i cyflawni gwahanol gymhorthion iaith megis geiriaduron, llyfrau gramadeg ac adnoddau cyfrifiadurol i wella eu sgiliau iaith yn gyffredinol
-
Ysgrifennu nodiadau cydlynol a chynhwysfawr am destunau cyfreithiol yn Gymraeg, gan gynnwys penderfyniadau barnwrol.
-
Crynhoi deunydd cyfreithiol yn y Gymraeg.
-
Datblygu gwybodaeth am ddrafftio cyfreithiol a sgiliau yn y maes.
-
Trosi deunydd cyfreithiol o'r Saesneg i'r Gymraeg.
-
Bod yn ymwybodol o wahanol gyd-destunau iaith (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a'r modd y dylid eu defnyddio yn ôl y sefyllfa, y diben a'r gynulleidfa.
-
Trafod agweddau ar y gyfraith ar lafar gyda myfyrwyr eraill.
-
Ateb cwestiynau llafar am y gyfraith mewn sefyllfa holi ac ateb.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
GWAITH CWRS | Nodyn Deddfwriaethol | 30.00 | |
GWAITH CWRS | Nodyn Achos | 30.00 | |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Cyflwyniad 7 munud | 40.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | 36 awr o ddysgu drwy seminarau wythnosol drost semester 1 a dau. Bydd y seminarau yn cael ei cynnal ar lein. |
36 |
Private study | Bydd disgwyl i fyfyrwyr baratoi'n annibynnol ar gyfer rhai seminarau ac wrth baratoi'r aseiniadau. |
160 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Develop the ability to interpret legal rules and employ techniques of legal reasoning competently and efficiently in order to offer a range of solutions and conclusions to actual or hypothetical complex legal problems, all supported by relevant academic literature, jurisprudence and legislative research. Such solutions will be clearly communicated and presented
- Develop the ability to analyse complex legal issues, set against the background of the political, social, economic or cultural contexts in which they may arise
- Develop those skills which are necessary for scholarship and research in legal subjects, namely the ability to identify relevant primary and secondary legal sources and to retrieve accurate legal information using paper and electronic sources
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Mi fydd y myfyrwyr yn defnyddio yr un llyfryddiaeth a'r modiwlau gorfodol gradd y Gyfraith.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- M100: LLB Law year 1 (LLB/L)
- M11B: LLB Law (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (LLB/L1)
- M102: LLB Law (International Experience) year 1 (LLB/LI)